Llun o ymchwil Beaufort i ddefnydd pobl o'r Gymraeg |
Mae Beaufort Research wedi cyhoeddi dau
ddarn o waith ymchwil dros y dyddiau diwethaf. Mae un a gyhoeddwyd yn ystod yr
Eisteddfod Genedlaethol ar ran S4C, BBC Cymru a Llywodraeth yn holi ynglŷn â defnydd
pobl o’r iaith Gymraeg, a’r llall ar ran Comisiwn Silk ynglŷn â barn
pobl am rymoedd y Cynulliad.
Un peth sydd gan y ddau gyhoeddiad yn
gyffredin yw eu bod nhw’n datgelu dymuniad pobl Cymru i ail-gydio yn eu
hunaniaeth Cymreig a thyfu fel cenedl. Maen nhw eisiau rhagor o
hunanbenderfyniaeth ac maen nhw eisiau rhagor o’r Gymraeg.
Yn ôl yr ymchwil ar ran Comisiwn Silk mae 62% o boblogaeth Cymru
eisiau i’r Cynulliad gael rhagor o rymoedd. Roedd wyth o bob 10 hefyd yn
ymddiried yn y Cynulliad i weithredu er lles pobl Cymru.
Mae’r ymchwil i ddefnydd pobl o’r iaith Gymraeg yn dangos
awydd go iawn ymysg y boblogaeth i wella eu Cymraeg. Roedd 99% o’r rheini a
holwyd sy’n gallu siarad ychydig iawn o Gymraeg (y rhan fwyaf o’r rhain yn bobl
ifanc sydd wedi derbyn ychydig o’u haddysg yn y Gymraeg ond heb siarad ryw
lawer o’r iaith y tu allan i’r ysgol) yn dymuno gallu siarad Cymraeg yn well.
Fe fyddai 92% ohonynt yn croesawu’r cyfle i wneud rhagor o ddefnydd o’u Cymraeg.
Beth sy’n rhwystredig felly yw nad yw’r
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru, a bod ymdrechion i
ddatganoli rhagor o rymoedd i’r Cynulliad yn cael eu llesteirio bob gafael gan
bleidiau yn San Steffan sydd yn y lleiafrif yng Nghymru.
Ond os ydych chi - fel fi - yn dymuno
gweld Cymru sy’n meddu ar ragor o hunanreolaeth ac eisiau Cymru lle mae’r
Gymraeg yn ffynnu, mae’r canlyniadau yn rhai cadarnhaol iawn hefyd. Mae’r
boblogaeth i raddau helaeth eisiau’r 'un peth a ni'.
Comments
Post a Comment