Fe fydd yna gopi Eisteddfodol o gylchgrawn Tu Chwith ar
werth ar y Maes eleni.
Rydw i wedi cyfrannu stori fer ac felly eisoes wedi
derbyn copi drwy'r post. Dydw i heb gael cyfle i ddarllen yr holl beth eto - ond gallaf weld
ei fod yn cynnwys nifer o erthyglau gwerth eu darllen, e.e. sgwrs â y cyn-weinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg
Leighton Anrews, a trafodaeth rhwng Rhodri ap Dyfrig a Carl Morris.
Mae'n
ddiddorol cael gwybod beth mae'r genhedlaeth nesaf o Eisteddfodwyr yn ei feddwl
o ddyfodol y brifwyl! Da iawn i'r criw golygyddol am eu gwaith caled.
Comments
Post a Comment