Where there's a Wyl there's a way... |
Mae’n ymddangos bod Rhun ap Iorwerth yn
cefnogi adeiladu Wylfa B wedi’r cwbl, yn ôl yr ymateb yma i un o’i
ddarpar-etholwyr ar ei ffrwd Trydar:
@theNukeGuy Ha!Yes,I'm pro Wylfa B,& will fight to ensure our young people& communities benefit.Can't put it clearer than that!All the best.
Mae hwnnw’n ateb llawer llai amwys na’r un a
gynigiodd i’r Daily Post ar ddechrau’r ymgyrch.
Mae’n ymddangos felly bod Plaid Cymru wedi dychwelyd i’w
safbwynt pan oedd Ieuan Wyn Jones yn AC ar yr Ynys – yn erbyn ynni niwclear
ymhobman ond ym Môn.
A yw’r safbwynt yma yn un gonest, a chynaliadwy, i’r blaid? Mae
yna ddadl gref o blaid ynni niwclear erbyn hyn, gan dderbyn nad yw ynni adnewyddadwy yn
mynd i ddisodli llosgi tanwydd ffosil yn y dyfodol agos. Ac mae ynni niwclear yn llawer saffach nac y bu
(gan gofio nad yw’n debygol y bydd daeargryn a tsunami yn taro arfordir Ynys Môn).
Rwy'n gwybod wrth gwrs bod y gwrthwynebiad yn mynd yn ddyfnach na hynny. Mae rhai yn gwrthwynebu ar sail y bydd creu swyddi yn dod a pobl i mewn i'r ynys ac yn tanseilio'r iaith Gymraeg. Ond mae troi hwn yn ddadl iaith v yr economi yn gam perygl yn fy marn i - bydd pobl yn ochri efo'r economi.
Oes unrhyw obaith am newid barn ymysg rhengoedd y Blaid ar y mater yma o fewn y blynyddoedd nesaf - neu a fydd y gwrthwynebiad i ynni niwclear yn cymryd amser hir i ddadfeilio?
Comments
Post a Comment