Wrth edrych ar ddiwidrwydd, diniweidrwydd, a theyrngarwch
ein cenedl, yn nghyd a'i sefyllfa foesol a deallol
yn gyffredinol, yr ydym wedi synu peth at anngharedigrwydd ein brodyr o'r
tudraw i Glawdd Offa tuag atom. Ychydig yw y breintiau neu y manteision ydym ni
yn eu derbyn oddiar eu dwylaw. Nid yw ein hiaith, ein llenyddiaeth, ein
defodau, na'n harferion yn eu bodloni. Y mae yn mron bob peth o'n heiddo yn
annheilwng, iselwael, ffol-ddigrif, a di-werth; a mynant daeru pethau fel hyn
yn ngwyneb ffeithiau ag sydd mor lluosog ac amlwg i'r gwrthwyneb. Y mae yr
ymddygiad anfrawdol hwn yn anesboniadwy i ni. Nid ydym mewn un modd yn medru
dyfod o hyd i athrawiaeth y pwnc—fod cenedl onest,
ddiwyd, ddi-ddrwg, deyrngar, oleuedig, gwareiddiedig, a dwfn-grefyddol, yn
wastad o dan farn o gondemniad gan gydgenedl ag y mae ei hamcanion, ei
dybenion, a'i hegwyddorion gwladlywiaethol bob amser yr unrhyw.
Ond paham y synwn gymaint at ymddygiad cenedl estronol, pan y mae genym rhai yn mhlith ein cenedl ein hunain ag sydd lawn mor amddifad o deimlad
cenedlgarol. Ysgogynod yw y rhai hyn wedi cael tipyn o flas ar, ac elw
oddiwrth, eu hymdrafodaeth a'r iaith Seisnig, ac yn tybio mai eu hanrhydedd a'u
dyledswydd yw gwadu y Gymraeg, a rhoi iddi bob an air, drwy ei chyhuddo o fod
yn arw, clogyrnog, a phrin mewn adnoddau i amlygu syniadaua golygiadau
gwyddonol, &c. Un arall a ddaw, wedi cael ychydig o fisoedd o addysg yn un
o golegau israddol ein gwlad, ag a ddywed nad oes genym un llyfr o awduraeth
wreiddiol yn yr iaith. Un arall a ddaw ag a ddywed nad oes genym ddim gwell na
ffregod o farddoniaeth yn ein hiaith. Hoff waith y tylwyth hyn yw diraddio iaith
a llenyddiaeth eu gwlad, a dynoethi gwendidau, diffygion, a gwaeleddau eu cenedl o flaen y byd. Pa ryfedd, ynte, yn ngwyneb camwri
or fath oddi wrth ein brodorion ein hunain, fod estroniaid yn cymeryd y fantais
arnom i'n gwawdio a'n diraddio, ac edliw i ni ein hisraddoldeb.
Pwy a gredwn ynte? Ai Dic-Shon-Dafyddiaid ein gwlad - ai
crach-feirniaid a chrach-ysgolheigion ein mwyn-gloddiau, ein trefydd, a'n
dinasoedd, ynte gwyr o safle ac awdurdod? Boed i ni, annwyl gydwladwyr, beidio
gostwng ein penau yn herwydd y saethau gwellt y mae rhagfarn, eiddigedd, a
choegdyb yn eu hanelu atom. Boed i ni fynwesu mwy o hunan-hyder a hunan-barch,
gan edrych wrth fyned heibio ar y sawl a geisiant ein darostwng gyda'r
difaterwch neu y dirmyg a deilyngant.
-Y Gwladgarwr, Dydd Gwener Rhagfyr 13, 1878
Comments
Post a Comment