A Rhun by any other name...


Mae fy mreuddwyd o gynrychioli y Blaid Lafur mewn etholiad ar ben - a hynny oherwydd fod gen i enw rhy Gymreig!

Dywed llefarydd di-enw y Blaid Lafur, wrth drafod ymgeisyddiaeth un arall sy'n gorfod ysgwyddo baich enw o'r fath:

"Most people in Wales won’t even be able to pronounce his name, and it’s difficult to imagine someone called Rhun ap Iorwerth going down well in Islwyn, or that the party will be able to make advances in the Valleys.”

Mae'r Blaid Lafur yn hoffi gwneud pethau'n hawdd i'w hetholwyr gydag enwau cyfarwydd fel Ed, Tony, ambell i Ed arall, a Gordon. Ond efallai nad yw'r llefarydd (sydd wedi dewis cadw ei enw ef yn anhysbys) wedi sylweddoli nad yw enw cynrychiolydd presennol Islwyn - Gwyn Price - yn tarddu o'r Home Counties. A nad yw Don Touhig, Simon Danczuk a Chinyelu Onwurah erioed wedi cael unrhyw drafferthion wrth ddenu pleidleisiau eu hetholwyr nhw.

Ta waeth am hynny, beth sydd fwyaf diddorol am yr erthygl yw ei fod yn awgrymu bod y Blaid Lafur eisoes wedi symud y tu hwnt i'r is-etholiad ym Môn ac yn wir yr etholiad yn Sir Gaerfyrddin yn 2016. Mae'n nhw'n derbyn y bydd Rhun ap Iorwerth ac Adam Price yn cael eu hethol, ac yn canolbwyntio ar danseilio cenhedlaeth nesaf ACau Plaid Cymru. Pe bawn i'n Tal Michael neu ddewis y Blaid Lafur yn sir Gaerfyrddin ni fyddwn i'n hapus iawn i ddarllen sylwadau o'r fath yn y Western Mail, dwy etholaeth y gallen nhw eu cipio pe baen nhw'n mynd amdani o ddifri.

Comments

  1. Enghraifft dda yw'r Arglwydd Bedwellte. Mae pawb yn y Cymoedd yn meddwl hyd yn hyn bod problem "nocturnal incontinence" 'da fe.

    ReplyDelete
  2. Hwn ydi'r dyfyniad mwyaf trist i fi:

    "“At the moment he is going round Ynys Môn being nice to everyone and not saying anything nasty about the Labour candidate. He’s being shielded by the party hierarchy who have decided they don’t want him to say anything controversial. They’re happy to have him talk about apple pie all day long."

    H.y. "Ylwch arna fo, dio ddim y. Wleidydd go iawn. Pwy wnaeth erioed glywed am wleidydd yn dweud petha positif? Dio ddim hyd yn oed yn dweud pethau cas am ei wrthwynebydd! Weith o byth lwyddo mewn gwleidyddiaeth os nad ydio'n dechra slagio off ei wrthwynebwyr!"

    ReplyDelete

Post a Comment