Leighton Andrews |
Does yr un ymddiswyddiad wedi bod mor arwyddocaol ers i Alun
Michael roi’r ffidil yn y to 12 mlynedd yn ôl.
Ond er ei fod yn braf gwel rywfaint o
gyffro yn y Cynulliad, nid yw’n beth da colli un o weinidogion mwyaf peniog
Llywodraeth Cymru. Roeddwn i’n parchu ymdrechion Leighton i godi safonau addysg
yn y wlad yma. Ac er nad ydw i’n teimlo ei fod wedi gwneud digon i geisio hybu
defnydd yr iaith Gymraeg, roedd yn braf gweld ei frwdfrydedd amlwg ynglŷn â
thechnoleg ddigidol yn yr iaith (pwnc yr ydw i hefyd yn ymddiddori ynddo!).
Gellid bod wedi gwneud yn llawer gwaeth.
Ond a fydd Leighton Andrews yn hapus ar y
meinciau cefn? Efallai y bydd yn hapus i aros yno nes herio Leanne Wood yn
etholiad 2016 – fe fydd honno’n frwydr haws i’w ennill os yw’n gallu
gwrthwynebu cau ysgolion ac ysbytai yn y cyfamser.
Ond a allai Leighton fod yn llygadu swydd
Carwyn Jones ei hun? Roedd Rhodri Morgan ar Newyddion 9 heno’n lled-awgrymu bod
ei olynydd wedi gwneud smonach o bethau yn gorfodi ymddiswyddiad Leighton
Andrews.
Comments
Post a Comment