Rhun ap Iorwerth a newyddiaduraeth wrthrychol


Rhun ap Iorwerth
Mae rhai o hoelion wyth y Blaid Lafur yng Nghymru wedi mynegi eu hanfodlonrwydd â phenderfyniad un o gyn-ohebwyr y BBC i sefyll dros Blaid Cymru.

Cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth heddiw y bydd yn rhoi gorau i’w swydd yn y BBC er mwyn sefyll yn etholaeth Ynys Môn.

Dywedodd Alun Davies ar Twitter “he's been interviewing me recently and this blows away his personal and the BBC's credibility”.

Ac roedd hyn cyn i Rhun ap Iorwerth gyhoeddi ei fod yn sefyll, hyd yn oed!

A'r awgrym yma bod cynllwyn ar waith gan David Taylor: "The unjustified persistent and personal criticisms of @AlunDaviesAM over farming and weather in North Wales makes a bit more sense now..."

Mae’n bosib wrth gwrs bod hyn i gyd yn rhan o ryw fath o ymgyrch PR wedi ei drefnu o flaen llaw gan y Blaid Lafur er mwyn ansefydlogi ymgyrch Rhun a rhoi pwysau ar y BBC i beidio â rhoi gormod o sylw i’w ymgyrch. Felly mae’n anodd gwybod i ba raddau mae’r Blaid Lafur wir yn credu beth y maen nhw yn ei ddweud fan hyn.

Serch hynny, mae’n amlwg bod y BBC eisoes wedi ystyried bod y sefyllfa’n un chwithig iddyn nhw – roedden nhw’n araf iawn yn cyhoeddi’r stori (ar ôl Golwg 360 - er eu bod nhw’n amlwg yn gwybod am y cyhoeddiad o flaen llaw!). Mae’r stori hefyd wedi ei gladdu ymhell i lawr eu tudalen newyddion, ac yn hytrach na datganiad gan Rhun ei hun mae neges gan y BBC yn dweud: “Mae'r BBC yn ddarlledwr diduedd ac mae penderfyniad Rhun ap Iorwerth yn golygu ei fod yn sefyll lawr o'i rôl gyda'r BBC ar unwaith.”

Rwy’n derbyn na all rhywun sefyll dros Blaid a bod yn ohebydd yr un pryd – mae hwnnw’n sefyllfa hollol anghynaladwy. Dydw i ddim yn credu y dylai newyddiadurwr cyflogedig fod yn aelod o blaid chwaith, a doedd Rhun ei hun ddim nes nawr.

Ond awgrym braidd yn rhyfedd y Blaid Lafur yw bod y ffaith bod Rhun yn bleidiwr ‘cudd’ yn golygu na ddylai fod wedi bod yn gohebu i’r BBC yn y lle cyntaf. Mae hynny’n rwtsh llwyr wrth gwrs.

Mae perffaith hawl i newyddiadurwyr fod â barn wleidyddol. Mae nifer yn agored iawn ynglŷn â’r farn hwnnw - mae disgwyl iddyn nhw ysgrifennu darnau barn ddi-ri yn ogystal â straeon ffeithiol.

Hyd yn oed yn y BBC, mae gan nifer o’r gohebwyr a golygyddion flogiau lle y maen nhw’n rhoi eu barn ar faterion y dydd. Ac maen nhw hyd yn oed yn fwy llac eu tafodau ar Twitter.

Ond y peth pwysig yw nad ydyn nhw’n gadael i’w barn nhw effeithio ar eu gwaith. Gall unrhyw newyddiadurwr gwerth ei halen roi ei farn ei hun o’r neilltu ac adrodd y newyddion mewn modd gwrthrychol.

Rydw i wedi gallu cyfweld pawb o un pen i’r sbectrwm gwleidyddol i’r llall, o aelodau o’r Blaid Gomiwnyddol i’r BNP, heb deimlo bod fy marn i’n cael unrhyw effaith ar gynnwys y straeon na’r cwestiynau a ofynnwyd. Gofyn ar ran ei gynulleidfa mae’r newyddiadurwr, nid ar ei ran ef ei hun.

Pe na bai gyrfa wleidyddol Rhun ap Iorwerth yn un llwyddiannus, rwy’n ffyddiog y gallai fynd yn ôl i fod yn ohebydd gwrthrychol heb unrhyw broblem o gwbl, fel unrhyw newyddiadurwr proffesiynol arall.

Os unrhyw beth rwy’n credu mai’r broblem i Rhun, ar ôl bod yn wrthrychol cyhyd, fydd gorfod rhoi ei farn yn bendant, ac ateb y cwestiynau yn hytrach na’u gofyn nhw! Mae’r ffens yn gallu bod yn le cyffyrddus iawn i eistedd...

Blogiadau diddorol eraill ar yr un pwnc:

This has allthe hallmarks of a classic stitch-up by Plaid's Cardiff HQ - Llafur Cymru

Rhun a Heledd - Blog Answyddogol 

Y Blaid Lafur Gymreig ac ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth - Blog Menai

Comments

  1. Nid yw Rhun ap Iorwerth wedi gwneud unrhyw beth newydd heddiw (nac anarferol o ran hynny). Mae yna hen hen hanes o gyn-weithwyr y BBC yn troi'n wleidyddion Llafur. Owen Smith er enghraifft. Y pleidiau eraill hefyd: arferai Nick Robinson gadeirio'r Young Conservatives, er enghraifft. Nid ystyr niwtraliaeth newyddiadurol yw peidio coleddu barn bersonol o gwbl. Mae hynny'n amhosibl. Yn ôl y sôn, mae newyddiadurwyr yn bobl o gig a gwaed.

    Nid yw datganiad Llafur yn gwneud synnwyr. Yr "exceptional circumstances" yw bod RhapI wedi dilyn rheolau'r BBC yn ufudd trwy beidio bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol cyn heddiw. Mae wedi gorfod troedio'n ofalus, ond fe wnaeth hynny'n berffaith lwyddiannus. Mae gan Blaid Cymru fecanwaith fewnol i ddelio ag achosion fel hyn, felly mae'r cwynion yn ddi-sail.

    Mae'n siwr fy mod yn gor-ymestyn fan hyn, ond rwy'n meddwl bod rhywbeth sinistr iawn am y cwyno gan Lafur (y sefydliad sydd yn arglwyddiaethu yng Nghymru) bod cenedlaetholwyr Cymraeg yn "rheoli" ein cyfryngau. Atgoffa rhywun o'r math o honiadau paranoid a hyll a wneir yn erbyn Iddewon o dro i dro (ond nid i'r un graddfa, wrth reswm).

    ReplyDelete
  2. Weden i bod canran reit fawr o staff BBC Cymru yn genedlaetholwyr, ond wrth gwrs yn wrthrychol. Mae gweddill y cyfryngau yn llawer mwy parod i ddatgan barn ond yn llawn unoliaethwyr rhonc.

    ReplyDelete
  3. Fel ddywedais i ar Blog Menai, dyw tueddiadau gwleidyddol Rhun ddim yn ddirgelwch ac mae ffug-sioc Davies a Taylor yn gachu.

    ReplyDelete
  4. Gen i ryw go o cysylltiadau rhwng John Stevenson ar Blaid Lafur...cywir?

    ReplyDelete

Post a Comment