Yr AS David Jones |
Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi
ymyrryd yn y ddadl dros ddatganoli mewn araith heno. Fel y disgwyl, mae'n
gwrthwynebu rhagor o ddatganoli, ond mae ei resymeg dros wneud hynny braidd yn
rhyfedd yn fy nhyb i. Mae modd darllen yr holl beth fan
hyn ond dyma flas ohono...
But in general terms I do not believe that Wales needs to accrue identical powers to those that Scotland has or that it is desirable for it to do so. The differences between the history, geography, institutions and culture of Wales and Scotland mean that different arrangements for devolution in the British nations make sense.
Dyw hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Dydw i ddim
yn gweld sut y mae gorffennol llywodraethol Cymru yn berthnasol o gwbwl. Rydyn
ni’r Cymry Cymraeg yn cael ein cyhuddo o fod ag obsesiwn ynglŷn â’r gorffennol,
ond mae’n ymddangos bod cenedlaetholwyr Prydeinig yn cael trafferth troi cefn
arno hefyd.
Beth sy’n bwysig yw beth sydd orau i Gymru yn y presennol,
a’r dyfodol. Bu Cymru yn rhan o Loegr am gyfnod. Beth am hynny? Roedd Gwlad
Groeg yn arfer bod yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid, y Ffindir yn arfer bod
yn rhan o Rwsia, Gweriniaeth Iwerddon yn arfer bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Dyw ‘dyma fel yr oedd pethau’ erioed wedi bod yn rheswm da dros beidio eu
newid nhw.
Mae crybwyll y gwahaniaeth rhwng diwylliant Cymru a’r Alban
hefyd yn benderfyniad rhyfedd. Ai’r awgrym fan hyn yw bod diwylliant Cymry yn debycach
i ddiwylliant Lloegr nag yw diwylliant yr Alban a Lloegr? Neu yn ddiwylliant
lai datblygiedig nag un yr Alban? Mae’r ddau awgrym braidd yn chwerthinllyd.
O ran sefydliadau, all unrhyw un ddadlau nad yw Cymru wedi
bod ar ei hennill o gael amgueddfa, llyfrgell, eglwys, ayyb, ei hun? Ai’r
awgrym yw bod yr Alban wedi bod ar ei cholled o gael y pethau yma yn hirach na
Chymru? Ta nad yw’n bosib i Gymru gael sefydliadau yr un mor gryf a’r Alban?
All rhywun esbonio beth yn union mae David Jones yn cesio ei
awgrymu fan hyn?
So yes, Wales’s relationship with England has been long, entwined and complex. In many ways it is subtler than Scotland’s relationship with its southern neighbour, with a Union founded on conquest rather than negotiated agreement - many of Wales’s most famous ancient monuments stand testament to that fact.
Mewn geiriau eraill – ‘mae gennych chi lai o hawl i’r grym
yma, am eich bod chi wedi colli brwydr 700 mlynedd yn ôl. Rydw i’n gallu gweld
Castell Conwy o ffenest swyddfa fy etholaeth a mae hynny’n profi’r peth’.
The second way in which Wales is closely linked with England is economic. England is Wales’s biggest trading partner, and strong trading links across the border are central to the Welsh economy. As I mentioned earlier, most of the principal routes run east to west.
Sut yn union y mae hyn yn ddadl yn erbyn rhagor o rymoedd i
Gymru? Ni fyddai rhagor o rymoedd yn cau’r ffin rhwng y ddwy wlad. Mae hwn yn
swnio’n debycach i ddadl o blaid Iwerddon unedig, na dadl yn erbyn rhagor o
rymoedd i senedd ddatganoledig Cymru.
Mae David Jones yn mynd ymlaen fel hyn.
Mae’n ddadl digon tila yn y bôn, a byddai wedi bod yn well petai wedi dweud y
gwirionedd plaen, sef ‘Rydw i’n genedlaetholwr Prydeinig, a dydw i ddim yn
hoffi’r syniad o ddarnau o’r genedl yr ydw i’n ei garu yn llithro i ffwrdd’.
Mae hynny’n ddigon teg, yn fy marn i. Petai Ynys Môn yn dewis ymwahanu o Gymru
yfory fe fyddai nifer o genedlaetholwyr Cymreig yr un mor drist i’w weld yn
mynd. Nid eu bod nhw’n rhy hoff o’r lle - ond mae’n rhan o’u tiriogaeth nhw!
Dyna feddylfryd y cenedlaetholwr.
Dydw i ddim yn genedlaetholwr yn ystyr
cyffredin y gair. Rwy’n credu mai hap a damwain yw’r ffiniau sy’n gwahanu
gwledydd, ac nad oes mwy o gysylltiad rhyngaf fi a rhywun o Bowys ac sydd â
rhywun o’r Amwythig. Rwy’n credu bod diwylliant y Cymry Cymraeg yn un gwerth ei
gynnal. Rydw i yn cefnogi datganoli, oherwydd fy mod i’n credu bod Prydain Fawr
fel gwlad wedi ei ganoli yn ormodol ar Lundain, ac nad yw llywodraeth San
Steffan yn ei gyfanrwydd yn rhoi wfft am Gymru.
Comments
Post a Comment