Ydi Plaid Cymru yn rhy neis?


Rwy’n dilyn siaradwyr Cymraeg ar Twitter yn bennaf, ac felly pan mae Plaid Cymru yn cael cam mae fy ffrwd yn tueddu i ffrwydro â chynddaredd. Y newyddion drwg y tro hyn yw bod Llafur wedi penderfynu neidio i’r gwely â’r grŵp annibynnol ar Ynys Môn.

O ganlyniad trydarwyd llond toreth o negeseuon yn cwyno am frad, cynghorwyr diegwyddor, celwydd, ac yn y blaen.

Y gwyn pennaf yw bod Llafur wedi ymgyrchu ar yr ynys gan ddweud ei fod yn hen bryd cael gwared ar yr holl aelodau annibynnol, yn sgil y rhwygiadau oedd wedi gwneud smonach o wleidyddiaeth yr ynys dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond, fel y dywed Vaughan Roderick ar wefan y BBC, “the independents proved a tougher nut to crack than people expected”. Hynny yw, fe ddewisodd bron i hanner trigolion Ynys Môn bleidleisio o’u plaid nhw.

Y disgwyl ymysg aelodau Plaid Cymru oedd y byddai eu plaid nhw a Llafur yn clymbleidio. Ond yn hytrach fe ffurfiodd y cynghorwyr annibynnol grŵp ac fe glymbleidiodd Llafur â nhw.

O ystyried mai clymblaid o gynghorwyr annibynnol oedd yn rhedeg Ynys Môn cyn yr etholiad, nid oedd y ffaith eu bod nhw wedi penderfynu ffurfio grŵp unwaith eto yn syndod mawr. A dweud y gwir roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol mae hynny fyddai’n digwydd - fel un sy’n byw ar y ffin rhwng Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gar, rwy’n gwybod nad yw’r fath drefniant yn anghyffredin y tu hwnt i Fôn chwaith.

Ond y sioc fwyaf i nifer oedd bod Llafur wedi penderfynu clymbleidio â’r grŵp annibynnol, ar ôl galw ar yr etholwyr i gael eu gwared nhw. Ac efallai bod Llafur wedi bod ychydig yn dan-din. Ond dyna yw gwleidyddiaeth. Doedd ganddyn nhw ddim byd i’w golli - dim ond tri chynghorydd sydd gyda nhw - a nawr fe fydd ganddyn nhw fwy o ddweud dros bolisïau’r ynys na Phlaid Cymru sydd â 12 cynghorydd.

Dyw Llafur heb wneud unrhyw beth y tu hwnt i’r arfer fan hyn. Nid yw ymosod ar blaid, neu grŵp annibynnol, cyn etholiad ag yna clymbleidio â nhw ar ôl etholiad yn beth anghyffredin. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn ymosod ar ei gilydd cyn etholiad 2010, roedd Plaid Cymru a Llafur yn ymosod ar ei gilydd cyn etholiad 2007.

Y ffaith yw bod Ynys Môn wedi penderfynu, yn groes i gyngor Llafur, i gadw gafael ar eu cynghorwyr annibynnol. Roedd Llafur wedi gwneud pob ymdrech i’w argyhoeddi nhw i wneud fel arall. Roedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi helpu’r achos gan ohirio’r etholiadau am flwyddyn a newid y system etholiadol i un aml-aelod - system sy’n tueddi i ffafrio pleidiau yn hytrach nag unigolion.

Ond yn wyneb penderfyniad democrataidd pobl Ynys Môn, fe wnaeth Llafur y gorau o sefyllfa wael a sicrhau fod ganddyn nhw ddylanwad ar y cyngor.

Mae rhai o fewn Plaid wedi awgrymu y bydd y glymblaid o fantais i Blaid Cymru yn y pen draw. Bydd y grŵp annibynnol yn dechrau ffraeo eto a Llafur yn cael eu niweidio o ganlyniad. Fe allai hynny ddigwydd, ac fe allai ddim. Fe allai Plaid Cymru fod wedi cyrraedd eu penllanw etholiadol ar yr ynys, heb ddim i’w ddangos amdano.

Pe bawn i’n sgidiau Plaid Cymru, fe fyddwn i wedi cysylltu ag ambell i gynghorydd annibynnol yn syth ar ôl yr etholiad a dod i gytundeb. Dim ond llond llaw oedd eu hangen. Ond rywsut, mae Plaid Cymru yn rhy neis i wneud hynny, yn rhy egwyddorol. Rhinwedd sydd ddim bob tro o fantais mewn gwleidyddiaeth.

Nid yw hyn yn wir yn achos Môn yn unig. Bron bob dydd rydw i’n clywed cwynion bod Llafur wedi torri eu gair ar hyn a’r llall, neu wedi dweud un peth ac yna pleidleisio fel arall.

Yn hyn o beth mae Plaid yn fy atgoffa i o’r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau. Hyd yn oed pan maen nhw mewn sefyllfa etholiadol gryfach na’u gwrthwynebwyr, y Gweriniaethwyr, mae’r Democratiaid yn rhy neis i gymryd mantais lawn. Ac mae’r Gweriniaethwyr, sy’n ddigon hapus i ymddwyn fel bastads di-egwyddor, yn achub y blaen arnyn nhw. Mae’r Democratiaid yn cwyno am hyn, ond does dim byd yn newid.

Hoffwn i petai Plaid Cymru yn ymddwyn fel bastad di-egwyddor weithiau.

Comments

  1. This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete

Post a Comment