It Was Me Wot Lost It



Mae’n ddrwg gen i, Christine Gwyther. Yr eiliad y penderfynais i bleidleisio o dy blaid di yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu mi’r oedd hi ar ben arnat ti. Mae fy record echrydus o gefnogi’r ceffyl anghywir yn etholiadau'r Deyrnas Unedig yn parhau.

Cael a chael oedd hi i mi bleidleisio o gwbl. Roeddwn i wedi chwarae â'r syniad o beidio pleidleisio, difetha fy mhleidlais, neu bleidleisio o blaid y Ceidwadwr. Roedd fy mhensil yn hofran dros y papur pleidleisio am funud da cyn i fi daro fy nghroes drws nesaf i enw ymgeisydd y Blaid Lafur.

Rydw i’n credu bod ethol comisiynydd yr heddlu yn syniad gwael iawn, ac mae’n debyg bod nifer o’r bobol oedd o blaid y syniad yn y lle cyntaf bellach yn cytuno.  Ond beth bynnag oedd nifer y pleidleiswyr, roedd rhaid derbyn y byddai gennym ni gomisiynydd etholedig y diwrnod wedyn. Ac roeddwn i’n teimlo bod cyfrifoldeb arnaf i i bleidleisio dros yr ymgeisydd lleiaf gwael.

Does dim dwywaith fy mod i’n teimlo braidd yn ych-a-fi ar ôl pleidleisio dros y Blaid Lafur. Ac ar ôl gweld sylwadau Christine Gwyther ar Facebook a Twitter yn brolio bod y Blaid Lafur wedi cynyddu eu siâr o’r bleidlais o’i gymharu â 2010 (mewn etholiad cyffredinol lle’r oedd 11 plaid yn sefyll yn ardal Dyfed-Powys) rydw i’n teimlo’n waeth byth.

Roeddwn i’n siomedig nad oedd Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sefyll. Dyna’r ddwy blaid fwyaf yng Ngheredigion ac rydw i’n credu bod y ffaith mai un ym mhob deg o drigolion y sir bleidleisiodd, yn ogystal â’r ffaith bod 12.3% o’r rheini wedi sbwylio eu papurau pleidleisio, yn adlewyrchu hynny.

Rwy’n deall amharodrwydd y Blaid i gefnogi’r syniad o gomisiynwyr etholedig, ond dyw hynny ddim yn newid y ffaith bod un bellach wedi ei ethol. Wrth edrych yn y tymor hir dydw i ddim yn gweld beth mae Plaid Cymru yn ei ennill drwy beidio cynnig ymgeisydd o gwbl.

Fe allai etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu fynd tair ffordd gwahanol. Fe allen nhw gael eu diddymu ar ôl i’r Blaid Lafur adennill grym yn San Steffan. Grêt. Ni fyddai gwrthwynebiad Plaid Cymru yn cael unrhyw effaith ar hynny.

Yr ail bosibilrwydd yw bod yr etholiadau yn parhau, a bod nifer y pleidleiswyr yn cynyddu dros amser wrth i oblygiadau dewis y comisiynwyr ddechrau dod i’r amlwg. Dan y fath amgylchiadau byddai’n rhaid i Blaid Cymru, yn hwyr neu’n hwyrach, ddechrau cynnig ymgeiswyr. Fe allen nhw fod wedi achub y blaen drwy ennill Dyfed-Powys ac o bosib y Gogledd ddoe.

Y trydydd posibilrwydd yw bod grymoedd yr heddlu yn cael eu datganoli i Gymru. Yn hynny o beth rydw i’n credu y byddai wedi bod o fudd cael ymgeiswyr o Blaid Cymru yn yr etholiad. Mae'n debygol y bydden nhw wedi gwneud yn dda - a byddai cael Comisiynwyr yr Heddlu yn galw am ddatganoli’r heddlu wedi bod yn hwb i’r ymgyrch. Hyd yn oed o golli gallai Plaid Cymru fod wedi defnyddio’r etholiad fel llwyfan i alw am newid y drefn.

Un rheswm ychwanegol sydd wedi ei awgrymu gan rai am beidio â sefyll oedd bod angen talu blaendal o £5,000 i wneud hynny.

Dyw £5,000 ddim yn swnio fel ryw lawer o arian i fi (yn nhermau gwariant pleidiau gwleidyddol o leiaf). Hyd yn oed pe bai’r Blaid wedi colli eu blaendal (sy’n annhebygol) byddai 65,000 o bobol wedi gweld enw Plaid Cymru ar y papur pleidleisio.

Faint mae’n costio am hysbyseb sy’n cyrraedd 65,000 o bobol fel arfer?

Comments