Leanne RT Jones |
Fel ydw i wedi sôn yn y gorffennol ar y
blog yma rydw i’n ystyried fy hun yn weddol amhleidiol. Fydden i ddim yn
ystyried fy hun yn gwbl gyffyrddus yn aelod o’r un o’r prif bleidiau sydd yn
cystadlu yn etholiadau Cymru ar hyn o bryd.
Serch hynny wrth edrych yn ôl ar fy record wrth bleidleisio,
rydw i wedi cefnogi Plaid Cymru ym mhob etholiad ond un (yr un diweddara’ ma am
Gomisiynydd yr Heddlu, pan gefnogais i’r Blaid Lafur). Plaid yw’r blaid sydd
hawsaf i fi uniaethu efo nhw, am fy mod i’n Gymro Cymraeg dosbarth canol. Heb
allu cefnogi’r un o’r pleidiau eraill, rydw i o leiaf wedi gallu pleidleisio o
blaid ‘rhywun fel fi’! Os ydyn ni’n onest dyna sy’n cymell y rhan fwyaf o bobol
i bleidleisio yn y pen draw, o bleidlais graidd Llafur yn Aberafan i
bleidleiswyr Ceidwadol Aldershot.
‘Mae’r person yma yn dod o gefndir tebyg i mi, yn siarad yr
un iaith, ac yn rhannu’r un gwerthoedd.’
Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru
lle nad oes yna gymaint â hynny o wahaniaeth rhwng y pleidiau
gwahanol o ran polisi, ac mae pwy ydych chi’n pleidleisio drosto yn fater
llwythol yn fwy na dim.
Serch hynny rwy’n credu bod hyn wedi
newid rhywfaint yn sgil yr argyfwng economaidd. Mae’r Blaid Lafur a’r
Ceidwadwyr, ar lefel Brydeinig o leiaf, wedi cynnig atebion gwahanol er mwyn
mynd i’r afael â’r her ariannol, ac mae’r is-bleidiau Cymreig wedi gorfod dewis
eu hochrau hefyd. Ar yr un pryd mae ethol Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru
wedi dargyfeirio y blaid honno i lawr llwybr gwahanol - mae hi wedi symud yn agosach i Lafur o ran
ceisio apelio mwy at Gymry di-Gymraeg y Cymoedd, ac i’r chwith o ran polisïau.
Er y byddwn i ‘ymysg ffrindiau’ ym Mhlaid Cymru mae fy
ngwleidyddiaeth yn agosach at y Blaid Geidwadol mewn rhai ffyrdd, ac rydw i
wedi ystyried a ydi’r Blaid Lafur yn haeddu fy mhleidlais hefyd.
Felly er mwyn gallu rhoi fy myfyrdodau ar bapur yn fwy na
dim, a datrys y pos sydd yn fy meddwl, dyma’r manteision ac anfanteision ydw
i’n eu gweld yn y Blaid, y Ceidwadwyr a Llafur.
(Rydw i’n siŵr y byddai croeso i mi yn y
blaid Ryddfrydol hefyd, ond mae’n anodd rhestru manteision ac anfanteision
plaid sy’n addo pethau gwahanol i wahanol bobol!)
Plaid Cymru
Manteision:
Y blaid fwyaf cefnogol i’r iaith Gymraeg (er bod ambell i farc
cwestiwn ynglŷn â hyn yn sgil rhai datblygiadau diweddar).
Maent yn credu’r gryf mewn annibyniaeth i Gymru. Wel, yr
arweinydd, o leiaf.
Maent wedi rhoi lot o bwyslais yn ddiweddar ar ddod o hyd i atebion i ddatrys
problemau ariannol Cymry – er nad yw’r atebion wedi dod i’r amlwg eto.
Mae’r blaid yn llawn pobol dosbarth canol Cymraeg eu hiaith fel
fi!
Anfanteision:
Y teimlad anesmwyth fy mod i’n eu cefnogi am eu bod nhw ‘fel
fi’ yn unig. Fel pe bawn i’n aelod answyddogol o’r blaid ers cael fy ngeni a bod 'disgwyl' i mi eu cefnogi.
Gwrthwynebiad afrealistig y Blaid i doriadau angenrheidiol mewn
gwariant cyhoeddus. Mae’n hawdd iddyn nhw wrthwynebu'r rheini gan wybod na fydd ganddyn nhw fyth y cyfrifoldeb o fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, amwn i.
Y ffaith eu bod nhw wedi crwydro
ymhellach byth i’r chwith pan ddylen nhw fod yn symud yn y cyfeiriad arall.
Eu gwrthwynebiad anwadal i ynni niwclear – sydd yn fy nhyb i
yn hollbwysig er mwyn atal newid hinsawdd, heb son am ddod a gwaith i Ynys Môn.
Er eu bod nhw’n credu mewn annibyniaeth
dydyn nhw byth am gyrraedd yno heb doriadau anferth mewn gwariant cyhoeddus a
hwb mawr i’r sector breifat yng Nghymru. Dydyn nhw heb awgrymu unrhyw bolisïau
sy’n debygol o gyflawni'r uchod - i’r gwrthwyneb a dweud y gwir.
Maen nhw i weld eisiau hyd yn oed mwy o
arian cyhoeddus o San Steffan ac am i ragor ohono gael ei wario ar y sector
gyhoeddus. Bydd hynny yn ei dro yn gwneud Cymru yn fwy dibynnol ac yn llai
annibynnol o San Steffan.
Y Ceidwadwyr
Manteision:
Eu ceidwadaeth ariannol. Rydw i’n tueddu
i gytuno efo’u hymdrechion i dorri’r diffyg ariannol. Rydw i’n credu mai dyna’r
peth doeth i’w wneud a bod y gwendid yn nhwf yr economi yn sgil effaith anochel
o broblemau ariannol cymhleth y byd ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn credu y dylid
creu twf artiffisial nawr y bydd angen talu amdano yn ddiweddarach. Dyna’r ateb
hawdd, nid yr ateb call. Fe allen ni wario fel ffyliaid nawr ond os yw’r un
problemau sylfaenol yn bodoli yn yr economi erbyn i’r ddyled gyrraedd lefel
stratosfferig fe fyddai’r marchnadoedd ariannol yn ein bwyta’n fyw.
Rydw i’n credu bod polisi craidd y Ceidwadwyr
o dorri yn ôl ar faint y sector gyhoeddus a hybu maint y sector breifat yn
hollbwysig os yw Cymru am fod yn annibynnol. All Cymru ddim bod yn annibynnol
os yw’n gwario £6bn yn fwy bob blwyddyn nag y mae hi yn ei godi mewn trethi.
Mae angen newid y balans rhwng y sector breifat a’r sector gyhoeddus os yw
Cymru am lacio gafael San Steffan a thorri ei chwys ei hun.
(Rydw i’n credu y byddai annibyniaeth economaidd i Gymru o
fudd i’r wlad yn y pen draw, nid am resymau cenedlaetholgar yn unig ond
oherwydd bod strategaeth economaidd San Steffan yn canolbwyntio ar dde ddwyrain
Lloegr yn bennaf.)
Rheswm arall y byddwn i’n ystyried
cefnogi'r Ceidwadwyr yw bod Llafur wedi mynd ati’n fwriadol i awgrymu bod y
Ceidwadwyr yn gythreuliaid anfad sydd eisiau bwyta ein plantos newydd anedig ni
Mewn gwirionedd maen nhw’n bobol ac yn wleidyddion fel pawb arall ac yn credu
mai nhw sy’n gwybod orau. Mae modd dadlau bod segurdod Llafur wedi gwneud mwy o
niwed i Gymru na gweithredoedd y Ceidwadwyr.
Anfanteision:
Mae fy ngwrthwynebiad i’r Ceidwadwyr yn
bennaf ar sail ddiwylliannol. Os yw Plaid Cymru ‘fel fi’ dyw’r Ceidwadwyr ddim
‘fel fi’. Er gwaethaf ymdrechion arweinwyr y blaid yng Nghymru i’w Cymreigio
mae polau piniwn yn parhau i awgrymu bod eu pleidleiswyr yn parhau’n
wrthwynebus i’r hunaniaeth Gymreig. Nhw yw’r unig blaid fawr yng Nghymru na
allai honni eu bod nhw’n blaid genedlaetholgar Gymreig a chadw wyneb syth.
Cenedlaetholwyr Prydeinig ydyn nhw yn y bôn. Felly er fy mod i’n cytuno â nifer
o’u polisïau nhw ar bapur, yn ymarferol rydw i’n credu na fyddai eu cefnogwyr
yn colli dagrau pe bai’r Gymraeg yn diflannu a’r Cynulliad yn cau i lawr!
Yn ogystal â hynny rydw i’n credu bod y
weinyddiaeth bresennol yn San Steffan yn dangos ffafriaeth tuag at gyfeillion
grymus yn y sector ariannol a byd y cyfryngau. Mae angen ailwampio’r ddau
ddiwydiant, er eu lles nhw a ni.
Anfantais arall amlwg yw bod y blaid yng Nghymru yn atebol i’r
blaid yn San Steffan ac felly mae’n amhosib iddyn nhw roi budd Cymru yn gyntaf.
Llafur
Manteision:
Maen nhw’n meddiannu’r tir canol yng
Nghymru ac yn cadw ryw fath o gydbwysedd rhwng y Blaid ar y chwith a’r
Ceidwadwyr ar y dde.
Nhw yw’r blaid fwyaf poblogaidd yng
Nghymru o bell ffordd felly mae’n amlwg eu bod nhw’n cynrychioli barn mwyafrif
y Cymry i raddau helaeth.
Maen nhw wedi llywodraethu Cymru am 12
mlynedd heb wneud smonach amlwg ohoni (mae gwneud unrhyw gynnydd yn fater
gwahanol).
Mae Carwyn Jones a Leighton Andrews yn wleidyddion dawnus a
hoffus.
Mae yna gnewyllyn cenedlaetholgar yn eu mysg nhw.
Anfanteision:
Dydyn nhw heb gyflawni unrhyw beth o bwys yn ystod eu 12
mlynedd wrth y llyw. Os rywbeth mae Cymru wedi dirywio yn economaidd.
Dyw hi ddim yn beth hynod o iach cael un
blaid yn llywodraethu gyhyd - mae pethau yn mynd yn farwaidd ac mae yna ddiffyg
syniadau newydd. Maen nhw ychydig bach fel Llafur yn yr Alban cyn colli grym yn
hynny o beth. Mae rhywun yn cael yr argraff y byddai cyfnod allan o bŵer yn gwneud
byd o les iddyn nhw.
Pan maen nhw wedi cyflawni pethau o bwys
maen nhw yn amlach na pheidio wedi eu hysgogi gan y pleidiau eraill - Plaid
Cymru gan amla’. Ar fater datganoli maen nhw fel blocyn rhew ar lyn o iâ - fe wnânt nhw symud gyda chryn ymdrech os
ydyn nhw’n cael eu gwthio yn galed. Mae hynny er gwaetha’r ffaith bod polau
piniwn yn awgrymu bod y cyhoedd eisiau rhagor o ddatganoli - yn enwedig ym maes
trethi.
Mae rhywun yn cael yr argraff mai
cefnogi'r blaid i ennill grym yn San Steffan yw eu prif flaenoriaeth nhw yn
hytrach na gwasanaethu Cymru. Fel y Ceidwadwyr maen nhw yn gorfod plesio'r
blaid yn San Steffan sy’n cynnwys nifer o ASau Cymreig Prydeinllyd.
Mae yna gnewyllyn Touhig-aidd sy’n ddigon
gwrthwynebus i unrhyw beth Cymreig a Chymraeg yn eu mysg nhw.
Maen nhw, fel Plaid Cymru, yn credu na
ddylid ceisio torri’r diffyg ariannol yn y tymor byr, er bod rywfaint o
amwyster ynglŷn â hyn - dyna yw’r canfyddiad). Rydw i’n credu bod hyn hynny’n
anghyfrifol.
Dydyn nhw heb wneud dim i leihau maint y
sector gyhoeddus yng Nghymru na chynyddu maint y sector breifat - gan
sylweddoli maen siŵr bod nifer o’u pleidleisiau yn dod o’r sector blaenorol.
Fy mhlaid i
Felly pa elfennau o’r uchod fyddwn i’n eu
cyfuno er mwyn creu fy mhlaid ddelfrydol i?
Rydw i’n meddwl mai ryw fath o asiad o
ochor ddiwylliannol Plaid Cymru a pholisïau economaidd y Blaid Geidwadol fyddai
yn fy siwtio i orau. Felly dyma gyflwyno amcanion tymor hir fy mhlaid
ddelfrydol:
Plaid sy’n gwbl annibynnol o unrhyw fath
o reolaeth o San Steffan. A dweud y gwir fydden nhw’n cefnogi gostwng nifer yr
ASau yng Nghymru.
Fyddai’r blaid chwaith ddim yn cystadlu
yn etholiadau San Steffan. Mae’r SNP wedi dangos bod modd dylanwadu ar San
Steffan drwy ennill mwyafrif mewn senedd ddatganoledig, felly beth yw’r pwynt?
Dyw etholiadau San Steffan ddim yn ‘faes chwarae gwastad’ i bleidiau sy’n
bodoli mewn gwledydd unigol yn unig oherwydd bod y pleidiau mawr yn cael
mantais sylw’r cyfryngau Llundeinig. Y cyfan y maen nhw’n ei gynhyrchu yw
penawdau gwael i’r blaid.
Dylai annibyniaeth fod yn nod tymor hir -
gyda rhagor o rymoedd ariannol a ‘devo max’ yn cynrychioli rhai o’r grisiau ar
y gamfa i gyflawni hynny. Dylai Cymru fod yn hunangynhaliol yn economaidd cyn
yr ystyrir annibyniaeth.
Dylid datganoli grymoedd trethi i Gymru
cyn gynted a bo modd - hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod rhaid gostwng
gwariant cyhoeddus. Rhaid sefydlu’r cysylltiad rhwng lefel trethi a lefel
gwariant cyhoeddus. Mae hynny’n hollbwysig er mwyn newid naws gwleidyddiaeth
Cymru a sicrhau bod dyfodol i bleidiau sydd ddim yn addo popeth ar blât am ddim
i’r wlad.
Diweddaru isadeiledd Cymru er mwyn rhoi
hwb i fusnesau preifat - gan gynnwys ehangu’r M4, yr A470 a thalu gweddill y
doll ar Font Hafren. Byddai’n rhaid cyflawni toriadau amhoblogaidd i wariant
cyhoeddus mewn meysydd eraill er mwyn gwneud hynny, ond dyna ni!
Cyfyngu addewid y Cynulliad i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr i
brifysgolion o fewn Cymru yn unig.
Gostwng y dreth gorfforaethol i 12.5%, yr un lefel a
Gweriniaeth Iwerddon.
Sicrhau bod o leiaf 50% o blant cynradd Cymru yn gadael yr
ysgol â dealltwriaeth sylfaenol o’r iaith Gymraeg. Rydw i’n credu y byddai buddsoddi
yn hyn yn fwy effeithiol na cheisio argyhoeddi plant uwchradd ac oedolion i
ddysgu’r iaith.
Cael gwared ar y disgownt ar ail dai yng
Nghymru. A dweud y gwir, fe ddylen nhw dalu mwy! Nid mater o gasáu mewnfudwyr
yw hyn ond mater o ganiatáu i bobol allu prynu tai yn eu hardaloedd nhw.
Sefydlu papur newydd a gwefan dyddiol
dwyieithog fydd yn gwasanaethu Cymru gyfan. Rwy’n credu bod gwendid y cyfryngau
yng Nghymru yn gyfrifol i raddau helaeth am nifer o wendidau’r wlad! Ac nid
papur newydd fydd yn lladd ar Gymru a’r Gymraeg bob gafael chwaith (dydw i ddim
yn edrych ar neb yn benodol...)
Dileu presgripsiynau am ddim i bawb, a rhai budd-daliadau
cyffredinol nad oes eu hangen ar ran helaeth o’r boblogaeth. Dylen nhw fod ar
gael i’r bobol sydd wir eu hangen nhw, ond ddim pobol fel fi sy’n gallu
fforddio talu am fy nghalpol fy hun.
Cefnogi ynni niwclear yng Nghymru, gan gynnwys adeiladu
Wylfa B.
Cefnogi hybu ynni adnewyddadwy a fydd yn llacio'r dibyniaeth ar danwydd ffosil a niwclear dros amser - e.e. y morglawdd ar draws Aber Hafren.
Cefnogi hybu ynni adnewyddadwy a fydd yn llacio'r dibyniaeth ar danwydd ffosil a niwclear dros amser - e.e. y morglawdd ar draws Aber Hafren.
Cytuno â llawer o'r rhain a bod yn onest.
ReplyDeleteMae'r sefyllfa bresennol yn ddigalon. Rwy'n ddemocrat cymdeithasol Keyensaidd sy'n credu bod gwariant cyhoeddus yn bwysig iawn, ond rwy'n blino ar weld y Blaid Lafur Gymreig yn cwyno a chwyno am doriadau heb orfod ysgwyddo'r cyfrifoldeb o godi'r arian eu hunain. Mae Llafur yn manteisio o gadw Cymru'n ddibynnol ar bwrs Lloegr.
Rwyf hefyd yn cefnogi pethau fel lleihau'r dreth gorfforaethol i fusnesau bychain. Nid wyf yn credu bod hyn yn anghysoni â chredu mewn gwariant cyhoeddus gymharol uchel, a bod yn onest.
Un o'r prif anghytundebau rhyngof a Phlaid Cymru ar hyn o bryd yw mater ynni niwclear. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad egwyddorol i godi gorsafoedd newydd. Nid ystyriaethau pragmataidd na gwleidyddol yw'r rheswm chwaith, er fy mod yn digwydd credu bod safbwynt bresennol y blaid yn peryglu ei gafael ar Ynys Môn yn y Cynulliad a'n sicrhau nad oes gobaith ei ail-chipio yn San Steffan.
Na'i fotio i chdi..! Un pwynt - dwi'm yn meddwl bod ni'n bell o 50% o blant yn gallu siarad Cymraeg - cafodd tua 50% A* i C mewn TGAU eleni (ail iaith oedd o rhan fwyaf dwi'n derbyn). Cawn fwy o ddata yn y Census.
ReplyDeleteDwi'm yn siwr am ddieu presgripsiynau. O leiaf mae'r drefn bresenol yn hawdd iw gweinyddu.
Cytuno'n llwyd hefo Dylan hefyd (eto...)
http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-cumbria-20228176
ReplyDeleteDarllenwch hwn!!A fedrwch ddal i ddweud eich bod o blaid ynni Niwclear?. Neu da chi yn rhy gyfforddus i feddwl am ddyfodol ein plant a phlant eich plant.
Hefyd darllenwch hwn..
http://www.newscientist.com/article/dn22165-us-nuke-plant-delay-fails-to-solve-storage-conundrum.html
Amser i’r dosbarth canol agor ei llygaid yng Nghymru a phob gwlad arall a magi tipyn o asgwrn cefn..
Iawn, digon teg. A rwan, nei di ddarllen hwn:
ReplyDeletehttp://nextbigfuture.com/2008/03/deaths-per-twh-for-all-energy-sources.html
Ydi 'dosbarth canol' fod yn insult?
Mae ynni niwclear yn saffach na mathau eraill o greu ynni, ac yn mynd yn saffach o hyd. Mae gwrthwynebwyr niwclear yn cyfeirio at drychineb Fukushima fel enghraifft o bethau yn mynd o'i le, ond dw i'n credu bod y ffaith i'r orsaf hwnnw gael ei daro gan tsunami a daeargryn heb achosi cymaint a hynny o difrif yn dweud cyfrolau am ba mor saff ydyn nhw erbyn hyn.
ReplyDeleteMae dweud bod ynni o bwerdai traddodiadol yn saffach na niwclear fel dweud bod ceir yn saffach nag awyrennau. OK mae awyrennau yn achosi mwy o ddifrod ac yn lladd llwer mwy o bobol pan mae pethau'n mynd o'i le, ond anaml mae hynny'n digwydd a dros amser mae llawer llai yn marw ynddyn nhw na mewn ceir.
Cytuno'n eang iawn gyda dy sylwadau, Ifan. Fel boi o'r cymoedd, mae rheswm arall gyda fi i beidio â chefnogi'r Blaid Lafur - Ar ôl profi'r dinistr mae'r Blaid Lafur wedi caniatáu yn y cymoedd, ac wedyn gweld pob dim yn cael ei feio ar y Toriaid (hyd yn oed ar ôl 3 llywodraeth Lafur...), mae nhw'n dechrau codi cyfog ar ddyn!
ReplyDeleteTa beth - ga'i fanylu ar gwpl o dy bwyntiau?
Hoffen i weld ffigyrau ynglŷn â'r presgripsiwns am ddim. Yn arbennig, hoffen i wbod a fyddai'r arian a ddelai tasai dim presgeripsiwns am ddim yn fwy neu'n llai na'r gost o'u cadw yn ddi-dâl. Wi fel arfer yn prynu pethau fel Calpol a rhyw eliau (hynny yw, talu am), hyd yn oed os yw'r doctor wedi eu hargymell, a fyddai dim ots gyda fi o gwbl orfod talu am gyffuriau eraill, ond mae rhyw amheuaeth gyda fi na fyddai gorfodi tâl am y pethau yn arbed arian...
O ran polisi egni - ti'n iawn ynglŷn ag ynni niwclear, ac am y forglawdd, ond eto, dwi erioed wedi gweld ffigyrau ynlgŷn ag anghenion Cymru yn hyn o beth.
O rhan y forglawdd, dylai'r Cynulliad neidio mewn whap a dechrau ar gynlluniau "Tidal Lagoons" ym Môr Hafren. Yn gyntaf, Byddan nhw lawer iawn yn llai niweidiol i amgylchedd o bwysigrwydd byd-eang. Yn ail, i ble aiff y trydan a ddaw o'r Forglawdd? A phwy gaiff fudd ohono? Hynny yw, tasai cwmniau o Gymru yn adeiladu Lagwns bach, byddai'r arian yn dod i Gymru. Os daw Mrglawdd anferth, i Loegr eiff yr elw i gyd, a'r trydan, a'r gogoniant. Yn oes oesoedd...
Ond, dyna ni. Pan fo'r unig blaid genedlaetholgar yn trio plesio Guardianistas y byd, a'r prif blaid yn atebol i Miliband a'i "One Nation", pa obaith sydd am benderfyniadau call?