Plaid Cymru – y fampir!


Plaid Cymru yn y Trysorlys
Dyma ymateb byr i neges gan yr Hogyn o Rachub ar ei flog yntau, lle mae’n dadlau bod angen plaid newydd i frwydro dros yr iaith nawr bod Plaid Cymru wedi dangos nad oes ganddyn nhw lawer o ddiddordeb mewn gwneud hynny.

Y broblem o safbwynt Plaid Cymru wrth iddyn nhw droi cefn ar fod yn blaid yr iaith yw eu bod nhw’n brysur yn troi i mewn i ryw fath o mini-me i’r Blaid Lafur.

Maen nhw’n canolbwyntio eu holl egni ers ethol Leanne Wood ar eu gwneud eu hunain yn fwy ‘etholadwy’ yng Nghymru.

Ond beth mae hynny yn ei olygu mewn gwirionedd yw troi cefn ar y gorffennol a cheisio symud i’r tir y mae’r Blaid Lafur wedi ei feddiannu cyhyd.

Pen draw’r broses yna yw bod gennym ni ddewis rhwng dwy blaid sydd bron a bod yn union yr un fath. Unig fantais Plaid Cymru yn y fath sefyllfa yw nad yw hi’n atebol i blaid ehangach yn Llundain.

Yr economi

Rydw i’n cymeradwyo Leanne Wood am ganolbwyntio ar faterion economaidd - Duw a ŵyr bod angen hynny ar Gymru.

Ond mae’r cynlluniau sydd wedi eu datgelu hyd yn hyn yn gwneud dim ond trafod ffyrdd i ailddosbarthu arian cyhoeddus ymysg y Cymry. Dim gwell na’r Blaid Lafur, felly.

Dyw agwedd y blaid tuag at doriadau Llywodraeth San Steffan ddim yn realistig o gwbl, chwaith. Efallai bod gwrthwynebu pob toriad yn boblogaidd ond dydi o ddim yn gwneud synnwyr economaidd.

Dim ond ymgais ydyw i geisio bod yn debycach i Lafur na Llafur eu hunain, a dyw’r strategaeth ddim i weld wedi gwneud ryw lawer o argraff ar yr undebau llafur hyd yma.

Does dim smic wedi bod gan Leanne am ffyrdd o lacio dibyniaeth y wlad ar arian cyhoeddus, sef beth sydd wir ei angen er mwyn adfer ffyniant economaidd Cymru a sicrhau annibyniaeth yn y pen draw.

Y Fampir - neu Oliver Twist?

Mae yna niche amlwg i Blaid Cymru fel ryw fath o ‘blaid fampir’.

Hynny yw plaid sy’n dadlau bod Cymru yn gwneud yn dda iawn diolch wrth sugno'r farus ar bwrs cyhoeddus  y Trysorlys yn San Steffan, ac sy’n dadlau am gael hyd yn oed mwy o waed o’r coffrau rheini.

Gallai Plaid ddadlau yn hollol ddigywilydd am sleis hwy o’r gacen gan ganolbwyntio’n hunanol ar anghenion Cymru, heb deyrngarwch y Blaid Lafur tuag at weddill Prydain.

Mae'r Blaid Lafur wedi bod yn blaid sy'n rhoi yn hael i Gymru er mwyn sicrhau teyrngarwch y wlad.

Ond gan nad yw Plaid Cymru fyth am fod mewn grym yn San Steffan, ei hunig rôl yw un Oliver Twist-aidd, 'Please sir can I have some more?'

Efallai y byddai yn well petai Plaid Cymru yn rhoi’r gorau i addo ‘annibyniaeth ryw bryd yn y dyfodol’ a chofleidio’r rôl yma.

Wedi’r cyfan, os nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw beth o ddifri i symud Cymru tuag at annibyniaeth, beth yw’r pwynt addo’r peth?

Yn ymarferol mae cynlluniau fel ‘Plan C’ a’r ymgyrch i gael rhagor o arian drwy Fformiwla Barnett yn gwneud y gwrthwyneb i hybu'r ymgyrch am annibyniaeth, sef cryfhau dibyniaeth Cymru ar weddill y DU.

Plaid newydd

Rydw i’n cytuno efo Hogyn o Rachub bod angen plaid newydd ar Gymru, ond dydw i ddim yn cytuno mai plaid i’r Cymry Cymraeg yn unig ddylai hi fod.

Mae’r iaith yn fater pwysig i fi a nifer o bobol eraill ond mae’n un o nifer o faterion sy’n bwysig yng Nghymru heddiw.

Dydw i ddim yn mynd i fod eisiau plaid ‘single issue’ sydd heb unrhyw farn ar e.e. iechyd a’r economi yn teyrnasu dros fy etholaeth i.

Oes, mae angen plaid genedlaetholgar newydd ar Gymru, ac un sy’n dadlau yn chwyrn o blaid yr iaith.

Ond mae hefyd angen plaid sy’n fodlon gwneud beth sy’n angenrheidiol yn economaidd er mwyn sicrhau llewyrch ariannol i Gymru, ac yn sgil hynny annibyniaeth.

Mae hynny’n golygu gwario llawer mwy o arian ar bethau sy’n mynd i hybu’r sector breifat yng Nghymru – pethau fel trafnidiaeth, isadeiledd y wlad, datganoli a thorri treth gorfforaethol, torri’n ôl yn helaeth ar y ‘tap coch’ sy’n fwrn ar fusnesau ac yn golygu bod pethau syml fel adeiladu tŷ yng Nghymru yn costio llawer mwy na dros y ffin.

Mae’n rhaid i ni gystadlu efo Lloegr, a de-ddwyrain y wlad honno, yn benodol a gwneud Cymru yn le mor atyniadol i sefydlu busnes a phosib.

Wrth gwrs bydd yr holl wario yna yn golygu bod angen torri mewn mannau eraill - pethau anodd eu torri fel presgripsiynau am ddim, er enghraifft.

Ond dyna ni, dyna’r pris fyddai yn rhai ei dalu os yw cenedlaetholwyr y wlad yma o ddifri ynglŷn â chreu gwlad lewyrchus ac un annibynnol.

O ran yr iaith, yr eironi yn fy marn i yw bod Plaid wedi dechrau troi cefn arni ar yr union adeg mae hi'n mynd yn fwy fwy dderbyniol i boblogaeth ehangach Cymru.

Ydych chi'n cofio'r ymateb chwyrn gan y cyhoedd i dudalen flaen y Western Mail ychydig fisoedd yn ôl? Wel fe wnaeth Plaid ddewis ochri efo'r Mail heddiw. Rhyfedd iawn.

Comments

  1. Llawer o wirionedd yn yr hyn rwyt yn ei ddweud. Nid yw efelychu'r Blaid Lafur ym mhob ffordd yn debygol o arwain at unrhyw gynnydd etholiadol: pam pleidleisio dros blaid sy'n debyg i Lafur, pan gallwch bleidleisio dros, wel, y Blaid Lafur ei hun?

    Wir wir methu deall rhesymeg y bleidlais heddiw. A yw'r peth yn ran o rhyw fargen fawr? Mae'n ddirgelwch gwirioneddol i mi.

    ReplyDelete
  2. Dydy'r polisi yma felly ddim yn hybu busnes preifat yng Nghymru?

    http://www.plaidcymru.org/newyddion/2012/09/26/gallai-polisi-caffael-cyhoeddus-plaid-cymru-greu-bron-i-50-000-swydd-yng-nghymru/

    A iawn, efallai bod y polisi hwn i wneud â'r sector gyhoeddus fel y mae hi ar hyn o bryd, ond yn sgil y drefn bresennol (dydy'r Cynulliad ddim yn berchen ar bwerau benthyg na threthi, dwy elfen hollbwysig a hynod ddefnyddiol i sicrhau tyfiant economaidd) dyma'r polisi mwyaf gwreiddiol a challaf yr wyf i wedi gweld sy'n hybu busnes cynhennid Cymreig.

    Mae'n amlwg nad yw'r hen system economaidd 'boom and bust' yn gweithio. I mi Plaid Cymru yw'r unig Blaid sy'n ceisio mynd i'r afael â newid y drefn, nid yn unig ceisio datrys y sefyllfa ariannol presennol a mynd yn ôl at yr hen drefn. Mae syniadau arbennig gan y Blaid ynglyn â pherchnogaeth cymunedol er engrhaifft - mae economi gwlad y Basg yn dibynnu yn helaeth ar y model hwn o economi ac mae'r lefel diweithdra yno bron i hanner y cyfanswm yng ngweddill y Wladwriaeth Sbaenaidd.

    Dydw i ddim yn credu bod Plaid Cymru chwaith yn dilyn y Blaid Lafur fel cwn bach. Wedi'r araith echrydus honno gan Milliband yng Nghynhadledd Llafur dros y penwythnos, fedra i ddim helpu meddwl am Lafur fel unrhyw Blaid adain dde arall. Rwy'n falch bod Plaid Cymru yn blaid adain chwith a'n bod ni yn dilyn traddodiad radical Cymreig a thraddodiad lled-Ewropeaidd o ddarparu dewis i'r etholwyr. Wedi'r cyfan, mae'r sefyllfa o gael tair plaid canol-de i ddewis rhyngthynt yn Lloegr yn ffenomenon sydd bron a bod yn hollol unigryw yn Ewrop.

    ReplyDelete
  3. Diolch am y negeseuon Dylan ac Emyr.

    @Dylan - Mae'n amlwg i fi ei fod yn ryw ymgais bwriadol gan PC i symud oddi wrth yr iaith a chael eu gweld yn gwneud hynny. Maen nhw'n teimlo bod yr iaith wedi mynd yn fwrn ar eu gobeithion etholiadol. Wrth gwrs fe fyddwn nhw'n parhau i gefnogi'r iaith ond yn y ffordd 'soft' y mae'r pleidiau eraill yn ei wneud.

    @Emyr - Bydd y polisi yn hwb ariannol i gwmnioedd preifat dw i'n siwr, ac mae'n synnwyr cyffredin ceisio sicrhau bod arian sy'n cael ei wario yng Nghymru yn aros efo busnesau yng Nghymru. Ond dyw rhoi arian cyhoeddus yn uniongyrchol i gwmnioedd ddim yn mynd i fod yn gymaint o hwb i economi Cymru ac y byddai gwario'r arian ar greu'r amgylchedd iddyn nhw ffynnu ar eu pennau eu hunain, heb arian cyhoeddus. Dyw cynnal y sector breifat ar arian cyhoeddus ddim yn beth da pan, yn anochel, y bydd rhywun neu ryw amgylch lawr y lein yn tynnu'r plwg ar yr arian yna.

    Dydw i ddim yn dadlau nad oes gan Blaid Cymru syniadau da. Fel yr ydw i wedi dadlau uchod mae yna'n sicr niche iddyn nhw fel plaid sy'n dadlau am fwy o arian i Gymru a'r gallu i'w gadw yn y wlad.

    Y cwestiwn yw ai dyna ydyn ni ei eisiau - meddwl am ffyrdd i gael rhagor o arian cyhoeddus o san steffan a ffyrdd o'i gadw yn y wlad? Ta torri'r llinyn bogail a cheisio hybu ein heconomi preifat fel ein bod ni'n cael ein cynhaliaeth oddi ar ein economi ein hunain?

    Mae'r Blaid Lafur ledled y DU i'r dde o'r blaid lafur yng Nghymru dw i'n tybio. Mae'n werth cofio bod ein gweinidog busnes yn y Cynulliad yn darllen y Morning Star ac yn ystyried cyfalafiaeth yn beth drwg. Ond lle bynnag mae'r blaid lafur yng Nghymru o ran polisiau, mae'n amlwg ei bod hi yng Nghymru yn apelio at y garfan adain chwith ol-Gymraeg ol-ddiwydiannol sy'n cynrychioli mwyafrif poblogaeth Cymru.

    Os nad yw Plaid Cymru fel Llafur, yna mae'n nhw'n fwy Llafur na Llafur mewn ffordd - o ran polisiau mae nhw wedi meddiannu'r tir y mae'r Blaid Lafur yn honni sefyll arni, tra bod y blaid honno (ar lefel y DU o leiaf) wedi symud ymhellach i'r dde.

    ReplyDelete
  4. So eqality for Welsh means EVERTHING must be in English and Welsh. Can't find that eqality on this blog. Should I not have the right to read your blog in Welsh?

    ReplyDelete
  5. @Dyfrig Thanks for the message. Personally I don't think what I write on this blog is as important as a bilingual record of government meetings, but I'm flattered if you think so! :)

    ReplyDelete

Post a Comment