Mae yna erthygl
ar Click on Wales heddiw gan ddysgwr sy’n cael trafferth
â’r iaith Gymraeg, ac sydd o’r farn mai diffygion yn yr iaith (e.e. treigladau,
cenedl enwau, a’r gwahaniaethau rhwng iaith y de a’r gogledd) sy’n gyfrifol am
hynny. Fel unrhyw erthygl arall am y Gymraeg yn Saesneg, mae rhywun wedi gadael
sylw yn dweud bod yr iaith yn niweidiol ac y dylid ei rhoi hi i lawr fel hen gi
sâl (cred sydd wedi bodoli ers o leiaf 1536).
Fel siaradwr iaith gyntaf mae’n anodd i
fi werthfawrogi pa mor heriol yw dysgu’r Gymraeg. Wrth gwrs mae rhai o reolau
mwyaf dyrys yr iaith yn fwrn arnom ni i gyd weithiau. Ond dydw i ddim yn credu
bod yr iaith yn anoddach i’w dysgu a’i hysgrifennu a’i siarad na’r Saesneg;
efallai mai’r gwahaniaeth pennaf yw bod pobol yn fwy parod i ddweud y drefn
wrth bobol sy’n gwneud camgymeriadau wrth ysgrifennu yn y Gymraeg, tra nad oes
neb yn poeni ryw lawer am hyn yn Saesneg.
Fel yr ydw i eisoes
wedi sôn fan hyn, dydw i ddim yn credu y dylid beirniadu pobol sy’n gwneud
sylwadau cas am y Gymraeg. Efallai na ddylen nhw fod mor barod i ddweud eu
dweud am bynciau nad ydyn nhw’n gwybod dim oll amdanynt (rydw i'n cyfeirio at y sylw ar waelod yr erthygl, nid y dysgwr, fan hyn), ond rydyn ni i gyd yn
euog o hynny. Ond ein cyfrifoldeb ni, fel 'arbenigwyr' ar y pwnc, yw cywiro eu
camsyniadau nhw mewn modd adeiladol.
Y syniad sydd gen i yw creu ryw fath o
wefan ‘Welsh language FAQ’ neu rywbeth fyddai yn cynnwys ymatebion i bob un o’r
prif osodiadau neu gwestiynau ynglŷn â’r iaith Gymraeg. Wedyn, bob tro y mae
rhywun yn lladd ar yr iaith, byddai modd rhoi dolen uniongyrchol i’r adran dan
sylw neu gopïo a gludo'r ateb perthnasol.
Wrth gwrs, byddai rhai yn ystyried
bodolaeth gwefan o’r fath yn brawf pellach ein bod ni’n hynod amddiffynnol o’r
iaith ac felly ei bod hi ar fin marw. Ond o ystyried ein bod ni’n lleiafrif yn
ein gwlad ein hunain, a bod bodolaeth yr iaith yn dibynnu i raddau helaeth ar
ewyllys da'r di-Gymraeg, dw i’n credu y byddai gwefan o'r fath yn werth chweil.
Rwy'n credu bydd rhan fwyaf o'r rheolau treiglo yn cael eu anwybyddu yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni gadael i'r iaith symleiddio ychydig. Mae treiglo yn rhywbeth llafar.
ReplyDeleteFi'n dod o Pontypridd ac wi moyn siarad Cymraeg ond smo safon fy iaith yn uchel iawn. Mae cael nifer uchel o siaradwyr ac ehangu geirfa yn pwysicach na 'cadw safon' yn fy marn i. Rwy'n bwriadu pasio fy Cymraeg shiti lawr i fy mhlant. Iaith y Cymoedd a Caerdydd yw dyfodol y Cymraeg.
Newydd ysgrifennu ateb i'r erthygl ar Click On Wales (aros i gael ei gymedroli ar hyn o bryd). Mynegais fy nghefnogaeth iddo yn ei ymdrechion i ddysgu'r iaith, ond eto i gyd eglurais bod llawer o'i feirniadaeth yn annheg. Mae elfennau od yn perthyn i bob iaith, gan gynnwys Saesneg. Rwy'n teimlo ein bod yn cael ein dallu'n hynny o beth gan y ffaith bod Saesneg ymhob man ac felly'n ymddangos mor 'normal'.
ReplyDeleteBeth bynnag, mae rhyw fath o FAQ yn syniad ardderchog. Bendant.
"Rwy'n teimlo ein bod yn cael ein dallu'n hynny o beth gan y ffaith bod Saesneg ymhob man ac felly'n ymddangos mor 'normal'."
ReplyDeleteFy nghred i yw yw bod gwendid y cyfryngau Cymraeg yn rhannol gyfrifol am 'broblemau'r' iaith. Mae'r iaith y mae'r cyfryngau yn ei ddefnyddio yn diffinio iaith i raddau helaeth - wele sut y sefydlogwyd yr iaith pan ddechreuwyd cyhoeddi y llyfrau printiedig cyntaf. Mae pobol yn siarad Saesneg tebyg a gweddol ddi-fai yn rhannol am eu bod nhw'n clywed a gweld y Saesneg safonol o'u cwmpas nhw bob awr o'r dydd. Aaml iawn y mae y siaradwyr Cymraeg cyffredin yn dod ar draws Cymraeg safonol, drwy gyfrwng teledu, radio neu brint, amae hynny wedi arwain at iaith sy'n wahanol iawn o ardal i ardal a iaith nad oes ryw lawer o bobol yn gallu ei ysgrifennu'n gywir.
Dysgwr ydw i.
ReplyDeleteYn yr archfarchnad:
Cwestiwn sylm iawn: Dach chi isio bag?
Ateb cymleth iawn: Oes
what's all that about???? Dwi'n gwybod, ond mae peth syml iawn mewn ieithoedd eraill fel "yes" yn hunlle yn y Gymraeg. Hyd yn oed mewn Arabeg mae "yes" yn hawdd.
Dysgu pethau fel "llecyn hudolus". Does gan y Cymry Cymraeg go iawn, "Y Werin", ddim syniad be di "llecyn hudolus". Llecyn hudolus? uuh?
"Cymraeg" y Cofis. Hanner Saesneg/hanner rhegi. Sut mae dysgwr i fod i wybod faint o Saesneg i'w defnyddio (er - "iwsio")? "Dwi wedi peintio'r nenfwd" "O - dydyn ni ddim yn deud nenfwd. Rydan ni'n deud ceilin". "Ystafell ymolchi" anybody?
Ac hefyd, mae'n rhaid i bob ddysgwr derbyn mai hobbi yw dysgu Cymraeg, a falle modd i ddilyn beth sy'n mynd ymlaen yn y byd Cymraeg. Ond mi fydd o wastad yn ddiethrin i'r Cymry Cymraeg go iawn. Fel Almaenwr yn Lloegr.