Map hapusrwydd Cymru |
Mae’n anodd gwybod i ba raddau y dylen ni gymryd canlyniadau’r
arolwg yma o ddifrif. Wedi'r cwbwl, sut mae mesur bodlonrwydd poblogaeth gyfan?
Mae’n dibynnu ar ba amser o’r dydd mae’r cwestiwn yn cael ei ofyn. Rydw i’n
tueddu fod ar fy hapusaf tua 11.30am... wedi gwneud bore o waith yn fy
stydi ar waelod yr ardd, ac yn edrych ymlaen at amser cinio. Erbyn 5pm rydw i’n
tynnu fy ngwallt allan o fy mhen wrth geisio annog y plant i fwyta eu bwyd yn
hytrach na’i iro dros eu gwynebau. Erbyn 7pm rydw i’n hapus eto wrth ddarllen
stori iddyn nhw cyn iddyn nhw fynd i’w gwlau.
Serch hynny, mae’r canlyniadau yn eu cyfanrwydd yn
awgrymu sawl peth diddorol. Mae gan y Guardian yr holl ffigyrau a map
cynhwysfawr fan
hyn.
Wrth edrych ar y map o Gymru, a’r Deyrnas
Unedig yn ehangach, mae yna gyswllt amlwg rhwng cymunedau ôl-ddiwydiannol ac
anhapusrwydd. Mae’r Cymoedd, Middlesbrough, ac ardaloedd tebyg ymysg y mwyaf
digalon yn y Deyrnas Unedig.
Er eu bod nhw’n tueddu i edrych i lawr arnom ni hambons
cefn gwlad, mae’n amlwg nad yw trigolion y dinasoedd mawrion, fel Caerdydd,
Birmingham, Glasgow, a Llundain, yn arbennig o hapus chwaith.
Yn ôl y map, hapusrwydd yw byw yng nghefn gwlad ymhell o
hwrli-bwrli pwysau bywyd yn y ddinas.
Does yna ddim cyswllt amlwg rhwng cyfoeth
ariannol a hapusrwydd, yng nghefn gwlad. Mae Gwynedd, Ynys Môn, Ucheldiroedd yr
Alban, ac Ynysoedd Shetland yn llefydd digon tlawd, ond yn ôl y map dyma rai o
ranbarthau hapusaf y wlad. Dyw’r ardaloedd gwledig rheini yn y Home Counties sy’n
gyfoethocach ddim i weld dim hapusach.
Does yna ddim cyswllt amlwg rhwng pleidiau gwleidyddol a
hapusrwydd, chwaith. Mae’r Blaid Lafur mewn grym yn rhai o ardaloedd mwyaf
anhapus Cymru, ond hefyd yn ardaloedd hapusaf Cymru, sef Ynys Môn
a Sir y Fflint.
Byw yn y wlad
Beth yw casgliad y map, felly? Pobol sy’n byw mewn
ardaloedd ôl-ddiwydiannol neu ardaloedd dinesig tlawd yw’r lleiaf hapus ar
gyfartaledd. Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd dinesig cyfoethog yn weddol
hapus ar y cyfan. Ond pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yw’r hapusaf o’r
cyfan, os ydyn nhw’n byw mewn ardal dlawd ai peidio.
Rhaid dweud bod y map yn cyd-fynd â fy mhrofiad personol i, i raddau
helaeth. Rydw i wedi byw yng nghefn gwlad Gwynedd, ac yna yng Nghaerdydd, ac
yna yn Newcastle upon Tyne, cyn symud i Geredigion. Rydw i’n llawer hapusach yn
byw yng nghefn gwlad, ar y cyfan. Mae yna swyddi sy’n talu’n well i’w cael yn y
ddinas, ond rhaid gofyn ai yr arian sy’n bwysig, neu beth y mae rhywun yn ei
gael am ei arian?
Cefais fy magu yng Ngwynedd yn gallu gweld Moel Eilio a Mynydd yr
Eliffant drwy ffenestr fy ystafell wely. Roedd yn gymuned glos oedd yn trefnu
Eisteddfod pentref bob blwyddyn. Yng Ngheredigion rydw i’n gallu rhedeg bob
dydd ar hyd yr Afon Teifi rhwng Llandysul a Chastell Newydd Emlyn, y rhan fwyaf
nefolaidd o Gymru yr ydw i wedi dod ar ei draws hyd yma.
Faint fyddai golygfa fel yna yn ei gostio i un o drigolion Llundain?
Lle yng Nghaerdydd fyddwn i’n gallu rhedeg allan drwy ddrws y ffrynt i ddyffryn
llawn caeau gwyrdd, coed, a bywyd gwyllt?
Mae tafarn hyfryd yn y pentref ac o leiaf tri bwyty o safon o fewn
tafliad carreg, ac os ydyn ni wir eisiau profi’r bywyd dinesig, mae Caerfyrddin
hanner awr i ffwrdd, Abertawe awr i ffwrdd, a Chaerdydd dwy awr i ffwrdd.
A dweud y gwir, ers dyfeisio’r we a Tesco Home Deliveries, alla’ i
ddim meddwl am unrhyw faintais sydd gan byw yn y ddinas dros fyw yn y wlad. Serch
hynny mae pobol y ddinas yn tueddu i edrych i lawr eu trwynau ar bobol y wlad,
a mynnu eu bod nhw’n cael yr hwyl i gyd.
Efallai mai fi sy’n mynd yn hen!
Comments
Post a Comment