Co’ ni Offa…


Dydw i ddim yn ymwneud â’r byd gwleidyddol yn ddyddiol erbyn hyn ond yn argraff yr ydw i‘n ei gael gan bobol sydd â’u bysedd ar y pwls yw nad ydi Leanne Wood wedi llawn argyhoeddi hyd yma. Er ei bod hi’n cynrychioli popeth y mae nifer o bleidwyr ei eisiau mewn arweinydd, dyw hi yn bersonol ddim wedi ‘codi ei gêm’ ers cael ei hurddo yn arweinydd, ac mae ganddi rhai problemau wrth gyfathrebu drwy gyfrwng cynhadledd i’r wasg neu ar y teledu.

Ta waeth mae hi wedi llwyddo i wneud argraff arna' i heddiw drwy fynnu blaenoriaethu materion economaidd – hynny yw, ceisio datrys pam bod Cymru yn wlad cymaint tlotach na gweddill y Deyrnas Unedig. Rydw i wedi teimlo ers amser hir y dylai adfer yr economi fod yn llawer uwch ar restr blaenoriaethau gwleidyddion Cymru, ac etholwyr hefyd, ond am ryw reswm mae’n bwnc sy’n tueddu i gael ei anwybyddu gan amlaf. Yn bennaf oherwydd bod cymhorthdal Llywodraeth San Steffan yn cuddio maint y broblem, dw i'n tybio.

Dyma sydd ganddi i’w ddweud:

“Heddiw rydym yn gwneud datganiad clir o’n blaenoriaeth – bod Plaid Cymru yn cysylltu ei llwyddiant ei hun gyda llwyddiant economaidd y Genedl Gymreig. 

“Os mai cyflawni hunanhyder diwylliannol oedd y flaenoriaeth ar gyfer y ganrif ddiwethaf, yna cyflawni hunanhyder economaidd yw’r nod ar gyfer hon.”

Cam gyntaf Plaid Cymru tuag at wireddu hynny yw cyhoeddi adroddiad gan eu Comisiwn Economaidd, sef Bwlch Offa: Gwreiddiau a Gwellhad i Fethiant Twf yng Nghymru. Dau o enwau mwyaf disglair Plaid Cymru, Dr Eurfyl ap Gwilym (AKA y dyn wnaeth drech Paxman) ac Adam Price (AKA y dyn y mae pob Pleidiwr ei eisiau yn arweinydd y Blaid) yw Cyd-Gadeiryddion y Comisiwn.

Mae modd darllen yr adroddiad fan hyn. Mae’n amlwg bod yr adroddiad yn un cynhwysfawr, ond fel pob adroddiad sy’n mynd i fanylder wrth drafod materion economaidd mae o braidd yn drwm i’r rhan fwyaf o bobol - dyna pam fod yr economi yn fater mor anodd i wleidyddion fynd i’r afael â hi, gan obeithio gwneud unrhyw fath o argraff ar etholwyr, mae’n siŵr. Ond mae neges yr adroddiad yn glir: Mae economi Cymru mewn lle gwael, mewn cyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd, a rhyngwladol, ac yn prysur ddiflannu i lawr y draen.

Argymhellion

Er bod yr adroddiad yn adnabod y problemau, nid yw’n cynnig llawer o atebion - bydd adroddiadau eraill sy’n ystyried y ffordd ymlaen yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.

Ond mae yna lond dwrn o baragraffau sy’n cynnig ambell i bwnc trafod:

“Yn gyntaf, drwy ddiffiniad, rhaid i strategaeth twf Cymreig fod yn strategaeth allforio Gymreig. Mae swyddi ac incwm yn sectorau an-fasnachadwy yr economi yn dibynnu yn y pen draw ar yr incwm a gynhyrchir yn y sector fasnachadwy. Mae ehangu ac amrywio sail allforio Cymru yn allweddol er mwyn cynyddu cyfradd twf economi Cymru, a lleihau’r ddibyniaeth ar drosglwyddiadau cyllidebol o lywodraeth ganolog.”

Hynny yw, mae angen i ni adeiladu mwy o bethau a’u gwerthu i weddill y byd. Fel y mae’r Almaen wedi llwyddo i’w wneud (er bod ganddyn nhw 'fantais' bod yn rhan o'r ewro). Dyma bolisi Llywodraeth San Steffan hefyd, i bob pwrpas.

“Mae angen asiantaeth ymrwymedig, hyd-braich, cyfeillgar i fusnes, ar Gymru, sy’n gweithio er mwyn denu buddsoddiad sydd wedi’i gyfeirio tuag at allforio a chynnal ac annog allforwyr brodorol. Rhan bwysig o’r strategaeth fydd adnabod meysydd cilfach allweddol lle gall Cymru fwynhau mantais gystadleuol fel rhan o strategaeth arbenigaeth graff.”

Ail-sefydlu cwango Awdurdod Datblygu Cymru, felly? Cafodd hwnnw ei ddiddymu yn 2006.

“Yn ail, bydd dyfeisio cynllun priodol i uchafu’r cyfle economaidd a gynigir gan ein cymydog agosaf a mwyaf, sef Lloegr (marchnad o werth uchel, 45 miliwn o bobl sydd o fewn dwy awr o daith i Gymru), yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth economaidd sydd wedi’i gyfeirio tuag at allforio...

“Yn olaf, dylai’r trydydd maes o ran blaenoriaethu polisi ganolbwyntio ar y gwasanaethau ac isadeiledd sydd eu hangen ar y sector nwyddau a gwasanaethau masnachadwy Cymreig i fod yn llwyddiannus. Y mwyaf amlwg o’r rhain yw trafnidiaeth. Mae’r ddaearyddiaeth economaidd newydd, sydd wedi ei gysylltu fwyaf agos at waith Paul Krugman, yn pwysleisio’r rôl allweddol sydd gan drafnidiaeth i’w ware gan gostau trafnidiaeth wrth egluro llwyddiant cymharol economïau rhanbarthol. Mae’r hanesydd economaidd Nick Crafts wedi tynnu sylw yn ei waith i’r rôl a waraewyd gan y symudiad i ffwrdd o ddŵr fel prif wythïen trafnidiaeth nwyddau - lle’r oedd gan Gymru, gyda’i fynediad da at borthladdoedd, fantais dros ganolbarth tirgaeedig Lloegr - a thuag at reilffyrdd ac yn enwedig ffyrdd yn nirywiad cymharol economi Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Caiff y lefel isel o fuddsoddiad yn isadeiledd trafnidiaeth Cymru - yn gyson yn ddim ond yn 2% o fuddsoddiad trafnidiaeth yn gyffredinol - ei adlewyrchu mewn system reilffordd sydd heb ei drydaneiddio o gwbl, maes awyr cenedlaethol sy’n clafychu, twnnel rheilffordd Hafren sy’n dioddef gan lifogydd a phrif draffordd ddeheuol sy’n cynnwys gwendid gwasgle dwy-lôn - sef twnnel Brynglas - ac sy’n destun cwynion busnes cynyddol o uchel. Mae cyfansoddiad allforion nwyddau o Gymru - petrolewm, haearn a dur ac offer tyrbin graddfa fawr - sydd oll yn fwy tebygol i gael ei allforio gan gwmnïau mawrion mewn swmp mawr drwy’r porthladdoedd yn awgrymu bod yr isadeiledd trafnidiaeth ar gyfer trafnidiaeth meintiau llai o gynnyrch gan fusnesau bach a chanoli eu maint, ar y tir, yn broblem sydd angen cyfeirio ati. Mae astudiaethau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pellteroedd teithio o’r prif gytrefi dinesig yn y DG fel ffactor arwyddocaol wrth egluro diffyg ariannol perfformiad economaidd Cymru mewn perthynas â’r DG.”

Mae’r rhan yma ychydig yn fwy dadleuol, gan ei fod, yn ôl beth ydw i’n ei ddeall, yn galw am fuddsoddi rhaor o arian mewn cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr. Rydw i wedi dadlau yn y gorffennol bod angen cryfhau y cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru. Ond mae’r adroddiad yn gwneud pwynt dilys - sef bod y buddsoddiad yn isadeiledd trafnidiaeth Cymru wedi bod yn isel iawn o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gyffrwedinol. Yr ateb amlwg yw cynyddu’r gwariant ar gysylltiadau teidi dros y ffin yn ogystal ag ar drafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de. Serch hynny, mae’n debygol y byddai angen i’r Cynulliad gael y gallu i fenthyca arian - fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud - cyn i ni weld y math yma o fuddsoddiad.

Beth bynnag, mae parodrwydd Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r her economaidd sy’n wynebu Cymru a chynnig rhywfaint o atebion wedi gwneud tipyn o argraff arna’i. Mae wedi pylu i raddau fy awydd i sefydlu plaidgenedlaetholgar adain dde fyddai yn mynd i’r afael â’r union faterion rheini. ;) Pryd oedd y tro diwethaf i’r Ceidwadwyr, y blaid sy’n honni mai nhw yw cyfeillion busnes, gomisiynu adroddiad o’r fath? Hmmm?

Os oes unrhyw un eisiau gyrru allbwn at y Comisiwn, yr e-bost yw post@plaidcymru.org.

Comments