Claddu y ddawns flodau? Hmmm...

Ray o'r Mynydd - ac Archdderwydd nad oedd yn fardd

Rydw i’n mwynhau colofn Cris Dafis yn Golwg am fy mod i’n tueddu i gytuno ac anghytuno’n chwyrn ag ef o un wythnos i’r llall. Digwydd bod anghytuno ag ef ydw i’r wythnos yma, ac eisiau ymateb i’w golofn ‘Claddwch y Ddawns Flodau’! Y peth perygl wrth ymateb i golofnau o’r fath, wrth gwrs, ydi bod yr awduron yn cael eu talu i gicio’r nyth gwenyn a chreu pynciau trafod (ar gyfer y Post Cyntaf gan amlaf), ac felly bod ymateb iddynt ychydig fel llygoden yn sylweddoli ei fod yn cerdded i mewn i drap, ond ddim yn gallu gwrthsefyll y darn mawr o gaws o’i flaen er gwaethaf hynny...

Bwrdwn neges Chris yw ei fod yn falch iawn bod Archdderwyddes ar fin dechrau arwain yr Orsedd. Ond yna mae’n rhestru pethau eraill y dylid eu newid am y sefydliad. Oherwydd prinder geiriau mae’n rhestru'r rhain ar ffurf pwyntiau bwled.

Yn eu mysg mae ehangu’r meini prawf ar gyfer enwebu Archdderwydd i “oreuon pob maes celfyddydol a diwylliannol, yn hytrach na’r criw bychan iawn o feirdd yn unig”.

Hoffwn i gywiro Cris fan hyn – does dim angen bod yn fardd er mwyn bod yn Archdderwydd. Doedd Robyn Llŷn erioed wedi ennill y Gadair na’r Goron, dim ond y Fedal Ryddiaith. Serch hynny rydw i’n deall ei bwynt bod angen ehangu gorwelion y swydd tu hwnt i enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod.

Ond dydw i ddim yn cytuno efo fo chwaith. Mae’n dibynnu beth ydych chi’n ei ystyried yw gwaith yr Archdderwydd. Os mai ryw fath o ‘figurehead’ y diwylliant Cymraeg ydyw, efallai fod dadl o blaid ehangu’r meini prawf - fe allai fod yn actor, yn chwaraewr rygbi, yn gyfarwyddwr; beth bynnag. Ond os ydych chi’n ystyried beth yw dyletswyddau'r Archdderwydd mewn gwirionedd, ryw fath o compère ydyw. Ef sy’n cyflwyno’r seremonïau, y beirniaid, a’r enillwyr. Dwywaith dair y flwyddyn bydd rhaid iddo wneud ryw fath o araith ar Faes yr Eisteddfod neu mewn seremoni cyhoeddi. Dan y fath amgylchiadau mae’r ddawn i drin geiriau, a’u perfformio, yn hollbwysig, ac felly mae’n gwneud synnwyr mai bardd sydd wrth y llyw. Mewn barddoniaeth mae’r cysywllt traddodiadol yna rhwng ysgrifennu a perfformio gwaith sydd ddim yn bodoli mewn meysydd diwylliannol eraill, lle mae’r roliau yn tueddu i gael eu gwahanu, e.e. actor, sgriptiwr, cyfarwyddwr, cynhyrchwr.

Yn ogystal â hynny, rhaid cofio natur y seremonïau y mae’r Archdderwydd yn eu cyflwyno. Cystadlaethau barddoniaeth a rhyddiaith ydyn nhw. Mae’n gwneud synnwyr felly mai rhywun sy’n rhagori mewn ysgrifennu barddoniaeth neu ryddiaith sy’n eu cyflwyno. Dyw’r Archdderwydd ddim yn cyflwyno Gwobrau RAP Cymru, gwobrau BAFTA Cymru, ayyb, ac ni ddylai cyflwynwyr y rhaglenni hynny gyhoeddi enw enillydd y Gadair.

Mae Cris hefyd yn argymell nifer o newidiadau eraill, ac fe wna i ymdrin â’r rhain yn eu tro...

“Pan fydd proffil oedran yr Orsedd yn ifancach...”

Rydw i’n aelod o’r Orsedd ers oeddwn i’n 25, ac mae nifer o bobol ifanc eraill yn aelodau o’r Orsedd hefyd. Oes, mae yna dueddiad i aelodau’r Orsedd fod yn hŷn. Ond mae’r rhesymau dros hynny yn amlwg. Pan wyt ti’n ifanc, mae gen ti bethau gwell i’w wneud nag ysgrifennu llyfrau a barddoni, fel byw bywyd i’r eithaf. Erbyn dy fod ti’n 30 mae gen ti blant a morgais i’w dalu, a dim llawer o amser i ymddiddori mewn ysgrifennu. Dim ond ar ôl cyrraedd eu 50au, neu hyd yn oed ymddeol, y mae gan nifer o bobol yr amser i fynd ati i ysgrifennu o ddifrif.

Yn ogystal â hynny, rhaid ystyried bod yr Orsedd hefyd yn wobr yn achos nifer o’u haelodau. Ryw fath o ‘life time achievement award’ am wasanaethau i’r diwylliant Cymraeg. Mae’n gwneud synnwyr felly bod nifer o’r aelodau yn mynd i fod yn hŷn. Mae enillwyr anrhydeddau, o wobrau Nobel i urddau’r frenhiniaeth,yn tueddu i fod yn hŷn, am yn union yr un rheswm.

Ar ben hynny, mae pobol sydd wedi ymddeol yn fwy tebygol o fod ag amser i gymryd rhan yn seremonïau’r Orsedd yn y lle cyntaf. Cefais fy urddo yn 2009 a dim ond dau ydw i wedi llwyddo i fynd iddyn nhw erbyn hyn. Fe fyddwn i’n mynd i bob un ond mae gen i bethau eraill i’w wneud o ddydd i ddydd...

“Pan mai menyw fydd Ceidwad y Cledd...”

Wel, mae yna reswm eithaf amlwg pam bod dyn yn tueddu i gael ei ddewis. Mae’r Cledd yn drwm. Mae’r ddau geidwad diweddaraf, nid yn unig wedi bod yn ddynion, ond yn gyn-chwaraewyr rygbi proffesiynol. Efallai y gallai Non Evans ei godi heb ormod o drafferth, ond rydw i’n ymdrechu i feddwl o dop fy mhen am nifer o Gymry Cymraeg benywaidd fyddai yn gallu ymgymryd â’r dasg...

“Pan fydd wynebau nad ydyn nhw’n rhai gwyn...”


Dw i ddim yn siŵr beth ellir ei wneud am hyn. Canran bach iawn o’r bobol sy’n siarad Cymraeg sydd ddim yn wyn. Rydw i’n nabod nifer o unigolion sydd ddim yn wyn sy’n siarad Cymraeg - ond mater iddyn nhw ydi ymuno â’r Orsedd.

“Pan fydd cynrychiolydd lleol - yn hytrach na mam y fro – yn cyfarch aelodau’r Orsedd” / “Pan fydd rhywbeth mwy addas yn disodli’r Ddawns Flodau...”

Mae yna berygl fan hyn o daflu’r babi allan efo’r dŵr bath. Beth yw pwynt disodli nifer o’r elfennau traddodiadol sy’n nodweddiadol o seremonïau’r Orsedd? Y nhw yw’r gliw sy’n cadw’r holl beth at ei gilydd. Efallai y byddai yn well gan Cris weld Diversity neu ryw ddawnswyr stryd arall yn perfformio o flaen y bardd buddugol, a chael Pudsey y ci i groesawu’r Archdderwydd, ond nid Seremoni’r Orsedd fyddai hi wedyn. Mae’r Urdd yn cynnig ryw fath o ‘ddawns flodau’ amgen i gyfarch y beirdd buddugol bob blwyddyn, a dydyn nhw heb wneud ryw lawer o argraff arna’i. Mae angen ar bob diwylliant rhai pethau sy’n aros yr un fath, dim ots pa mor hen-ffasiwn â naff ydyn nhw. Wedi’r cwbl, neges yr Eisteddfod yn ei gyfanrwydd, a Seremoniau’r Orsedd, yn benodol, yw ‘rydyn ni’n dal yma a dyw rhai pethau ddim yn newid’.

(Mae’n ddiddorol ystyried y tebygrwydd rhwng rôl yr Orsedd yn hyn o beth a’r Frenhines yng nghyd-destun y diwylliant Prydeinig ehangach - natur sefydlog a digyfnewid y Frenhines gafodd ei gynnig yn un o’r prif resymau am ei phoblogrwydd yn ystod Seremoniau’r Jiwbilî.)

“Pam na fydd yr Orsedd yn cynnig gweddi i un Duw yn unig.”

Rydw i’n anffyddiwr, ac fe fyddai yn well gen i glywed yr un duw yn cael ei grybwyll, na sawl un! Ac fe fyddai awgrym Cris yn difetha Gweddi’r Orsedd, braidd...

“Dyro Dduw/Allah/Buddha/Vishnu/dim un o’r uchod dy Nawdd...”

Serch hynny rydw i’n reit hoff o weddi’r Orsedd, yn enwedig y modd iasol y mae’r gynulleidfa yn ymateb i gri'r gweddïwr. Does dim rhaid i rai pethau wneud synnwyr, os ydyn nhw’n teimlo’n iawn...

Comments