Syniad am wefan newydd

Oes angen ryw fath o Sylw/Barn ar-lein?
Dyma E. Morgan Humphreys (yn 1945) yn disgrifio ei bapur newydd Cymraeg delfrydol:

... y mae’r ddelfryd arall – efallai mai breuddwyd fuasai’r gair gorau – sydd gennyf, sef y dyniad am bapur Cymraeg wythnosol ar linellau tebyg i’r New Statesman neu’r Spectator. Tybed nad oes yng Nghymru bellach ddigon o gyhoedd i gadw pen papur felly, papur a fuasai’n trin gwleidyddiaeth y dydd, amgylchiadau’r byd, mudiadau llenyddol a cherddorol, y ddrama, y radio a’r darluniau byw, yn Gymraeg ac o safbwynt Cymreig? ... Y mae rhywbeth y gellir ei alw yn feddwl cenedlaethol Cymreig yn bod; nid yw hynny’n golygu unfrydedd ar bopeth, ond y mae’r bobl sydd yn meddu’r meddwl hwnnw yn sefyll ar yr un tir ynghylch y pethau a berthyn i’n hiachawdwriaeth fel cenedl. Organ i draethu barn ac i arwain barn fuasai papur o’r fath yn hytrach na chyfrwng i roddi’r newyddion. Gwnâi’r papurau newydd y gwaith hwnnw, ond y mae arnom angen rhywbeth i wneud gwaith nad oes ganddynt hwy gyfle na lle i’w wneuthur. (Y Wasg Gymraeg, Tud 58)

Mae’n bosib bod delfryd E. Morgan Humphreys wedi ei wireddu i raddau yn 1962 pan sefydlwyd Barn, er mai cylchgrawn misol yn hytrach na phapur wythnosol ydyw. Serch hynny mae E. Morgan Humphreys yn disgrifio i raddau fy nelfryd innau, ond am wefan ddyddiol sy’n “organ i draethu barn ac i arwain barn” yn hytrach na phapur newydd wythnosol.

Bydd rhai yn dadlau mai gwaith Golwg 360 neu BBC Newyddion yw darparu gwasanaeth o’r fath, ond yn fy mhrofiad i mae eu hadnoddau nhw’n ymestyn i ddarparu’r newyddion a dim llawer pellach. Fel y dywed E. Morgan Humphreys uchod, “mae arnom angen rhywbeth i wneud gwaith nad oes ganddynt hwy gyfle na lle i’w wneuthur”.

Bydd eraill yn dweud bod gan Barn eisoes wefan. Ond canolbwyntio ar y cylchgrawn print yw eu gorchwyl nhw, a heblaw am gyhoeddi ambell i erthygl ar eu gwefan bob mis does yna ddim llawer o fywiogrwydd yno. Ar ben hynny, dyw erthyglau hirfaith Barn, sydd wedi eu hysgrifennu ar gyfer print, ddim bob tro yn gweddu i gyfnod canolbwyntio byr defnyddwyr y we.

Be sydd gen i mewn golwg yw gwefan Gymraeg aml-gyfrannog fydd yn gwahodd cyfraniadau gan nifer fawr o bobol wahanol. Yn ogystal â hynny fe fydd yn rhoi sylw amlwg i ddolenni i flogiau eraill, straeon newyddion, a thrydar Cymraeg.

Wrth siarad yn seminar y Gymraeg, Technoleg & Cyfryngau Digidol ddydd Iau diwethaf dadleuodd Rhodri ap Dyfrig mai’r ffordd orau o hybu rhagor o drafod yn Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol megis Twitter a Facebook, oedd i gynhyrchwyr cynnwys ar-lein gydweithio er mwyn creu llawer mwy o gynnwys Cymraeg o safon. Fe fyddai hynny yn ei dro yn arwain at lawer mwy o rannu dolenni a thrafod y pynciau dan sylw yn Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol.

Pam gwefan aml-gyfrannog felly? Onid yw’r sefyllfa bresennol, lle mae nifer o bobol yn cyfrannu at eu blogiau unigol eu hunain gan roi eu barn arnynt hwy, yn ddigonol?

Does dim byd yn bod ar hynny, ac rydw i eisiau gweld blogiau unigol yn parhau, ond mae yna nifer o fanteision i flog aml-gyfrannog, gan gynnwys:

  • Mae darllenwyr yn fwy parod i ddychwelyd yn aml i wefannau prysur sy’n cyhoeddi erthyglau newydd yn gyson, nag ydyn nhw i flogiau unigol sy’n cyhoeddi negeseuon newydd tua unwaith neu ddwywaith yr wythnos. E.e. mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n ymweld â’r blog yma yn gwneud hynny trwy ddolen i flogiad newydd ar Twitter. Dydyn nhw ddim yn ymweld ar hap yn ddyddiol achos anaml iawn ydw i’n diweddaru’r blog. Ond mae’r rhan fwyaf o ddarllenwyr Golwg 360 yn galw draw yn uniongyrchol i'r wefan, a hynny'n gyson, am eu bod nhw’n gwybod y bydd cynnwys newydd yno bob awr.
  • Mae yna nifer o unigolion sydd â rhywbeth i’w ddweud ar rai pynciau penodol, ond dydyn nhw ddim yn teimlo’r angen i gyfrannu yn ddigon aml i fod eisiau eu blogiau eu hunain, ac mae’r her dechnegol o gynnal blog yn ormod iddyn nhw. Fe fyddai blog aml-gyfrannog yn gyfle iddyn nhw gyfrannu’n ysbeidiol, ond gan rannu’r un gynulleidfa a’r rheini sy’n cyfrannu’n aml.
  • Byddai gwefan sydd â nifer uchel o ddarllenwyr yn golygu ei fod yn haws denu gweledyddion a sylwebwyr dylanwadol eraill i gyfrannu. E.e. allen i ddim gofyn i Ieuan Wyn Jones gyfrannu at y blog yma, ond mae wedi cytuno i wneud ar flog Golwg 360 mwy nag unwaith.
  • Mae gwefan â nifer uchel o gyfranwyr yn golygu y byddai modd ymateb i newyddion y dydd, bron i bob dydd. Fyddai yna ddim oedi hir rhwng y stori’n torri a’r ymateb, fel sy’n anorfod yn achos ein cylchgronau wythnosol a misol.
  • Byddai gwefan â nifer uchel o gyfranwyr, a darllenwyr, yn golygu nifer o sylwadau. Mae sylwadau fel caseg eira – y mwyaf o sylwadau sydd, y mwyaf sy’n ymateb i’r sylwadau rheini, ayyb. Mae poblogrwydd system sylwadau Golwg 360 yn dangos hynny i’r dim.
  • Byddai un gwefan aml-gyfrannog yn gallu denu arbenigwyr technolegol o safon i gyfrannu at greu a chynnal a chadw'r safle, gan olygu ei fod yn esblygu wrth i ofynion y we newid (yn wahanol i’r blog yma, sydd wedi defnyddio’r un patrymlun ers 2009).
  • Byddai hefyd yn golygu bod modd cael gafael ar olygydd(ion) neu arbenigw(y)r iaith a fyddai yn gallu sicrhau bod safon yr erthyglau sy’n cael eu cyhoeddi yn uchel.
  • Yn ogystal â hyn oll byddai gwefan aml-gyfrannog yn berffaith er mwyn rhoi sylw i bynciau sydd ddim fel arfer yn cael eu trafod yn y Gymraeg. Fe gaiff pobol eu denu yno gan ddarn barn am gecru mewnol Plaid Cymru, a cyn eu bod nhw’n gwybod beth sydd wedi eu taro maen nhw’n darllen myfyrdodau rhywun am Justin Bieber (efallai).
  • Efallai y byddai modd defnyddio’r wefan fel modd o roi presenoldeb ar-lein i gylchgronau Cymraeg sydd ddim â’r adnoddau i gynnal eu gwefannau eu hunain, neu sydd â gwefannau sydd ddim yn denu nifer o ddarllenwyr. E.e. Barn, Taliesin, Tu Chwith, ayyb.
  • Does yr un gwefan ar hyn o bryd sy’n cynnig adolygiadau o lyfrau, dramâu, ayyb, ers i wefan Cylchgrawn y BBC gau. Mae’n ormod o dasg i un blogiwr - mae angen byddin fechan o gyfranwyr er mwyn gwneud hynny. Ac fe fyddai gwefan aml-gyfrannog yn gyfle i gasglu’r cwbl yn yr un lle gan wneud dod o hyd iddynt yn haws.
  • Byddai blog aml-gyfrannog yn golygu nifer uwch o ddefnyddwyr ar yr un wefan, a fyddai yn ei dro yn golygu y byddai’r wefan yn uwch ar ganlyniadau chwilio Google.
  • Ers i boblogrwydd Maes-e bylu does yna’r un lle ar y we er mwyn cynnal trafodaeth dda yn y Gymraeg. Mae cyfyngiadau Twitter yn golygu ei fod yn anodd iawn trafod unrhywbeth mewn dyfnder, a dyw straeon Golwg 360 ddim fel arfer yn cyflwyno barn penodol a rhesymegol y gellir ymateb iddi. Fe fyddai’r wefan yma yn hybu trafod sawl pwnc mewn manylder, ac yn gwahodd sylwadau sy’n cyfrannu yn adeiladol at y ddadl.
  • Et cetera...
Beth fyddai yn cael ei drafod, felly? Wel, popeth, o fewn rheswm wrth gwrs. Fe fyddai yna blatfform i bob enwad a phlaid wleidyddol. Fe fyddai yn ddoeth, dw i’n credu, cyfyngu hyd yr erthyglau i tua 800-1,000 o eiriau o ystyried mai dyna hyd gyfnod canolbwyntio y rhan fwyaf o ddarllenwyr y we. Byddai yna bwyslais ar ymateb i erthyglau pobol eraill, a chynnwys dolenni i rannau eraill o’r we. Byddai’r wefan hefyd yn cynnwys cyfle i gyfrannu a gadael sylwadau dan enwau Facebook a Twitter er mwyn hwyluso’r cysylltiad rhwng y cyfryngau gwahanol.

Beth am y gost? Wel dw i ddim yn meddwl y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon ariannu’r fenter, na neb arall chwaith. Felly ar ôl talu am barth a chreu’r wefan byddai angen i bopeth arall fod yn wirfoddol. Ond o ymgynnull grŵp craidd o ryw 20 o gyfranwyr i ddechrau ni fyddai’r baich ar unrhyw unigolyn yn ormod. Fe fyddwn i’n fodlon cyfrannu’n helaeth ac e-bostio, ffonio a phoeni darpar gyfranwyr eraill, yn ogystal â golygu a chyhoeddi yn ôl yr angen, ayyb.

Amdani? Neu a oes yna ryw dwll mawr yn fy nghynllun nad ydw i wedi ei weld? Fyddech chi’n cyfrannu? Rhowch wybod os ydych chi’n meddwl y byddai yn syniad da, neu yn syniad drwg...

Comments

  1. Syniad ardderchog!

    ReplyDelete
  2. Dwi'n meddwl y basa angen i ti redeg menter o'r fath gyda rhywfaint o arian. Ma dylunio safonol a datblygiad gwe parhaol mor bwysig i lwyddiant menter o'r fath. Mae'r broses o godi arian yn dod â sylw a chefnogaeth graidd i brosiect hefyd. Rhaid i ni drio symud ffwrdd o wirfoddolaeth lwyr ar y we Gymraeg. Dwi'n cofio Aran Jones yn trio sefydlu rhywbeth tebyg nol yn nyddia Maes-e. Aeth o ddim yn bell iawn yn anffodus ac roedd ewyllys prif gyfrannywr maes-e tu ôl iddo.

    Pam ddim trio codi arian a sylw drwy wefan fel Indiegogo?

    Ma barn (b fach) cyfrwng Cymraeg mewn lle difrifol iawn ar hyn o bryd yfmi. Mae Barn (b fawr) a Golwg (y cylchgrawn) yn rhan o'r broblem...

    ReplyDelete
  3. Newydd ddarllen y gofnod blog yma: http://onlinejournalismblog.com/2012/06/22/hyperlocal-voices-rachel-howells-port-talbot-magnet/ sydd yn ddefnyddiol o ran profiad cymysgu codi arian / gwirfoddoli a chyfuniad o broffesiynol ac amatur.

    Diddorol bod nhw wedi mynd am dechneg torfoli arian eu hunain yn hytrach na defnyddio platfform mwy. Dwi'n dueddol o feddwl byddai hyn yn gweithio'n well i brosiect Cymraeg hefy o ystyried nad oes hanes mawr (h.y. dim!) o dorfoli arian drwy ddefnyddio'r we.

    Dwi'n sori os oedd y neges gynta chydig yn negyddol. Dwi'n meddwl bod gwefan o'r fath yn gwbl angenrheidiol.

    ReplyDelete
  4. Mae'n syniad da a byddwn wrth fy modd gweld y fath beth yn gweld golau dydd.

    Rhywbeth tebyg i Wales Home felly? Roedd hwnnw'n dda a phoblogaidd, ond mae'r ffaith bod y peth wedi darfod er gwaethaf hynny'n dangos nad yw prosiectau gwirfoddol yn gynaliadwy. Byddai angen codi arian rywsut yn sicr.

    A dim nawdd cyhoeddus!

    ReplyDelete
  5. Diolch Ioan, Nwdls a Dylan am eich sylwadau...

    Er diddordeb Nwdls pam wyt ti’n credu bod Barn a Golwg yn gwneud cymaint o niwed?

    Rydw i newydd edrych ar wefan Indiegogo a gweld ar y dudalen flaen bod cyfaill i mi o Ganada/Rwsia wedi llwyddo i godi $14,740 er mwyn gallu cynhyrchu cyfres o gomigau! Bydd rhaid i fi ofyn am ei gyngor yn hyn o beth...

    Roedd Maes-e wedi llwyddo i ddenu cyfraniadau gan ddefnyddwyr ar un adeg, ond mae gofyn am gyfraniadau gan bobol tuag at wefan sydd ddim yn bodoli yn mynd i fod yn anoddach dybiwn i. Y cam cyntaf yw eu hargyhoeddi nhw bod angen rhywbeth fel hyn ar ben Twitter, Facebook.

    Tasg arall yw ymchwilio i wefannau eraill sy’n gwneud gwaith tebyg a gweld beth sydd wedi gweithio a beth sydd ddim. Rydw i’n gwybod o brofiad pa mor bwysig yw’r ochor dechnegol i lwyddiant gwefan fel hyn, (a pha mor gostus ydyw hefyd). Yn anffodus gan mai newyddiadurwr ydw i yn hytrach na chodiwr bydd angen i fi wneud tipyn o waith ymchwil a gofyn am gyngor rhywun sydd yn dod o gefndir adeiladu gwefannau.

    Serch hynny mae’n braf clywed bod pobol yn gefnogol!

    ReplyDelete
  6. Mae (detholiad) [o] erthyglau Barn i'w cael ar-lein yn barod wrth gwrs, ond hyd y gwela i,yr unig l lle mae hyn yn cael ei hysbysebu/hyrwyddo ydy o fewn cloriau cylchgrawn Barn ei hun!
    Dw i ddim yn siwr beth y'w drefn, ond mae modd gadael sylw ar waelod rhai erthyglau, a ddim rhai eraill.

    Dw i ddim yn trio bychanu eu hymdrechoedd - credaf bod nhw'n gwneud hyn heb uchryw gyllid ychwanegol tuag et ei gynnal ar ben beth mae'n nhw'n dderbyn fel grant i gynhyrchu'r cylchgrawn.

    Mond llond dwrn o erthyglau sy'n wirioneddol hir, mae'r gweddill o faint addas iawn ar-lein (YFMI).

    Mae beth mae Nwdls yn ddeud am ddyluniad yn holl bwysig hefyd. Er enghraifft cymharwch yr erthygl Coalas, Cangarwod a Choed gan Lowri Haf Cooke - dyma sut'r mae'n ymddangos ar wefan Barn, ac yma ar flog Lowri

    Mae darllenwyr yn fwy parod i ddychwelyd yn aml i wefannau prysur sy’n cyhoeddi erthyglau newydd yn gyson, nag ydyn nhw i flogiau unigol sy’n cyhoeddi negeseuon newydd tua unwaith neu ddwywaith yr wythnos.

    Cytuno. Dw i wir yn meddwl byddai diddordeb/galw i'r fath beth a byddwn yn foldon rhoi arian tuag at ei sefydlu/cynnal.

    ReplyDelete
  7. Sbel yn ol 'roedd BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi yn cynnig £30 am adolygiad o lyfr Cymraeg (hefyd o ffilmiau...)Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008. Camgymeriad. Gellir dadlau fod gormod o lyfrau Cymraeg yn gweld golau dydd yn flynyddol. Ond dim digon o adolygu. Trin a thrafod. Mas critigol...
    Ydw i nawr am ddweud y dylid ffendio arian newydd yn syth bin er mwyn ariannu cynllun gwaraidd? Wel, cofiwch fod rhai yn y byd Cymraeg yn ennill cyflogau afresymol o uchel. Digon o bres i rai pethau. Dim i bethau eraill.
    M Ll Williams

    ReplyDelete
  8. Bwlch yn y diwylliant Cymraeg:
    http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/72664-datgelu-rhestr-fer-llyfr-y-flwyddyn?#sylw-brsa

    ReplyDelete
  9. Ifan,

    Dyna yn union oedd fy syniad i ar gyfer adran Siop Siarad ar wefan Lleol.net. Mae'r system yn barod i fynd does dim angen gwario ceiniog!!

    Fedrai agor cyfrif unigol i bobol sydd â diddordeb cyfrannu.

    Os wyt yn medru ffeindio pobol i gyfrannu bydda hwn yn grêt.

    Mae gan y wefan rhwydwaith trydar a Facebook iach hefyd er mwyn rhoi'r negeseuon yma ar led a dechrau sgwrs ar y wefan.

    Croeso i ti rhoi galwad i mi ar 07595 370711 os am sgwrs am y peth.

    ReplyDelete

Post a Comment