Trafodaeth am #techCY ar Twitter |
Mae wedi cymryd
sbel i fi ymateb i seminar y Gymraeg, Technoleg& Cyfryngau Digidol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe ddigwyddodd y
seminar ddydd Iau'r wythnos diwethaf ac rydw i’n ymateb nawr. Yn oes Twitter a
Facebook, sy’n ffafrio’r ymateb pithy, disymwth, mae pum diwrnod yn amser hir iawn!
Ond mantais blogiau, er bod eu poblogrwydd yn lleihau erbyn hyn, yw bod yna
gyfle i bwyso a mesur a meddwl. Does dim
angen ymateb yn syth bin.
Beth bynnag, mae’n bosib darllen yr holl drydariadau o’r seminar
Cymraeg, Technoleg & Cyfryngau Digidol fan
hyn. Ond mae’n braf gallu ymateb mewn mwy na 140 o lythrennau! Roedd ormod
yn mynd ymlaen yn y seminar i allu ymateb i bopeth, ond hoffwn i gynnig ambell
sylw ar rai o’r pynciau a drafodwyd.
Y cyflwyniad mwyaf diddorol, a’r gorau, ar
y diwrnod yn fy nhyb i oedd un Rhodri ap Dyfrig am annog defnydd y Gymraeg ar
rwydweithiau cymdeithasol. Efallai mai ei bwynt mwyaf perthnasol i gyd-destun y
drafodaeth oedd nad oedd yna gymaint â hynny allai Llywodraeth Cymru ei wneud o
ran llunio polisi i annog pobol i siarad Cymraeg ar Facebook a Twitter.
Ond ei brif bwynt dw i’n credu oedd bod angen creu llawer mwy o gynnwys o safon
ar y we yn Gymraeg, ac y byddai hynny yn ei dro yn arwain at lawer mwy o drafod
a rhannu dolenni i gynnwys Cymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol. Hynny yw,
efallai nad ceisio dylanwadu ar y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio
rhwydweithiau cymdeithasol i wneud rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg a rhannu
rhagor o gynnwys yw’r ateb (cywira fi os ydw i’n anghywir, Rhodri, os gwelwch
yn dda). Felly mae’r baich ar gynhyrchwyr cynnwys ar-lein i gydweithio er mwyn
creu cynnwys sydd at ddant defnyddwyr Facebook a Twitter.
Roeddwn i’n cytuno â 95% o bopeth yng
nghyflwyniad Rhodri (a ddylai fod ar-lein cyn bo hir ar wefan Llywodraeth Cymru).
Yr unig bwynt nad oeddwn i’n cytuno ag ef, neu wedi ei gamddeall, oedd y
pwyslais ar greu cynnwys oedd y tu allan i ffiniau y diwylliant Cymraeg a
Chymreig. Os ydw i wedi deall yn iawn, roedd Rhodri yn dadlau na ddylid
cyfyngu'r cynnwys Cymraeg a fyddai yn cael ei greu er mwyn apelio at
ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol at y pynciau rheini oedd yn gysylltiedig
â’r iaith Gymraeg. Roedd Rhodri yn teimlo bod siaradwyr Cymraeg yn tueddu i drafod
y rhan fwyaf o bynciau drwy gyfrwng y Saesneg ar wefannau rhwydweithio
cymdeithasol am mai dim ond yn Saesneg y maen nhw’n cael eu trafod ar y we yn
fwy cyffredinol a thu hwnt.
Rydw i’n deall pam fod Rhodri yn dweud
hyn. Fe fyddai yn braf petai yna fodd trafod ystod eang o bynciau yn Gymraeg ar
y we yn hytrach na chyfyngu’r drafodaeth i bynciau sy’n gysylltiedig â’r
Gymraeg. Ond dw i’n meddwl bod tri pwynt sy’n werth ei wneud. Y cyntaf yw’r
diffyg adnoddau sydd gan greuwyr cynnwys Cymraeg ar-lein. Mae gennym ni ddwy
wefan newyddion Cymraeg, ambell i fforwm drafod Cymraeg, llond dwrn o flogiau
Cymraeg, ac yna Twitter a Facebook, a fydd i raddau yn ymateb i’r cynnwys sy’n
ymddangos ar y lleill. Yn amlwg mae’r gallu i drafod nifer eang o bynciau yn
eithaf cyfyngedig. e.e. fe allai gwefan newyddion y BBC neu Golwg 360 ysgrifennu
erthyglau am y chwyldro yn yr Aifft, neu un o gystadleuwyr yr X Factor, neu
Justin Bieber, neu nofelau cyfres Twilight a Harry Potter (pynciau sy’n
boblogaidd iawn ar Twitter), ond fe fyddai hynny yn cyfyngu ar eu gallu i
drafod pynciau sydd yn debygol o fod o bwys i’r Cymry Cymraeg. Mae’r un peth yn
wir am flogiau.
Yr ail bwynt yw bod pobol sy’n siarad
Cymraeg yn tueddu i ffafrio erthyglau sy’n trafod pynciau sydd â rhyw
gysylltiad â’r iaith Gymraeg. Rydw i’n credu bod Rhodri ei hun wedi dyfynnu
adroddiad yn ystod ei gyflwyniad oedd yn cadarnhau bod nifer llawer uwch yn
darllen erthyglau ar wefan newyddion y BBC oedd yn ymwneud â’r Gymraeg nag oedd
yn darllen eu harlwy rhyngwladol, neu eu harlwy chwaraeon. Yn achos Golwg 360
fe alla’i gadarnhau o brofiad nad yw erthyglau rhyngwladol a chwaraeon yn cael
ryw lawer o ‘hits’ - yr unig reswm dros ddyfalbarhau yw’r teimlad y dylai’r
pynciau yma gael eu trafod yn y Gymraeg, yn rywle, doed a ddelo. Ond mae nifer
y darllenwyr ar yr erthyglau yna yn aml yn cael eu cyfri yn y degau, tra bod
nifer y darllenwyr ar erthyglau am Gymru a’r Gymraeg yn cael eu cyfri yn y
miliynau. Serch hynny mae’r straeon yn cymryd yr un faint o amser i’w
hymchwilio a’u hysgrifennu.
Rydw i’n credu bod blogiau Cymraeg hefyd
yn adlewyrchu hyn i raddau helaeth. Mae’r blogiau mwyaf poblogaidd yn y
Gymraeg, Blogmenai, Hen Rech Flin, a Blog Vaughan Roderick, yn trafod
gwleidyddiaeth Cymru, ac yn fwy penodol Plaid Cymru, fel arfer. Mae yna
gysylltiad Cymraeg neu Gymreig i’r rhan fwyaf o flogiadau Hacio’r Iaith. Mae
nifer darllenwyr y blog yma ar ei uchaf pan ydw i’n trafod pwnc sydd yn agos at
galon y Cymry Cymraeg, ar ei isaf pan ydw i’n trafod yr ewro neu ryw bwnc arall
y gellir ei drafod yn y Saesneg.
Fe allen i drafod yr X Factor neu Justin Bieber. Ond fy ngreddf
i yw na fyddai unrhyw un yn darllen, oherwydd bod modd cael mynediad at
ddadansoddiad gwell ar y pynciau yma yn Saesneg.
Efallai mai’r ymateb i hynny yw nad yw
nifer y darllenwyr yn bwysig. Ond, o ystyried fy mod i’n un o ychydig sydd
bellach yn blogio yn Gymraeg, onid yw’n gwneud synnwyr fy mod i’n treulio fy
amser yn trafod pynciau sy’n mynd i ddenu darllenwyr? Os fyddai pawb sy’n cynnal blogiau yn Gymraeg yn ysgrifennu ar bynciau sydd ddim at ddant
ddarllenwyr sy’n siarad Cymraeg, ac felly bod neb yn trafferthu darllen eu
blogiau, oni fyddai’r rhithfro yn gymuned llawer mwy marwaidd nag ydyw nawr?
Dydw i ddim yn dadlau nad oes digon o Gymry
Cymraeg ar Twitter a Facebook i drafod bob pwnc dan haul. Ond os yw’r onus ar yr rheini sy'n
creu cynnwys y tu allan i’r rhwydweithiau cymdeithasol i greu’r cynnwys iddyn
nhw ymateb iddo, dydw i ddim yn credu fod ddigon ohonom ni i ymateb i’r galw
hwnnw.
Y trydydd pwynt ydi fy mod i’n credu y
byddai siaradwyr Cymraeg yn dewis trafod pynciau sydd ddim yn gysylltiedig â’r
Gymraeg yn Saesneg beth bynnag, hyd yn oed pe bai yna flogiau, erthyglau, ayyb,
sy’n trafod y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n dweud hyn oherwydd y
byddai trafod y pynciau drwy’r Saesneg yn denu ymateb llawer ehangach gan
ddefnyddwyr eraill Twitter a Facebook. E.e. pe bawn i’n trydar neges am Harry
Potter yn Gymraeg, dim ond ymateb cyfyngedig iawn fyddai gan siaradwyr Cymraeg
eraill sy’n hoffi Harry Potter. Ond pe bawn i’n cyhoeddi y neges yn Saesneg fe
fyddai gen i gynulleidfa o filiynau o bobol sydd wrth eu bodd â Harry Potter.
Ond pe bawn i eisiau trafod nofel ddiweddaraf Caryl Lewis neu Dewi Prysor,
waeth i fi drydar yn Gymraeg ddim gan mai dim ond siaradwyr Cymraeg fydd â
diddordeb yn eu harlwy nhw (gan amlaf).
Yr ail bwnc a gododd yn ystod y seminar yr
ydw i eisiau ymateb iddo yw cywirdeb iaith. Roedd ryw fath o gonsensws, hyd y
gwelaf i, fod cywiro iaith yn rhywbeth y dylid gochel rhagddo ar y we am ei fod
yn tanseilio hyder pobol i ddefnyddio’r Gymraeg. Roedd ambell un yn yr is-seminar
am rwydweithio cymdeithasol yn sôn bod pobol wedi ymosod ar eu hiaith nhw ar
Twitter, ac roedd cynrychiolwyr o Golwg360 a Radio Cymru yn dweud eu bod nhw’n
derbyn nifer fawr o sylwadau yn gyson yn cwyno am safon iaith eu cynnwys.
Dyw fy iaith i wrth ysgrifennu ar-lein
ddim yn gywir o bell ffordd ac mae ambell un wedi fy nghywiro i ar Twitter yn y
gorffennol. Ond rydw i’n credu bod pobol yn tueddu i ysgrifennu mewn cywair gwahanol
ar-lein. Pan ydw i’n ysgrifennu traethawd academaidd, er enghraifft, mae cywair
fy iaith yn hollol wahanol ac rydw i’n talu llawer mwy o sylw i fy iaith. Ond
wrth ysgrifennu ar-lein rydw i’n tueddu i ysgrifennu yn yr un iaith ag ydw i’n
meddwl - ar fy mlog mae’r cyfan fel arfer yn dod allan mewn un go, heb stopio i
wirio unrhyw beth. Ar Twitter rydw i’n aml iawn yn dileu treigladau, dileu’r n ddwbl,
ayyb, am eu bod nhw’n golygu fy mod i’n mynd dros gyfyngiad geiriau'r wefan!
Mae’r wefan yn annog Cymraeg gwallus, mewn ffordd.
Dydw i ddim yn gweld unrhyw fudd mewn
ysgrifennu negeseuon cas a blin at bobol yn beirniadu safon eu hiaith. Wedi’r
cwbl mae ysgrifennu Cymraeg gwallus yn well na pheidio ysgrifennu’r Gymraeg o
gwbl - ac wedi’r cyfan, ysgrifennu Cymraeg gwallus yw’r cam cyntaf tuag at
ysgrifennu Cymraeg o safon. Roedd safon fy iaith i ar Maes-e nol yn 2002 yn
warthus, ond drwy fynd i’r arfer o ysgrifennu yn Gymraeg (yn bennaf o ganlyniad
i’r we) mae fy iaith wedi gwella. Ar y rat yma, erbyn 2038, fe fydd yn fy iaith
yn berffaith ac fe fyddaf yn Brif Gopyn iaith. ;)
Rydw i’n credu fod cyfri @einCymraeg ar Twitter yn dangos y
ffordd ymlaen o ran hybu iaith o safon ar y we. Yn hytrach na beirniadu iaith
defnyddwyr eraill, a pheryglu’r hyder bregus sydd ganddyn nhw wrth ddefnyddio’r
iaith, mae’r cyfrif yma yn dangos esiamplau o Gymraeg da ac yn annog pobol i
ryngweithio ag ef. Mae hefyd yn ryw fath o ‘agony aunt’ anhysbys i’r rheini
sydd am gysylltu i ofyn cyngor pe baen nhw’n dioddef o anhwylderau ieithyddol
chwithig.
Mae safon iaith yn bwysig, i ddyfodol yr
iaith, ond hefyd i’r unigolyn. Os yw’r unigolyn yn meistroli’r iaith mae’n
golygu y bydd yn gallu gwerthfawrogi’r iaith yn fwy ac yn gallu mynegi ei hun yn
ddi-ffwdan. Tra bod yr iaith yn fyw fe fydd yna bob tro pobol sy’n dewis
meistrolio’r iaith bron a bod yn llwyr, a canran mawr sydd o’r farn nad yw
ambell i gamgymeriad fan hyn a fan draw o bwys, ac mai'r peth pwysicaf yw bod pobol eraill yn gallu eu deall nhw.
Rhaid derbyn hefyd bod beth sy’n cael ei
ystyried yn iaith safonol yn mynd i newid o ganlyniad i ddefnydd yr iaith ar y
we, a’i fod eisoes wedi newid. Mae’r bwlch rhwng yr iaith ysgrifenedig safonol
a’r iaith lafar yn culhau. Efallai y bydd hynny yn creu dryswch, o ystyried
nifer y tafodieithoedd sy’n rhan o’n hiaith lafar. Ond rydw i’n credu mai un o
sgil effeithiau'r we yw y bydd y bwlch rhwng tafodieithoedd gwahanol y Cymry
hefyd yn cau.
Pwy a ŵyr? Rydw i wedi ysgrifennu gormod
yn barod. Ymlaen â’r drafodaeth... #techCY
Diolch am dy sylwadau Ifan. Roedd gen i un sleid arall na ddefnyddiais i yn y diwedd oedd yn trio rhoi rhai syniadau am sut i wneud defnydd Cymraeg sydd ddim am y Gymraeg neu Gymru yn fwy tebygol o gael ei ddarllen/gwylio/rhannu. Ma'n benthyg syniadau Kevin Kely am sut i gystadlu mewn marchnad lle mae llawer o beth rydych chi'n gynhyrchu ar gael am ddim. Mae'n addas ar gyfer y Gymraeg hefyd dwi'n meddwl.
ReplyDeleteDwi'n meddwl bod cyrraedd critical mass yn allweddol. Cyrraedd y tipping point yma ydi brwydr gyson ieithoedd lleiafrifol. Mae'n haws ei gyrraedd gyda chynnwys am Gymraeg, ond yn fwy gwerth chweil yn yr hir dymor ei gyrraedd gyda deunydd sydd ddim am y Gymraeg.
Na'i flogio i roi mwy o sylwedd ar y syniadau Kelly!
O.N. yn dydi hi'n drist nad oes na un lle lle gallwn ni drafod materion y dydd mewn dyfnder - roedd Maes-e yn cyflawni hyn, ond da ni'n dlawd iawn heb rywbeth tebyg. Ella bod lle i Menshn Cymraeg wedi'r cyfan...
Ombai ein bod yn trafod pob dim yn y Gymraeg - beth yw pwynt addysg Gymraeg. Man a man inni fynd nol at hen arfer ysgolion Cymru yn yr ardaloedd Cymraeg - dysgu Cymraeg iaith a llen drwy gyfrwng y Gymraeg ac ychwanegwn grefydd at hwnna ond pob dim arall yn Saesneg.
ReplyDeletePopeth yn Gymraeg - dyna odd hen gri Cymdeithas yr Iaith slawar dydd a dyna dylsa hi fod heddi.
Ombai bo ni'n gallu trafod pob dim yn y Gymraeg ar y cyfryngau newydd blaw am ein bola bol ni'n hunan - mi fydd farw'r Gymraeg!
Diolch am y sylwadau Rhodri a Ceri.
ReplyDelete@Rhodri - Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen dy flog! Mae gen i syniad am rywbeth i hybu lle i drafod materion y dydd, fe wna i rannu mwy cyn gynted ag ydw i'n gallu!
@Ceri - Dim dweud na ddylid trafod popeth yn y Gymraeg ydw i. Rydw i'n sicr yn gwneud hynny ar Twitter ac ar lafar, ac ymhobman arall, ac rydw i'n annog pawb arall i wneud hynny hefyd.
Dweud ydw i ei fod yn gwneud synnwyr i greuwyr cynnwys ar-lein, gan gynnwys blogiau, gwefannau newyddion, ayyb, greu cynnwys sy'n ymwneud â diwylliant/iaith/gwleidyddiaeth Cymreig a Chymraeg yn bennaf, oherwydd a) os nad ydyn nhw'n gwneud fydd neb yn gwneud, b) does dim digon o amser ac adnoddau i drafod yr uchod yn ogytsal a bob pwnc arall dan haul, a c) mae pobol yn tueddi i fod eisiau darllen pethau am yr uchod yn Gymraeg ar y we, ond yn troi at y Saesneg i drafod/darllen pynciau eraill (oherwydd bod y darpariaeth yn well a bod modd cynnal trafodaeth â chynulleidfa ehangach, mae'n siwr).
O.N. Yn bersonol dw i'n meddwl ei fod yn beth iach ein bod ni'n creu a thrafod cynnwys sy'n unigryw i'n diwylliant a'n iaith ein hunain. Dw i ddim esiau i'r Gymraeg bod yn gyfrwng arall er mwyn creu a thrafod diwylliant anglo-americanaidd yn unig. Wrth gwrs dyw hynny ddim yn golygu na ddylai pobol drafod materion y tu hwnt i iaith a diwylliant Cymru ar lafar/facebook/twitter ayyb, gan ein bod ni i gyd yn ymddiddori mewn diwylliant y tu hwnt i ffiniau ein hiaith ni i ryw raddau.