E. Morgan Humphreys |
Roedd cyfrannwr selog ar Maes-e ychydig flynyddoedd yn ôl
o’r enw Martin Llywelyn Williams. Roedd yn mynd ar nerfau pawb â’i bregethu
parhaol am yr angen i’r Cymry Cymraeg fod yn ‘frwdfrydig’ ac ‘uchelgeisiol’. Rydw i’n gwybod nad cymeriad dychmygol mo Martin am ei fod wedi fy ffonio
i un tro pan oeddwn i’n olygydd Golwg 360 er mwyn mynegi ei bryder am rywbeth
neu’i gilydd (nad oedden ni’n ddigon ‘brwdfrydig’ ac ‘uchelgeisiol’, mae’n siwr).
Nid neges Martin oedd yn anghywir, o reidrwydd, ond y
modd yr oedd yn dewis mynegi ei hun. Roedd ei gyfraniadau yn rhai pytiog, crwydrol,
a chyson. Cafodd ei wahardd sawl gwaith o’r maes cyn dychwelyd dan ffug enwau eraill.
Ond roedd yn hawdd ei adnabod oherwydd ei arddull unigryw a’i bwyslais cyson ar
fod yn ‘frwdfrydig’ ac yn ‘uchelgeisiol’!
Bore ma fe fues i’n darllen llyfr Edward Morgan Humphreys, Y
Wasg Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 1945. Mae’n llyfr tenau iawn, tua 60 tudalen o hyd. Mae’n debyg iawn i’r gyfres ‘A very short introduction
to...’ yn y modd y mae’n crynhoi hanes y pwnc yn weddol di-ffwdan. Dyna ran
gyntaf y llyfr, ond yn yr ail ran mae’r awdur, sef cyn-olygydd Y Genedl Gymreig a'r Goleuad, yn traethu ei farn ar gryfderau a
gwendidau'r wasg Gymraeg a beth, yn ei dyb ef, y dylid ei wneud am y peth. Beth
oedd yn fy nharo i wrth ddarllen oedd pa mor debyg oedd yr heriau oedd yn
wynebu’r wasg Gymraeg yn y cyfnod hwnnw i’r heriau yr ydym ni yn eu gwynebu
heddiw. Cymerwch, er enghraifft, ei farn ar sefydlu papur newydd dyddiol
Cymraeg:
Yn y fan yma byddai’n eithaf peth inni wynebu’r cwestiwn a ofynnwyd yn aml, sef onid oes modd inni gael papur dyddiol Cymraeg? Y mae hwn yn hen gwestiwn ac yn hen gri ac ar yr wyneb ymddengys y bwriad yn eithaf rhesymol. Eithr y mae’n amheus gennyf a geir newyddiadurwr profiadol yn unman i gytuno bob y peth yn bosib. Yn y lle cyntaf, byddai’r gost yn aruthrol, hyd yn oed â phapur diwetydd pur gyffredin. Byddai’n rhaid wrth staff olygyddol fwy o lawer nag a fuasai’n angenrheidiol ar bapur Saesneg o’r un faint a nodwedd, canys buasai’n rhaid cyfieithu pob teligram a dderbynnid a phob darn newydd a godid o bapurau eraill... Nid yn y cyfeiriad yna y mae dyfodol i’r wasg Gymraeg, ac nid fel yna y mae iddi i wrthweithio cystadleuaeth y papurau Saesneg.
A dyma ei farn am ymwybyddiaeth ei gyd-Gymru am fodolaeth
papurau newydd a chylchgronau Cymraeg:
Heblaw hyn, y mae llawer o Gymry ym mhobman nad ydynt byth yn meddwl edrych ar bapur Cymraeg, naill o ddiffyg arfer, diffyg diddordeb mewn pethau Cymraeg, neu - a gadwer inni wynebu’r gwir, - o syniad nad yw pethau Cymraeg cystal â phethau Saesneg. Ymddengys yn anhygoel, hwyrach, i’r sawl sydd yn arfer prynu a darllen llyfrau a phapurau Cymraeg, ond y mae llu o Gymry yn yr un cyflwr heddiw â’r rhai hynny y soniai Lewis Morris amdanynt dros ddwy ganrif yn ôl, heb glywed erioed bod dysg a gwybodaeth gynt yng Nghymru, na heddiw ychwaith. Rhyfeddant pan ddywedir wrthynt fod llyfrau da yn Gymraeg a bod gŵyr a ddringodd i safleoedd pwysig ar y wasg Saesneg wedi bod yn gwasanaethu’r papurau Cymraeg yn ystod rhai o flynyddoedd gorau eu hoes. Ond ni ddywedir hynny wrth lawer ohonynt, ni chlywant y fath beth o gwbl... Gŵyr pawb a ŵyr rywbeth am fywyd Cymru ei bod yn rhaid arnom gymryd yr agwedd meddwl yma i ystyriaeth, nid ynglŷn â’r wasg yn unig, wrth gwrs, eithr hefyd ym mhob adran o’n bywyd cenedlaethol. Y diffyg hunan-barch cenedlaethol hwn, y diffyg balchder iach yn ein hanes a’n tras ein hunain fel cenedl, sydd wrth wraidd llawer iawn o’n methiannau, a dyma hefyd un o’r pethau y mae’n rhaid eu cymryd i’r cyfrif wrth sôn am gyflwr presennol a rhagolygon dyfodol y wasg yng Nghymru.
Fe allai ei farn ar yr her o ddenu hysbysebion i
gyhoeddiadau Cymraeg fod wedi ei ysgrifennu heddiw ac fe fyddai'r un mor
ddilys:
Gwaith anodd yn y dyddiau hynny oedd argyhoeddi’r bobl a oedd yn rheoli hysbysiadau... fod gan bapur Cymraeg apêl at y bobol sydd yn prynu. Gallai bod papur Saesneg yn yr un swyddfa, gyda hanner, neu hyd yn oed chwarter cylchrediad papur Cymraeg, ond i hwnnw y rhoddid yr hysbysebiadau, ac yn ei gysgod ef yn unig y caffai’r papur Cymraeg hysbysebiadau o gwbwl, ac eithrio’r eiddo’r arwerthwyr lleol a’r siopwyr lleol, a wyddai well pethau.
Yn ddiweddarach mae’n trafod pa mor anodd yw hi i
gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg ddenu newyddiadurwyr o safon, her sy’n
parhau i flino ein golygyddion hyd heddiw:
Denwyd a denir llawer o’n bechgyn gorau i wasanaethau papurau Lloegr, a phwy a wêl fai arnynt pan gofir y gwahaniaeth yn y tâl ac, ar un ystyr, yn y cyfle? Y mae’n rhaid inni sylweddoli na all Cymru obeithio cadw ei phobl orau onid yw’n barod i’w gosod ar yr un tir economaidd â phe buasent yn gweithio yn Lloegr.
Mae bron yn anodd credu bod y llyfr wedi ei ysgrifennu 68
mlynedd yn ôl, yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Mewn rhan arall mae’n trafod y
bygythiad i’r wasg brint o gyfeiriad y radio a’r sinema, yn yr un modd ag y
bydden ni’n trafod her y teledu a’r we heddiw.
Ar un llaw gelir dadlau bod pryderon y newyddiadurwr yma bron
i dri chwarter canrif yn ôl yn dangos bod yna dueddiad i or-ddweud tranc y Wasg
Gymraeg. Mae gennym ni erbyn hyn nifer o gylchgronau a phapur newydd printiedig
Cymraeg, yn ogystal a dau wasanaeth newyddion ar-lein dyddiol, sianel deledu,
radio, ayyb, ayyb. Y tu hwnt i newyddiaduraeth mae llenyddiaeth Gymraeg yn
mwynhau ryw fath o ‘oes aur’ ar hyn o bryd. Dyw pethau ddim o reidrwydd wedi
gwella ond dyw’r wasg Gymraeg ddim wedi ein gadael ni eto.
Ar y llaw arall gellir dadlau mai union agwedd gwyliadwrus
E. Morgan Humphreys a’i debyg sy’n gyfrifol am oroesiad y wasg. Os nad oedden
nhw wedi rhybuddio am y perygl oedd yn ei gwynebu fe allai pethau fod yn llawer
mwy du arnom ni heddiw. Mae angen y ‘doom-mongers’ yma ar bob cenhedlaeth er mwyn
atal y Gymraeg rhag mynd oddi ar y dibyn.
‘Bygythiad y we’
Yn yr ysbryd hwnnw rydw i am ymuno â rhengoedd y ‘doom-mongers’
am funud a rhybuddio am un o ddrwg effeithiau technoleg y we ar y Gymraeg. Dywed
E. Morgan Humphreys mai un o’r pethau pwysicaf er mwyn sicrhau parhad y wasg
Gymraeg yw brwdfrydedd ymysg gweithwyr y cylchgrawn neu’r papur newydd, a hefyd
brwdfrydedd o gyfeiriad y darllenwyr.
Ar y cyfan, credaf y gellir dywedyd na wneir unrhyw waith da mewn llenyddiaeth na newyddiaduraeth dros hir amser oni bydd gwerthfawrogi arno gan rywun. Gall y proffwyd deimlo mai ef yn unig a adwyd, ond torri ei galon a wna yntau yn yr unigrwydd hwnnw yn hwyr neu hwyrach.... Ac mae hyn yn arbennig wir am waith y wasg; i’r newyddiadurwr y mae gwerthfawrogiad a chylchrediad yn gyfystyr, ac yn y ffaith fod pobl yn cydymdeimlo ac yn gwerthfawrogi ac yn teimlo fel ninnau fod dyfodol i Gymru yr oedd ein hysbrydoliaeth yn y dyddiau hynny. Yr oeddem ni a’n darllenwyr yn synio yr un fath. Yr oedd hyn a ddywedid mewn ysgrif arweiniol yn bwysig yn ein barn ni, ac yr oedd felly am ei bod hefyd yn bwysig ym marn ein darllenwyr....Heddiw y mae gwaith y newyddiadurwr Cymraeg yn galetach ac yn llai calonogol.... Yr wyf yn bur sicr fod yr ymateb heddiw yn wannach, fod y diddordeb cenedlaethol yn llai nag oedd, dyweder, yn 1906, fod gennym lai o arweinwyr cenedlaethol amlwg mewn gwahanol gylchoedd ac nad yw ffydd y genedl yn ei dyfodol ei hun cyn gryfed ag yr oedd ddeugain mlynedd yn ôl. Gosodiad cyffredinol ydyw hwn, wrth gwrs; y mae adrannau yng Nghymru heddiw sydd â’u ffydd cyn gryfed ag erioed a’u gwelediad cyn gliried, ond, a siarad yn gyffredinol, y mae’r ymateb oddi wrth werin Cymru’n wannach, a phe bai’r cyfnewid yn myned ymlaen am ddeng mlynedd ar hugain arall ar yr un llinellau a chyda’r un cyflymder, gellid amau a fyddai yma erbyn hynny wasg Gymraeg inni sôn amdani o gwbl. A hoffai unrhyw Gymro, pa mor ddifater bynnag y bo, weled hynny’n digwydd?
Mae hyn yn adlewyrchu pryder sydd gen i yn yr oes
bresennol, sef diffyg brwdfrydedd amlwg ymysg siaradwyr Cymraeg am unrhyw fath
o gynnyrch Cymraeg. Mae hyn yn wir i raddau am newyddiaduraeth, ond am bob
cyfrwng arall hefyd. Rydw i’n credu bod yna rywfaint o fai ar y we yn hynny o
beth. Y we yw’r prif gyfrwng i ni fynegi ein hoffter neu ein diffyg hoffter
tuag at bethau erbyn hyn. Ond anaml iawn y ceir unrhyw sylw ar y we yn ymwneud
â stori newyddion neu raglen ar S4C os nad yw’n cwyno am rywbeth. Y tueddiad,
ar Twitter, neu wrth adael sylw ar stori ar Golwg 360, neu i raddau llai erbyn
hyn ar Maes-e, yw i gwyno am bethau. Rydw i yr un mor euog o hyn a phawb arall.
Y gwirionedd yw fy mod i’n mwynhau y rhan fwyaf o
gynnyrch Cymraeg. Rydw i’n mwynhau blogiau Cymraeg, a nofelau Cymraeg. Rydw i’n
darllen a gwerthfawrogi straeon ar Golwg 360 a gwasanaeth Newyddion ar-lein y
BBC. Rydw i’n mwynhau darllen Barn, Golwg a’r Cymro. Serch hynny, anaml iawn
ydw i’n teimlo’r angen i fynegi fy hoffter o’r pethau hyn ar y we. Ond yr
eiliad rydw i’n gweld rhywbeth sydd ddim wrth fy modd rydw i, a sawl un arall yn ôl beth welaf i,
yn cyhoeddi neges negyddol ar Twitter neu Facebook neu ryw fforwm trafod arall. Pam
felly? Ydyw’n saffach mynegi anfodlonrwydd na bodlonrwydd ar y we, rhag ofn bod
rhywun arall yn gwneud hwyl ar ben ein chwaeth personol ni? A yw’r tueddiad i
ddefnyddio ffug-enwau yn golygu bod pobol yn teimlo rhwydd hynt i fod yn gas? Ydi negeseuon milain a choeglyd yn fwy tebygol o ddifyrru ein dilynwyr, y rhai yr
ydyn ni i gyd ar ryw lefel isymwybodol yn ceisio eu plesio? Ydi’r ffaith nad
ydyn ni’n gallu gweld neu glywed y person yr ydyn ni’n ei feirniadu yn golygu
nad oes gennym ni gymaint o empathi tuag atyn nhw?
Rydw i’n siwr bod yna ryw academydd rhywle yn gweithio ar
yr union gwestiynau yna. Y pryder sydd gen i yw effaith yr holl sylwadau negyddol ar y Gymraeg. Fel y dywed E. Morgan Humphreys, mae brwdfrydedd yn hollbwysig i
ddyfodol y Gymraeg. Os nad yw newyddiadurwyr, nofelwyr, blogwyr, banciau roc a
pop, ayyb, yn teimlo fod unrhyw un yn cael pleser o’u gwaith nhw maen nhw’n
llawer mwy tebygol o roi’r ffidil yn y to. Roedd E. Morgan Humphreys yn lwcus bod y Genedl Gymreig yn bodoli cyn oes y we, ac nad oedd yn derbyn toreth o negeseuon negyddol bob dydd drwy gyfrwng e-bost, Twitter a Facebook. Fel y mae yn ei ddweud:
... mae’n rhaid cael ymdeimlad o gyfrifoldeb a dyletswydd o du’r cyhoedd at y wasg Gymraeg. Y mae’r naill beth yn ateb i’r llall - y gefnogaeth ar y naill law a’r safon ar y llaw arall. Y mae’n rhaid i’r rhai sydd yn cynhyrchu papurau a chylchgronau fedru teimlo bod ateb i’w gwaith ac y mae’n rhaid i’r cyhoedd deimlo bod y sawl sydd yn darparu ar eu cyfer yn credu mewn rhoddi eu gorau yn y gwaith.
Mewn geiriau eraill, mae angen i’r rheini sy’n creu
deunydd Cymraeg fod yn uchelgeisiol, ac mae angen i’r rheini sy’n gwneud
defnydd ohono fod yn frwdfrydig... ac mae'r ddau beth yn clymu i mewn i'w gilydd. Efallai bod yr hen Martin Llywelyn Williams
yn llygad ei le wedi’r cwbl!
Ga'i fod mor hy â chynnig un peth: oni fyddai newyddiaduraeth efo chydig mwy o bôls yn ennyn chydig mwy o ymateb? Ac alla i fynd ymhellach a holi a fyddai'r math yna o newyddiaduraeth olygyddol gyhyrog yn denu'r genhedlaeth nesa o newyddiadurwyr?
ReplyDeleteDwi hefyd yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yna i'w ecsploetio yn hytrach na'u defnyddio fel chwydfa straeon yn unig. A fyddai'n well polisi cael llai o erthyglau, a cheisio siarad efo pobol am straeon yn hytrach na dim ond anfon dolenni sych allan? Fentrai y caen nhw fwy o ymateb, a hynny'n llai negyddol wedyn.
Os nad wyt ti'n meddwl bod person ar yr ochr draw, yna mae'r ymateb i stori am fod gymaint yn llai empathetig. Ydi pobol yn bod yn gas i Rory Cellan Jones am ei straeon yn aml? Ella, ond ddim hanner cymaint a ma nhw'n siarad yn boleit efo fo.
Diolch am y sylw, Nwdls! Gei di fod mor hy ag wyt ti eisiau!
ReplyDeleteDw i ddim cweit yn siwr beth wyt ti’n ei olygu drwy ‘newyddiaduraeth efo chydig mwy o bôls’ ond dw i’n cymryd y hoffet ti weld rhagor o newyddiaduraeth ymchwiliadol. Dw i’n meddwl mai’r prif broblem efo newyddiaduraeth Cymraeg ydi diffyg amser ag adnoddau. Mae gen ti ddau aelod o staff yn creu deunydd ar wefan newyddion y BBC, tri ar Golwg 360, pedwar ar Golwg, a dau ar y Cymro. Dw i ddim yn gwybod sut mae pethau ar y papurau eraill, ond pan oeddwn i’n gweithio i gylchgrawn Golwg roedd disgwyl i bob newyddiadurwr gynhyrchu tua 2-3 stori ymchwiliadol y dydd ar gyfartaledd er mwyn gallu llenwi’r cylchgrawn, yn Golwg 360 tua 10 stori y dydd. Mae hynny yn cyfyngu lot ar beth wyt ti’n gallu ei wneud o ran straeon ymchwiliadol, achos mae’n rhaid gweithio yn gyflym iawn.
Rhaid cofio bod y papurau newydd mawr ymchwiliadol, e.e. New York Times a’r Guardian, yn cyflogi cannoedd o newyddiadurwyr sy’n gweithio am dyddiau, wythnosau neu fisoedd yn dilyn yr un straeon. Mae hyd yn oed y Western Mail yn cyflogi dros gant, ac yn cwyno’n gyson nad yw’n ddigon. Roedd y newyddiadurwr ar y stori Watergate wedi bod yn gweithio ar y stori am flwyddyn a mwy. Dyw papurau a chylchgronnau bach Cymraeg ddim yn gallu cystadlu â hynny. Mae ‘newyddiaduraeth efo chydig mwy o bôls’ yn costio lot o arian yn anffodus!
O ran ffyrdd mwy creadigol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fe fyddwn i’n hoffi clywed pa syniadau sydd gen ti. Roeddwn i’n defnyddio Twitterfeed i gyhoeddi dolenni Golwg 360 i Twitter am nad oedd gen i ddigon o amser i wneud hynny fy hun. Rhwng popeth mae amser i logio ymlaen a trafod straeon efo pobol yn brin iawn. Mae’r holl wybodaeth yn y stori, a mae’r ‘dolenni sych’ yn ddigon i gael pobol i mewn i’w darllen nhw.
Cofnod gwych, rhyw fath o The Long View Cymraeg (syniad i rhywun fa'na.) Postiais rhywbeth tebyg am hanes cyhoeddi yn y Gymraeg.
ReplyDeleteRhaid cofio bod y papurau newydd mawr ymchwiliadol, e.e. New York Times a’r Guardian, yn cyflogi cannoedd o newyddiadurwyr sy’n gweithio am dyddiau, wythnosau neu fisoedd yn dilyn yr un straeon
Ie, mae popeth yn costio - sylwais yn diweddar ar ddull mae gwefan newyddion cymunedol Port Talbot Magnet yn gadael i'r darllenwyr/cyfranogwyr fod yn rhan o'r broses o benderfynu ar y math o beth hoffir ei weld yn cael adrodd amdano, drwy ariannu mathau penodol o gynnwys. Dwi'n deall mai rhywbeth mwy lleol ydy hyn, nd mae'r syniad yn un y gellid ei efelychu.
Safbwynt golygyddol gryf o'n i'n meddwl, darnau barn gan y golygydd a newyddiadurwyr, sydd yn arwain meddyliau gwlad, yn hytrach na rhagor o newyddiaduraeth ymchwiliadol. Does dim barn i'w weld ar G360 heblaw yn y sylwadau. Ma hynny'n drist. Mae gan G360 le i fod yn gosod agenda trafodaeth mewn ffordd fwy cyhyrog dwi'n teimlo. Mae cylchgrawn Golwg yn gwneud ond ma'n biti bod hynny'n gyfyngedig i'r cylchgrawn.
ReplyDeleteO ran Twitter, o'n i jest yn trio rhoi rhyw fath o ateb i pam falle bod pobol yn bod yn negyddol, a sut i liniaru hynny. Dwi'n dallt ond yn rhy dda faint o amser dynol basa newid y model o ddosbarthu i fodel o drafod a churadu. Mae gan bapurau mawr y staff i'w wneud, ond os isio symud ffwrdd o sylwadau negyddol, rhaid wynebiu bod cyfryngau cymdeithasol yn gosod heriau gwahanol a rhaid addasu adnoddau i wynebu hynny rhyw ffordd.
symud o'r cyborg i'r person fel mae'r erthygl yma'n ei alw wrth drafod cyfrif Twitter yr NY Times: http://www.poynter.org/latest-news/media-lab/social-media/133431/new-york-times-tries-human-powered-tweeting-to-see-if-users-value-the-interaction/
Mae’r ratio barn/newyddiaduraeth yn rywbeth yr ydw i wedi meddwl llawer amdano, Rhodri. A dweud y gwir mae gen i flogiad ‘on the go’ ar y pwnc ar hyn o bryd!
ReplyDeleteO ran Golwg 360, dw i ddim yn meddwl ei fod cweit yn deg dweud nad oedd darnau barn gan y golygydd a’r newyddiadurwyr arno. Fe gyfranais i 118 ddarn barn yn ystod dwy flynedd a hanner, roedd gan y golygydd gyfarwyddwr Dylan Iorwerth 64 yn ystod yr un cyfnod, a mae yna ddegau o rai eraill rhwng y newyddiadurwyr eraill. Fe hoffwn i fod wedi cyfrannu mwy, ond oherwydd y pwysau gwaith o ran yr ochor newyddiadurol roedd ysgrifennu’r blogiau yma yn jobyn amser sbar gan amlaf!
Fy mreuddwyd i oedd creu ryw fath o adran ‘Barn’ ar y wefan a gallu talu nifer o gyfranwyr mewn sawl maes gwahanol i gyfrannu ato. Ar ben hynny roeddwn i wedi gobeithio efallai y gellid bod wedi dod i gyrtundeb efo cylchgronau eraill Cymraeg nad oedd efo presenoldeb cryf ar y we i gyhoeddi rhywfaint o’u deunydd ar yr adran yma a trwy wneud hynny ennill rhwyfaint o sylw i’w hunain. Byddai’r adran Barn yma hefyd yn cynnwys blogrolls / ffrwd twitter ayyb.
Fe wnes i rywfaint o gynnydd tuag at wneud hyn - creuais i flog yn wordpress ar gyfer y safle, Blog Golwg 360, gan nad oedd adran ‘barn’ na gadael sylwadau pwrpasol yn rhan o’r wefan wreiddiol. A pan creuwyd y wefan newydd cafodd y blog ei lyncu gan y wefan ehangach. Ond oherwydd cyfyngiadau ariannol / amser ni ddaeth dim o’r syniadau eraill.
Rydw i’n parhau i obeithio creu y wefan ‘Barn’ yma! Ond fe wna i son mwy am hynny ar y blog yn y dyfodol.
Diolch am yr erthygl am y NYT. Diddorol iawn ac rywbeth i feddwl amdano...