Cenedlaetholdeb - ideoleg afresymegol?

Mae cenedlaetholdeb yn bwnc amserol o ystyried bod y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig - gan gynnwys Cymru - yn boddi dan fôr o fflagiau jac yr undeb y penwythnos yma. Rhwng Jiwbilî’r Frenhines, y Gemau Olympaidd, ac Ewro 2012, mae cenedlaetholdeb yn mynd i fod yn thema gyson drwy gydol yr haf. Cenedlaetholdeb Prydeinig a Seisnig, hynny yw. Bydd y Ddraig Goch yn cuddio yn ei hogof danddaearol yn Ninas Emrys nes yr Hydref, gan wthio’i phig uwchben yr wyneb adeg yr Eisteddfod.

Rydw i wedi bod yn meddwl cryn dipyn am genedlaetholdeb yn ddiweddar.

Cefais fy magu mewn cartref Cristnogol, cenedlaetholgar, Cymraeg. Ac er fy mod i bellach yn agnostic/anffyddiwr, rydw i’n parhau i fyw fy mywyd yn ôl moesoldeb y Beibl 99% o’r amser, rydw i’n parhau i siarad a chefnogi’r Gymraeg, ac rydw i’n parhau yn genedlaetholwr. Mae’n deg dweud, felly, bod fy nghefndir wedi dylanwadu eithaf tipyn arnaf i. Fel pawb arall.

Yn ddiweddar rydw i wedi dechrau cwestiynu rhai o’r rhagdybiaethau sydd gen i, y rhagdybiaethau rheini sydd yn fy ngwneud i yn fi. Pam mod i’n siarad a chefnogi’r Gymraeg? Pam mod i’n genedlaetholwr? Oes yna reswm da dros fod yn yr un o’r pethau rheini heblaw am y ffaith fy mod i wedi fy magu i gefnogi’r Gymraeg a chefnogi’r syniad y dylai Cymru fod yn genedl?

Rydw i, fel Dylan ar ei flog Anffyddiaeth yn galw ar Gristnogion i fod yn hollol resymegol wrth ystyried eu crefydd nhw. Mae cyfrifoldeb arna’i felly i ail-ystyried fy nghenedlaetholdeb a fy newisiadau ieithyddol yn yr un modd.

Rydw i wedi darllen nifer o lyfrau am genedlaetholdeb dros yr wythnosau diwethaf. Y rhai sydd wedi gwneud y mwyaf o ddylanwad arna’i yw llyfr Benedict Anderson, Imagined Communities, a llyfr Michael Billig, Banal Nationalism.

Cenedlaetholdeb cyffredin

Mae llyfr Michael Billig, Banal Nationalism, yn ddiddorol iawn yng nghyd-destun dathliadau’r dyddiau diwethaf. Ei ddamcaniaeth o yw bod gwledydd sefydledig yr un mor genedlaetholgar â’r ‘cenedlaetholwyr’ sy’n gobeithio creu eu cenhedloedd sefydledig eu hunain. Mae cenedlaetholdeb yn tueddu i gael ei gysylltu â grwpiau eithafol sy’n ceisio torri’n rhydd o reolaeth gwladwriaeth sydd eisoes yn bodoli, ond mewn gwirionedd mae’n rhan o bob cenedl dan haul. Ys dywed Michael Billig:

... There is something misleading about this accepted use of the word ‘nationalism’. It always seems to locate nationalism on the periphery... those in established nations – at the centre of things – are led to see nationalism as the property of others, not of ‘us’.

Mewn gwirionedd, meddai, mae cenedlaetholdeb yn rhan hollbresennol o bob gwlad yn y byd. Mae’r wladwriaeth yn atgoffa pobol y wlad yn ddyddiol eu bod nhw’n rhan o gymuned o fewn ffiniau penodol, e.e. drwy ddefnydd fflagiau ar adeiladau, delweddau cenedlaethol ar arian; drwy grybwyll ‘y Prif Weinidog’, ‘y tîm cenedlaethol’, ‘y Frenhines’, ayyb. Mae hyn i gyd yn amlwg iawn i ni ar hyn o bryd wrth baratoi ar gyfer Jiwbilî’r Frenhines. Ond sgwn i faint o'r cenedlaetholwyr Prydeinig fydd yn disgrifio eu hunain fel cenedlaetholwyr? Ys dywed Michael Billig:

Daily, the nation is indicated, or ‘flagged’, in the lives of citizenry. Nationalism, far from being an intermittent mood in established nations, is an endemic condition.

Mae’n amlwg bod yr rheini sy’n ystyried eu hunain yn rhan o’r ‘gymuned ddychmygol’ sy’n galw eu hunain yn Brydeiniwyr yn teimlo fod cefnogi’r Frenhines yn fodd o deimlo’n rhan o gymuned o genedlaetholwyr eraill. Drwy gymryd rhan mewn parti stryd yn ystod Jiwbili'r Diemwnt, fe fyddwn nhw'n teimlo eu bod nhw'n rhan o gymuned sy'n rhywbeth parhaol a hynafol. Fe fydd hefyd yn fodd iddyn nhw deimlo fod Prydain yn rym pwerus yn y byd – wedi’r cwbwl, mae’r Frenhines yn bennaeth ar sawl gwlad, a hi yw un o’r cysylltiadau olaf â’r ymderodaeth Brydeinig y mae nhw’n ymfalchïo cymaint ynddo.

Does dim angen y Teulu Brenhinol arnom ni sy’n ystyried ein hunain yn rhan o ‘gymuned ddychmygol’ y Cymry. Mae gennym ni ein Cymreictod a’n hiaith i’n huno ni. Ond rydyn ni’n casáu’r Jiwbili am ei fod yn erydu ein ‘cymuned ddychmygol’ ni. Y mwyaf o fflagiau Jac yr Undeb yr ydyn ni’n eu gweld ar hyd y lle y mwyaf yr ydyn ni’n teimlo bod y gymuned o Gymry yr ydyn ni’n ystyried ein hunain yn rhan ohono wedi crebachu.

Cymunedau dychmygol

Serch hynny, y consensws cyffredinol yw mai rhywbeth gwneud yw cenedlaetholdeb. Rhywbeth dychmygol yw’r genedl - ni fydd y rhan fwyaf o aelodau’r genedl byth yn cwrdd â’i gilydd, na hyd yn oed yn gwybod am fodolaeth ei gilydd. Serch hynny fe fyddwn nhw’n teimlo yn rhan o ‘gymuned ddychmygol’, cyfyngedig, sy’n bodoli o fewn ffiniau eu gwlad nhw yn unig. Fe fydd dyn ar arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau a dyn ar yr arfordir gorllewinol y wlad yn teimlo’n rhan o’r un ‘cymuned ddychmygol’, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw beth yn gyffredin, a hyd yn oed os ydi un yn agosach i Fecsico a’r llall yn agosach i Ganada. Mae yna deimlad o fod yn rhan o gymuned, a oedd yn bodoli yn y gorffennol ac a fydd yn bodoli yn y dyfodol, sy’n cydweithio er mwyn gwellhad y genedl y maen nhw’n rhan ohono. Ys dywed Benedict Anderson:

An American will never meet, or even know the names of more than a handful of his 240,000,000-odd fellow Americans. He has no idea of what they are up to at any one time. But he has complete confidence in their steady, anonymous, simultanious activity.

Syniad newydd, o fewn y ddau gant a hanner mlynedd ddiwethaf, yw’r genedl, meddai Anderson a Billig. Yn y canol oesoedd roedd grwpiau cymdeithasol yn hierarchaidd yn hytrach na llorweddol. Hynny yw, yn hytrach na gwlad â ffiniau penodol, roedd aelodau o’r werin oedd yn atebol i arglwydd, oedd yn atebol i frenin, oedd yn atebol i’r Pab, oedd yn atebol i Dduw (er enghraifft). Doedd yna ddim y fath beth a ffiniau penodol, ac roedd ‘ffiniau’ tiriogaeth arglwyddi a brenhinoedd yn gorgyffwrdd ac yn llawer mwy aneglur. Roedd pobol Ewrop yn rhan o un ‘gymuned ddychmygol’ sanctaidd, Lladin ei hiaith, a oedd yn ymestyn ledled y cyfandir. Nid nes y 18fed ganrif oedd gan bobol wir ymdeimlad o fod yn rhan o genedl ar wahân i’r gweddill. Serch hynny, mae’r cenhedloedd sy’n bodoli heddiw yn tueddu i ddychmygu eu bod nhw wedi bodoli erioed.

Beth ddigwyddodd? Yr argraffwasg, yn ôl Benedict Anderson, neu ‘print-capitalism’ fel y mae yn ei alw. Unwaith yr oedd y farchnad mewn llyfrau Lladin wedi ei drwytho dechreuwyd cyhoeddi llyfrau yn yr ieithoedd brodorol (gan gofio mai lleiafrif oedd yn llythrennog mewn Lladin). Arweiniodd hynny at ddirywiad ‘cymuned ddychmygol’ gwledydd Cristnogol Ewrop.

Yn ogystal â chenhedloedd, mae Anderson a Billig yn dadlau bod y syniad o ieithoedd hefyd yn greadigaeth ddiweddar. Yn y canol oesoedd, y rheol gyffredinol oedd mai’r pellach yr oeddech chi’n crwydro oddi wrth eich pentref y lleiaf o eiriau yr oeddech chi’n gallu eu deall. Doedd yna ddim ‘ieithoedd’ yn y cyfnod yma, dim ond nifer diddiwedd o dafodieithoedd oedd yn asio i mewn i’w gilydd. Dim ond ar ôl dyfodiad yr argraffwasg y dechreuwyd rhoi trefn ar yr ieithoedd yma. Cafodd rhai eu dyrchafu yn ieithoedd ac eraill eu diffinio fel tafodieithoedd. Yn achos y Gymraeg, penderfynwyd mai iaith y gogledd oedd yr iaith safonol ac mai dim ond tafodiaith oedd iaith y de. Benedict Anderson eto:

In pre-print Europe, and of course, elsewhere in the world, the diversity of spoken languages, those languages that for their speakers were (and are) the warp and woof of their lives, was immense; so immense, indeed, that had print-capitalism sought to exploit each potential oral vernacular market, it would have remained a capitalism of petty proportions. But these varied idiolects were capable of being assambled, within definite limits, into print languages far fewer in number... Nothing served to ‘assemble’ related vernaculars more than capitalism, which, whithin the limits imposed by grammars and syntaxes, created mechanically reproduced prin-languages capable of dissemenation through the market.

Unwaith yr oedd siaradwyr yr amrywiaeth mawr o ieithoedd ‘Ffrengig’, ‘Saesnig’, a ‘Chymraeg’, ymysg eraill, yn gallu deall ei gilydd, fe sylweddolon nhw eu bod nhw’n rhan o gymuned ehangach o gannoedd o filoedd, neu hyd yn oed filiynau, o bobol. Unwaith y cafodd ieithoedd eu sefydlogi gan yr argraffwasg datblygodd ymdeimlad bod yr ieithoedd yma wedi bodoli ers cyn cof. Ac ar ôl sefydlu cenhedloedd roedd rhai penderfynu pa iaith fyddai yn cael ei siarad ym mhob un. Dywed Billig bod y genedl y mae tafodiaith yn cael ei siarad ynddo yn penderfynu i raddau helaeth pa iaith y mae’n rhan ohono. Er enghraifft, mae yna dafodieithoedd ar y ffin rhwng Ffrainc a’r Eidal sy’n debyg iawn i’w gilydd. Ond mae’r tafodieithoedd ar ochor Ffrainc yn cael eu hystyried yn dafodieithoedd o’r Ffrangeg, a’r tafodieithoedd ar ochor yr Eidal yn cael eu hystyried yn dafodieithoedd o'r Eidaleg. Pe bai ffiniau gwledydd wedi datblygu'n wahanol, fe fyddai'r ieithoedd sy'n bodoli heddiw hefyd yn wahanol.

The concept of ‘a language’ – at least in the sense which appers so banally obvious to ‘us’ – may itself be an invented permanency, developed during the age of the nation-state. If this is the case, then language does not create nationalism, so much as nationalism creates language; or rather nationalism creates ‘our’ common-sense, unquestioned view that there are, ‘naturally’ and unproblematically, things called different ‘languages’, which we speak.

Owain Glyn Dŵr - cenedlaetholwr?
Ac felly...

Rydw i’n symleiddio yn ofnadwy fan hyn. Dylai unrhyw un sydd eisiau’r darlun llawn ddarllen y llyfrau dan sylw. Ond y casgliad amlwg ar ôl darllen gwaith nifer o’r academyddion sydd wedi ysgrifennu am genedlaetholdeb yw nad oes yna wir unrhyw sail resymegol i’n cefnogaeth tuag at unrhyw wlad neu iaith benodol. Dyfeisiau diweddar yw iaith a chenhedloedd. Nid yw Cymru na’r Gymraeg yn ymestyn yn ôl hyd at ddyfodiad Brutus, Macsen Wledig na neb arall. Petai casgliad gwahanol o dafodieithoedd wedi eu tynnu ynghyd gan y dyneiddwyr cynnar efallai y bydden ni’n teimlo yn rhan o ‘gymuned ddychmygol’ hollol wahanol.

Ond eto hyd yn oed o dderbyn y damcaniaethau uchod, dydw i ddim eto’n barod i wfftio cenedlaetholdeb. Wedi’r cwbl, mae teimlad o arwahanrwydd o weddill Prydain wedi bodoli yng Nghymru ers dyfodiad y Sacsoniaid. Hyd yn oed pan oedd yn gasgliad o dafodieithoedd hoj-poj, roedd y ‘Gymraeg’ yn gasgliad o dafodieithoedd hoj-poj gwahanol iawn i’r rheini a oedd yn cael eu siarad yn nwyrain a chanolbarth Lloegr.

Ar ben hynny, pa bynnag rymoedd hanesyddol sydd wedi creu’r iaith Gymraeg, mae yna bellach lenyddiaeth gyfoethog a chymunedau iaith Gymraeg yn bodoli heddiw, sydd angen eu diogelu. Mae ychydig bach fel Gorsedd y Beirdd. Mae’r rheini sydd eisiau lladd ar ddiwylliant Cymraeg wrth eu bodd yn difrïo’r Orsedd, gan ddweud ei fod wedi ei ddyfeisio yn yr 18fed ganrif. Ond mae’n draddodiad erbyn hyn, traddodiad â hanes cyfoethog iddo, a dyna’r oll sy’n cyfri. Mae’r un peth yn wir am y Gymraeg, a’r Saesneg, a phob iaith arall.

Efallai mai dyfeisiad diweddar yw’r syniad o genedl hefyd. Fyddaf i byth yn cwrdd â mwyafrif aelodau’r ‘cymuned ddychmygol’ sy’n galw eu hunain yn Gymry. Ond hyd yn oed os ydw i’n bod yn hollol afresymegol, rydw i’n mwynhau perthyn i’r gymuned ddychmygol hon. Rydw i’n mwynhau'r broses o greu cenedl o glytwaith o hanes a chwedlau.

Ond beth os yw cenedlaetholdeb yn beth drwg, yn y bôn? Wedi’r cwbl, mae cenhedloedd yn mynd i ryfel yn aml. Mae pobol yn barod i farw dros y ‘gymuned ddychmygol’ y maen nhw’n rhan ohono. A hynny am resymau hollol afresymegol. Os nad oes sail resymegol i genedlaetholdeb, oni ddylwn i wrthwynebu cenedlaetholdeb yn yr un modd ag yr ydw i’n gwrthwynebu crefydd, oherwydd ei effeithiau niweidiol?

Ydw i’n bod yn rhagrithiol yn beirniadu crefydd, wrth arddel cenedlaetholdeb? Wedi’r cwbl, rydw i’n siŵr bod pobol grefyddol yn mwynhau bod yn grefyddol llawn cymaint ag yr ydw i’n mwynhau bod yn genedlaetholwr. A dyna unig sail fy nghenedlaetholdeb i, yn y bôn.
Efallai. Awgrymiadau isod os gwelwch yn dda.

Comments

  1. Maeobl yn 'hardwirwed' i fod eisiau uniaethu efo rhyw grwp neu'i gilydd - rydan ni i gyd yn llwythol yn y bon. Mae yna ddewis gan rai gyda pha grwp i uniaethu - mae yna hunaniaethu sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yng Nghymru.

    Mae'r hunaniaeth Brydeinig yn cynnwys tueddiadau distrywgar - adeiladwyd ymerodraeth enfawr ar ei chorn, ac mae'r wladwriaeth Brydeinig yn parhau o dan yr argraff mai ei busnes hi ydi ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd.

    Mae ein hunaniaeth ni yn un mwy di niwed o lawer - a dyna un rheswm pwysig pam mae'n well na'r un mae'n cystadlu yn ei herbyn.

    ReplyDelete
  2. Gan mai rhesymeg a thystiolaeth yw'r mantra rwy'n ei hyrwyddo hyd syrffed ar fy mlog, rwy'n cytuno bod angen i ni genedlaetholwyr gwestiynu a chraffu ar ein rhagdybiaethau. Rwy'n gwneud hyn drwy'r amser, ac fel hyn rwy'n edrych ar y peth:

    Mae pawb yn genedlaetholwyr, oni bai eu bod eisiau cael gwared ar y syniad o genedl-wladwriaeth yn gyfan gwbl a chyflwyno un llywodraeth fyd-eang.

    Mae unoliaethwyr yn genedlaetholwyr Prydeinig am eu bod yn credu mai gwladwriaeth Brydeinig yw'r drefn orau. Fel cenedlaetholwr Cymreig rwy'n anghytuno a'n credu y byddai Cymru'n gwneud yn well fel cenedl-wladwriaeth ynddi'i hun. Neu o leiaf, o ystyried pa mor ddigalon o dlawd yw Cymru o hyd wedi 8 canrif o fod yn ran o ymerodraeth Lloegr, mae'n werth rhoi cynnig ar annibynniaeth o leiaf. Mae angen trio rhywbeth newydd a ffresh.

    ReplyDelete
  3. Rwyt ti Cai yn dweud bod pobol yn 'hardwired' i deimlo eu bod nhw'n rhan o lwyth penodol, ac mae Dylan yn dweud bod pawb yn genedlaetholwyr. Ond dw i'n credu mai pwynt Anderson a Billig yw mai ffenomen weddol ddiweddar yw hon. Os mai dim ond 250 mlynedd sydd ers dechrau cenhedloedd, sut oedd pobol yn gallu bod yn genedlaetholwyr cyn y cyfnod hwnnw? Efallai bod pobol yn llwythol ond roedd eu syniadau o pwy oedd yn rhan o’u llwyth yn seiliedig ar bethau fel iaith cyffredin, e.e. Lladin, Arabeg, Tsieinëeg, a hefyd crefydd.
    Dw i'n meddwl bod sylwadau B. Anderson am y perthynas rhwng crefydd a cenedlaetholdeb o dddiddordeb i ti, Dylan.
    “... in Western Europe the eighteenth century marks not only the dawn of the age of nationalism but the dusk of religious modes of thought.... What then was required was a secular transformation of fatality into continuity, contingency into meaning. As we shall see, few things were (are) better suited to this end than an idea of a nation.” (Tud. 11)
    Mae’n amlwg yn amhosib i un person ddymchwel y system o genhedloedd sydd gennym ni yn y byd ar hyn o bryd. Ond mae’n berffaith bosib i unigolyn wfftio’r syniad o genedlaetholdeb am ei fod yn afresymegol.

    ReplyDelete
  4. Ydych chi wedi darllen Montserrat Guibernau?

    ReplyDelete
  5. Blog difyr iawn Ifan, ceisio ateb rhywfaint o'r cwestiynau yma oedd diben fy nhraethawd PhD i yn y bôn. Ond wrth gwrs does dim un ateb gan fod cenedlaetholdeb yn ideoleg "niwtral" yn yr ystyr y gall gael ei gymathu a pob math o ideolegau eraill, ceidwadaeth mewn rhai cyd-destynau, sosialaeth mewn mannau eraill, islam mewn rhai cyfandiroedd, cristnogaeth wladwriaethol yn Lloegr a Christnogaeth ymneulltuol yng Nghymru. Roeddwn i'n cael llyfr Benedict Anderson yn ddefnyddiol iawn wrth drio asesu Cymru ac R. Tudur Jones, dwi'n trafod Anderson ym mhenod gyntaf fy nhraethawd ac yn mynd nol ato yn y benod olaf a cheisio dal Tudur Jones fyny yn erbyn profion a theoriau Anderson. Dwi'n meddwl fod fy nhraethawd yn llwyddo i ryw raddau i ddatgloi y math o genedlaetholdeb-gristnogol y cest ti a mi fy magu ynddo a ches i fudd mawr o fynd dan groen y peth yn hytrach na derbyn y cyfan yn ddi-gwestiwn fel ag yr oeddwn wedi gwneud tan rhyw bum i saith mlynedd yn ôl.

    Mae PDF o'r traethawd ar fy ngwefan.

    ReplyDelete
  6. Yn olaf, dylet ddarllen Anthony D. Smith ochr yn ochr ac Anderson. Mae Anthony D. Smith yn derbyn fel Anderson mae phenomenon fodern yw cenedlaetholdeb fel rydyn ni'n ei adnabod heddiw ond mae'n cynnig dadansoddiad mwy cynil (ac hefyd cywirach yn fy marn i) sy'n mynnu fod modd gweld olion ideoleg cyn i'r ideoleg hwnnw ddiffinio ei hun. Dwi'n trafod hyn yn fy mhenod gyntaf hefyd, defnyddiwyd y term cenedlaetholdeb ddim tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae'n gwbwl amlwg i haneswyr fod cysgod y peth wedi bodoli mewn gwareiddiad ers canrifoedd lawer, mae'n glir yng nghyfnod y Beibl er enghriafft (hyd yn oed os nad ydych chi'n credu Y Beibl, mae haneswyr anffyddiol yn derbyn y dadansoddiad hwnnw o'r cyfnod mae'r Hen Destament yn ei drafod).

    ReplyDelete
  7. Mae cenhedlaetholdeb yn rhywbeth diweddar, ond dydi llwytholdeb ddim. Ffurf newydd ar hen reddf ydi cenedlaetholdeb.

    ReplyDelete
  8. Ie, trafod llwytholdeb mae Anthony D. Smith, neu fel mae o yn ei alw o "ethnie" ac "ethnies", ond eto dydio byth yn rhoi "ism" ar ei ôl, mae'n debyg fod arwyddocâd i hynny.

    ReplyDelete
  9. *atgoffa fy hun i ddarllen PhD Rhys Llwyd*

    "Dwi'n trafod hyn yn fy mhenod gyntaf hefyd, defnyddiwyd y term cenedlaetholdeb ddim tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae'n gwbwl amlwg i haneswyr fod cysgod y peth wedi bodoli mewn gwareiddiad ers canrifoedd lawer, mae'n glir yng nghyfnod y Beibl er enghriafft"

    Roeddwn i'n meddwl hynny hefyd wrth ddarllen gwaith B Anderson. Mae cenedlaetholdeb yn gwbwl amlwg yn y Beibl, e.e. Israel. Yn ogystal a hynny fe fyddwn i'n tybio bod dechrau cenedlaetholdeb, yng nghyd destun Cymru a Lloegr, i'w weld yn y Deddf Uno. Ys dywed Billig:

    "One of the essential characteristicis of modernity was vital and state-making: the intolerance of difference"

    Hynny yn ddigon amlwg yn y Deddf Uno!

    ReplyDelete
  10. "Mae cenhedlaetholdeb yn rhywbeth diweddar, ond dydi llwytholdeb ddim. Ffurf newydd ar hen reddf ydi cenedlaetholdeb."

    Yn sicr, ond roedd llwytholdeb y gorffennol yn seiliedig ar bethau gwahanol iawn i'r genedl. I.e. Iaith, crefydd ac ethnigrwydd. Modd dadlau bod gan yr ymdeimlad modern o fod yn Gymry wreiddiau ym mhob un o'r rheini.

    ReplyDelete
  11. Ond iaith, crefydd ac ethnigrwydd oedd cenedlaetholdeb r tudur jones felly efallai mae mwy addas i'm traethawd dylai fod "Llwytholdeb R. Tudur Jones"!

    Llyfr pwysig arall gan Anthony D. Smith yw 'Chosen Peoples: Sacred Sources of National Identity', yn hwnnw mae'n edrych yn benodol ar syniadaeth genedlaetholgar mewn gwledydd, fel Cymru, lle mae'r diwylliant Judeo-Gristnogol wedi bod yn ddominyddol. Syniadau Israel am y genedl yn sicr wedi dylanwadu ar syniadau'r Cymru am ethnigrwydd a cenedl oherwydd dylanwad y ffydd Gristnogol yma er y 6ed (ish) ganrif.

    Put down mwyaf fy viva i oedd yr arholwr yn dweud wrtha i fod Anthony D Smith yn Iddew! Er astudio ei waith ers blynyddoedd wyddwn i ddim hynny ac o wybod syrthiodd sawl dar o jigso i'w le a hynny yn y viva ei hun! Nid digwydd gwbod oedd fy arholwr ond yn hytrach roedd wedi bod yn Rhydychen yn gyd-fyfyriwr i Anthony DSmith ac ers hynny yn ffrindiau agos!

    ReplyDelete
  12. Ers talwm roeddym yn uniaethu efo grwpiau cymharol fach - doedd yna ddim llawer o bobl ac roeddynt wedi eu lleoli yn gymharol bell oddi wrth eu gilydd.

    Erbyn heddiw mae yna lawer mwy o bobl, maent yn weddol sefydlog o ran lleoliad, a gellir cyfathrebu'n effeithiol tros le ac amser i raddau.

    Rydym yn tueddu i uniaethu efo marcars - iaith, symbolau etc - , arferion diwylliannol mewn geiriau eraill. Yn y Byd cyfoes rydym yn uniaethu efo grwpiau llawer mwy a gwasgaredig oherwydd bod ein gallu i gysylltu yn well a'n bod yn ymwybodol o debygrwydd rhyngom ni yn eraill yn wyneb ein gwybodaeth am grwpiau cwbl wahanol.

    Hen reddf mewn gwisg newydd.

    ReplyDelete
  13. Y gwir amdani efallai yw bod gwreiddiau cenedlaetholdeb Cymru mewn iaith, crefydd/diwylliant ac ethnigrwydd, ond nad ydyn nhw bellach yn berthnasol i'r rhan fwyaf o bobol y wlad. Dim ond un ym mhob pump sy'n siarad yr iaith, ychydig iawn sy'n grefyddol erbyn hyn, mae diwylliany y rhan fwyaf o Gymry yn un Anglo/Americanaidd, a does dim pwynt ceisio dadlau bod y Cymry yn hil ar wahan! Y rheswm mae cenedl modern Cymru yn bodoli yw oherwydd fod ganddi iaith, crefydd ac ethnigrwydd unigryw yn y canol oesoedd, erbyn hyn y cyfan sy'n weddill i'r mwyafrif o drigolion y wlad yw'r teimlad bod ein cenedlaetholdeb ni yn 'well' na chenedlaetholdeb Prydeinig.

    I'r Cymru Cymraeg wrth gwrs mae'r iaith/diwylliant (ac i raddau llai crefydd) yn parhau'n weddol gryf felly mae yna fwy o sail i'n cenedlaetholdeb.

    Dim ond meddwl yn uchel ydw i fod hyn gyda llaw, nid dadlau o blaid ryw safbwynt penodol!

    ReplyDelete
  14. Cynigiodd Vaughan Roderick peth amser yn ôl taw chwaraeon, ac yn benodol y penderfyniad i arddel Cenhedloedd unigol Prydain yn hytrach na Phrydain Fawr wrth greu byrddau rheoli ar gyfer pêl droed a rygbi. Hebddynt, yn ôl damcaniaeth VR, byddai "Cymru" yn ddim ond casgliad (gwan iawn o bosib)o bobl oedd digwydd siarad Cymraeg.

    Mae gor-symleiddio yma - hwyrach mod i'n fwy cyfrifol na Vaughan Roderick am hynny! - ond o ystyried lluniaeth y BBC, neu'r Western Mail beth, ar wahan i'r chwaraeon "cenedlaethol", yw'r gwahaniaeth rhwng eu cynnwys nhw a chynnwys unrhyw "ranbarth" arall o Brydain / Lloegr?

    ReplyDelete
  15. Blog arbennig iawn, diolch!

    ReplyDelete

Post a Comment