Fi'n amddiffyn BBC Cymru drwy gyfrwng sawl dull gwahanol o baffio |
Mae Cai wedi cyhoeddi blogiad yn ymosod ar BBC Cymru am beidio ag adlewyrchu barn y rheini sy’n gwrthwynebu'r Gemau Olympaidd wrth adrodd hanes taith y ffagl Olympaidd drwy Gymru. Rwy’n cytuno i ryw raddau - fe ddylai’r BBC wneud mwy i gynrychioli barn y rheini sy’n credu fod y gemau wedi costio gormod yn ystod cyfnod o dorri’n ôl.
Ond rydw i’n amau gwerth bod yn rhy negyddol ynglŷn â’r holl beth. Yn gyntaf, mae’r BBC wedi gwneud rhywfaint o ymdrech i gynrychioli safbwynt y rheini sydd ddim yn cytuno â’r Gemau Olympaidd. Rydw i wedi bod yn gwrando a gwylio ar eu hymdriniaeth heddiw ac mae cost y Gemau Olympaidd wedi ei grybwyll sawl gwaith yn barod, yn ogystal â’r pryderon na fydd Cymru yn cael unrhyw fudd o’r gemau.
Os rhywbeth mae’r BBC wedi bod yn fwy parod i roi lle i farn pobol sy’n anghytuno â’r Gemau nag sy’n arferol adeg digwyddiadau chwaraeon mawr o’r fath. Pan gynhaliodd Cymru Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999, oedd y newyddiadurwyr wedi gofyn barn cefnogwr pêl-droed oedd yn gwarafun gwario cymaint ar ‘egg chasing’ a dweud bod yr holl beth yn ddibwynt? Nagoedd. Wedi'r cwbwl, lleafrif sy'n gwrthwynebu cynnal y gemau, a ni ddylid difetha hwyl y mwyafrif yn ormodol unwaith y mae'r holl beth yn dechrau, er mwyn plesio lleafrif sy'n dweud na fyddwn nhw'n gwylio beth bynnag.
Yn ail, fe sicrhawyd y byddai Llundain yn cynnal y gemau Olympaidd eleni yn ôl yn 2005. Bryd hynny dim ond Vince Cable oedd yn rhybuddio bod cyfnod o galedi economaidd ar y ffordd, a dim ond UKIP oedd yn darogan y byddai’r Undeb Ewropeaidd ar chwâl. Unwaith y sicrhaodd Llundain y Gemau Olympaidd roedd rhaid gwario biliynau ar y peth - fe fyddai wedi bod yn drychineb i ddelwedd ac enw da Llundain a gweddill Ynysoedd Prydain pe baen nhw wedi cynnal gemau ‘on the cheap’, yn enwedig yn dilyn sioe anferthol Beijing yn 2008. Roedd y rhan fwyaf o’r gwaith paratoi wedi ei wneud cyn dechrau’r argyfwng ariannol - byddai newid y cynlluniau wedyn wedi costio mwy, nid llai.
Er gwell neu er gwaeth, mae’r gemau yn digwydd nawr, a does dim llawer o bwynt cwyno am y gost. Mae’r ceffyl wedi hen ddianc, mae’r bais wedi ei gwlychu, a does dim gwersi i’w dysgu, o ystyried na fydd y Deyrnas Unedig yn cynnal gemau Olympaidd arall nes o leiaf nes 2076.
Unwaith y mae’r holl beth yn dechrau, does dim llawer o bwynt parhau i gwyno. Dim ond eistedd yn ôl a mwynhau’r sioe, a gwneud y gorau o’r ychydig sylw y bydd ein gwlad ni’n ei gael.
Mae yna fwy na chost iddi Ifan. Leicio fo neu beidio mae yna is destun gwleidyddol i 'r sioe. Mae'r Bib yn deall hynny yn iawn - a dyna pam bod y gorfforaeth wedi cael ei hun yn y ffasiwn stad o hapusrwydd gorffwyll.
ReplyDeleteMae'r Bib yn greiddiol i gynnal hunaniaeth Brydeinig yng Nghymru - rhywbeth a fyddai'n marw heb gynhaliaeth artiffisial sefydliadol.
Fel y dywedais yn fy mlogiad diwethaf dw i'n gwrthwyneby'r dathliad o genedlaetholdeb Prydeinig a ddaw yn sgil y Gemau Olympaidd. Ond fel y dywedais i bryd hynny mae gennym ni ddau ddewis: Stcio ein pennau yn y tywod ac anwybyddu'r peth, neu geisio tynnu sylw at hunaniaeth unigryw Cymru tra bod llygaid y byd arnom ni.
ReplyDeleteFedri di ddim tynnu sylw at hunaniaeth Gymreig. Chei di ddim hyd yn oed dangos y Ddraig yn Stadiwm y Mileniwm. Mae bodolaeth Cymru yn cael ei guddio.
ReplyDeleteDyna y mae angen i ni genedlaetholwyr ganolbwyntio arno. Does dim defnydd cwyno am gost y Gemau Olympaidd - mae'r siec yna wedi hen fynd i'r banc. Beth sydd angen ei wneud yw a) Sicrhau bod cymaint o fflagiau Cymru yn cael eu cyhwfan rhwng nawr a diwedd taith y fflag - a chwarae teg fe welais i fwy nag un wrth i'r fflag deithio drwy Gaerdydd heddiw. Wedyn mae angen b) ymgyrchu er mwyn sicrhau bod gan y Ddraig Goch bresenoldeb yn y gemau olympaidd ei hun. Dylai hynny fod yn ymgyrch hawdd i'w hennill o ystyried y ffaith bod y wasg Llundeinig wedi beirniadu Gemau Olympaidd Beijing am yr union yr un polisi yn 2008. Mae yna frwydr i'w hennill fan yna, yn hytrach na chladdu ein pennau yn y tywod a chwyno. Rydyn ni'n tueddu i weithredu fel pe bai yna ryw fath o ymgyrch PR anorchfygol yn ein hatal ni rhag mynegi unrhyw fath o Gymreictod. Y gwir yw bod y Gemau Olympaidd a'r BBC yn gochel rhag unrhyw fath o gyhoeddusrwydd drwg, ac fe fyddwn nhw'n barod i ganiatau llawer iawn o Gymreictod ar yr amod nad yw'n adlewyrchu yn ddrwg arnyn nhw.
ReplyDeleteWel, roedd yna lawer mwy o fflagiau Prydeinig.
ReplyDeleteOnd yn bwysicach mae'n werth gofyn beth gafodd Cymru am ei £500,000,000+. Yr ateb ydi ffagl, gweth £400k o gontractau a peldroed merched yn Stadiwm y Mileniwm - lle mae'r Ddraig wedi ei gwahardd megis Swastica.
Wel, dw i ddim cweit yn meddwl ei fod yn deg dweud bod y Gemau Olympaidd wedi 'costio' £500,000,000 i Gymru. Penderfynodd Llywodraeth San Steffan na fyddai yr arian ychwanegol a gafodd ei wario ar y Gemau Olympaidd yn golygu bod Cymru yn cael rhagor drwy fformiwla Barnett. Dw i'n ei cael hi'n od bod cymaint o genedlaetholwyr sy'n diawlio Prydain rowndybowt yn credu y dylai Cymru gael mwy o arian cyhoeddus o hyd o goffrau y Trysorlys. Mae Cymru eisoes yn cael llawer mwy yn ol nag y mae hi'n ei gyfrannu. Os ydi cenedlaetholwyr wir eisiau annibyniaeth, mae angen torri dibyniaeth Cymru ar arian o Loegr, nid cynnyddu faint o arian sy'n dod i mewn!
ReplyDeleteMae'n debyg bod y £500m yn dan gyfrifiad. Daw rhywfaint o'r pres o gronfa'r loteri a'r gweddill o drethiant cyffredinol. Mae'n debyg bod Cymru yn cyfrannu tua 5%. os mai £10bn ydi'r gost, £500m fydd un Cymru. Ond mae'n debyg y bydd y gost yn llawer uwch na hynny - mae costau diogelwch yn anodd iawn i'w cyfrifo, ond maent yn debygol o fod yn llawer uwch na'r disgwyl.
ReplyDeleteMae dod a Barnett i mewn i'r ddadl yn cymysgu dau fater cwbl wahanol. Pwrpas Barnett ydi ariannu Cymru mewn ffordd sy'n ei digolledu am ei thlodi cymharol. Mae dy ddadl bod Barnett yn magu dibyniaeth yn un sydd werth ei thrafod. Ond os ydi dy thesis yn gywir nid creu prosiectau mawr sy'n sugno cyfalaf yn Lloegr ydi'r ateb, ond addasu Barnett. Dylai atebion i broblemau berthnasu'n uniongyrchol i'r problemau hynny.
Dydw i ddim yn cymysgu dau fater cwbwl wahanol - Dweud ydw i nad yw’r Cymry wir yn gallu honni eu bod nhw’n ariannu’r Gemau Olympaidd mewn unrhyw ffordd o ystyried bod llawer mwy yn cael ei wario yma nag sy’n cael ei gaslu mewn trethi.
ReplyDeleteDydw i ddim yn credu ei bod hi’n iawn dweud y bydd Cymru yn cyfrannu £500m o drethiant cyffredinol tuag at y Gemau Olympaidd Oherwydd, yn ôl Comisiwn Holtham, mae Cymru yn cyfrannu tua £17.1bn mewn treth bob blwyddyn, ond mae £33.5bn yn cael ei wario yma. Felly hyd yn oed os ydi Cymru yn cyfrannu £500m o’r £17.1bn yna at y Gemau, fe fydd dal yn cael llawer mwy na hynny o arian yn ôl gan y Trysorlys.
Os ydi Cymru am gwyno am y Gemau Olympiadd, wel, mae cynnal Cymru fel cynnal un Gêm Olympaidd blynyddol i weddill y Deyrnas Unedig. Rydw i’n genedlaetholwr sydd eisiau y gorau i Gymru, ond dyna’r gwir.
Felly yn hytrach na ‘bydd Cymru yn cyfrannu £500m at y Gemau,’ y gwirionedd yw ‘bydd Cymru yn cael £500 yn llai gan y Trysorlys nag y byddai pe na bai’r Gemau yn bodoli’. Bydd pob ceiniog o dreth Cymru, a llawer iawn mwy, yn cael ei wario yn y wlad yma, Gemau Olympaidd ai peidio. Hyd yn oed o ystyried yr holl gostau ychwanegol.
Sawl barn dinfyr yma.
ReplyDeleteMi fues i yn digwyddiad y ffagl Coca Cola yn Aberystwyth ddoe, a braf iawn oedd gweld bod pob gair yn cael ei gyfieithu i'r arwyddiaith (sign language). Yn anffodus, nid oedd yr arlwyaeth Gymraeg yn ddigon. 30% os hynny o'r hyn a ddywedwyd yn y Saesneg a ddywedwyd yn y Gymraeg.
Yn ogystal, ryw 5 munud cyn i'r fflam gyrraedd y maes y cyrrhaeddodd rhywun o'r trefnwyr (rhywun o Gyngor Ceredigion o bosib?) gyda stoc fechan o faneri'r Ddraig Goch. Roedd baneri bach jac yr undeb yn cael eu dosbarthu yno o'r cychwyn. Diolch byth bod y rhai hynny a oedd yn eu dosbarthu yn rhy brysur yn tynny lluniau o'u hunen ar eu ffonau symudol, neu mi fuasai wedi bod fel last night of the proms yno.
Collwyd cyfle gan drefnwyr y ffars PR yma i ddod a Cymru'n rhan o'r peth. Efo ychydig o gynllunio o flaen llaw, mi allai'r daith yma o gwmpas Prydain fod wedi dathlu'r sawl iaith sy'n bodoli yn y wlad, o Gernyweg, Y Gymraeg, Iaith yr Alban a'r (gogledd) Iwerddon. A iaith y Cofis hefyd.
Yn hytrach na hyn, fodd bynnag, y cyfan sy' wedi bod yw ambell ymgais ar 'Shoe-my', Bowreh Dah, Dee-olk, ac ambell frawddeg fan hyn a fan draw i gadw'r locals rhag fod yn 'restless'.
Fyddai ddim yn gwylio'r gemau - sgennai fawr o ddiddordeb mewn athletau ac ati, ond mi wnai wylio'r seremoni agoriadol i weld sut mae'r cannoedd o filoedd o bunnoedd wedi eu gwastraffu yn ystod y cyfnod yma o ddirwasgiad.
O ran cyfraniad Cymru, dwi'n credu mae'r broblem yw'r cyfraniad o bob un o'r coffrau tuag at y gemau yma. "The age of austerity" medd Dai Cam a'r Clegsyn yn rhif 10, biti felly na fuasai'r neges yna'n cael ei adlewyrchu yn steil ac arddull cynnal y gemau olympaidd yma. Oes angen gwario gymaint ar ganu a dawnsio a box o dan gwyllt yn y seremoni agoriadol? Oes angen cael taps aur yn y pentre olympaidd? Oes angen troi'r gemau yma'n garnifal?
Mae peryg i nifer ohonom (yn enwedig fi) i anghofio'r rheswm dros gynnal y gemau yma. Yn anffodus, dwi'n ofni bod y trefnwyr hefyd yn euog o hyn. Beth yw'r ots os na fydd seremoni agoriadol Llundain 2012 gystal a'r seremoniau agoriadol cynt? Beth yw'r ots os na fydd y stadiwm cweit mor fawr neu mor sgleiniog a'r rhai blaenorol? Beth yw'r ots pe bai 'cost' gemau Llundain yn llai na cost gemau eraill?
Ydi, mae'r gost yn sylweddol ac yn fater pwysig. Ydi hefyd, mae'r ffordd y mae'r Cymry Cymraeg i fod i glodfori'r gemau heb degwch i'r iaith Gymraeg yn y digwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru yn fater pwysig hefyd.
Diolk.
O ran defnydd trefnwyr y Gemau Olympaidd o’r Gymraeg... wel, join the club yw hi yn anffodus. Mae hyd yn oed cyrff sydd i fod yn hollol gefnogol o’r Gymraeg yn ei thrin yn eilradd yn aml, e.e. Plaid Cymru yn anfon allan datganiadau uniaith Saesneg. Mae angen herio hyn ond mae’n sail gwan iawn i feirniadu’r Gemau Olympaidd yn arbennig arno dw i’n credu. O be welais i ym Mangor heddiw, gwnaethpwyd ymdrech lew i ddefnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys arwyddion uniaith Gymraeg er mwyn nodi bod y ffagl ar ei ffordd. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi gwneud eu gwaith cartref ac yn gwneud eu gorau.
ReplyDeleteO ran y fflagiau – wel, does dim gorfodaeth ar unrhyw un i chwifio dim byd. Mae’r digwyddiad ei hun – dyn neu ddynas yn cario fflam drwy’r strydoedd – yn ‘blank slate’, mai hi fyny i bobol y dref/ddinas i benderfynu a ydyn nhw am chwifio y Ddraig Goch neu Jac yr Undeb neu beth bynnag. Fe deithiais i fyny i’r gogledd heddiw ar hyd yr un llwybr a’r ffagl, gan stopio ddwywaith i’w gweld hi’n mynd heibio, a heblaw am un siop yn Machynlleth oedd wedi ei orchuddio â fflag Prydain fe welais i lawr mwy o’r Ddraig Goch, nifer o fflagiau China ym Mangor, a hyd yn oed rhywun yn chwifio fflag Gwlad Groeg ym Mlaenau Ffestiniog!
Os ydi rhywun yn chwifio Jac yr Undeb maen nhw’n amlwg yn teimlo ryw gysylltiad â’r teimlad o Brydeindod yn barod. Nhw sy’n chwifio’r fflag; dyw’r fflag ddim yn eu chwifio nhw.
(Os rywbeth fe welais i mwy o fflagiau ‘corfforaethol’ – e.e. Samsung a Coke, nac y gwelais i o Jac yr Undeb, sy’n fater arall.)
O.N.: Newydd wylio ymdriniaeth y BBC o’r daith drwy Gymru ar y newyddion nawr, wedi cyfri 5 Draig Goch a dim un fflag Brydeinig.
Onid oedd y gemau wedi ei rhoi i Lundain oherwydd bod y gyllideb yn gynnil. Ymhyfrydwyd yn y gost isel arfaethedig. Felly dyw'r ddadl o beidio'i cynnal "on the cheap" ddim yn ddilys. Dyna'n union oedd i fod.
ReplyDeleteDigolledu Cymru am ei thlodi mae Barnett.
ReplyDeleteDeilliant o'n statws cyfansoddiadol ydi'r tlodi cymharol. 'Does gennym ni ddim rheolaeth tros y lefrau economaidd yr ydym angen eu symud er mwyn mynd i'r afael a'n tlodi cymharol.
Nid anhegwch ydi hynny. Mae £500m o'r arian yr ydym yn ei gael i'n digolledu am y tlodi sy'n deillio o'n statws cyfansoddiadol yn cael ei anfon yn ol fel cymhorthdal i un o bedair dinas gyfoethocaf y Byd.
Anon – Roedd y gost isel wreiddiol yn ddibynnol ar allu’r sector breifat i dalu llawer iawn o’r gost. Pan ddigwyddodd yr argyfwng ariannol methodd hynny a digwydd a bu’n rhaid i’r trethdalwyr ysgwyddo’r baich. Doedd hi byth i fod yn Gemau Olympaidd ‘on the cheap’, dim ond yn ‘rhad’ i’r trethdalwyr!
ReplyDeleteMenaiblog – Gan mai Llundain sy’n cynhyrchu canran mawr o’r arian i’n ‘digolledu’ yn y lle cyntaf, mae’n anodd cwyno os ydyn nhw’n penderfynu gwario £500 miliwn ar eu hunain yn hytrach na’i roi i Gymru, ar ben yr 15 biliwn arall. Penderfyniad y Cymry yw ein statws cyfansoddiadol, ac os mai hynny sy’n gyfrifol am ein tlodi ni, wel bai’r Cymry yw hynny. Mae ychydig bach fel diawlio dy rieni am dorri 50c oddi ar dy bres poced di pan allet ti symud allan o gartref a chael swydd dy hun sy’n talu’n well. Weithiau fel cenedlaetholwr rhaid cyfaddef mai ar dy wlad dy hun mae’r bai.
Rhesymeg dy safbwynt ydi hyn - petai Cameron yn dweud 'Sorry old fruit, we're not paying for your health service any more - you know how it is - austerity & all that'. -dy ateb di fyddai 'No problem massa, thanks for all you've done for us up to now'.
ReplyDeleteMae hynny yn bwynt diddorol, Cai, achos mae’n benbleth i fi a dweud y gwir be fyddai dy ymateb di, a’r Blaid, petai Cameron yn dweud hynny.
ReplyDeleteDw i’n cymryd o beth wyt ti’n ei ddweud ar dy flog, dy fod ti’n cefnogi grymoedd codi arian i Lywodraeth Cymru, devo-max, ac yna annibyniaeth.Fe fyddai hynny yn golygu na fyddai Cameron yn talu am ein gwasanaeth iechyd nag unrhyw beth arall byth eto. Os wyt ti’n credu nad ydyn ni’n gallu goroesi heb yr arian yna, pam cefnogi annibyniaeth, neu hyd yn oed devo-max?
Beth yn union fyddai dy ymateb di, a Leanne Wood sy’n dweud bod angen annibyniaeth ASAP, petai Cameron yn troi rownd a dweud ‘Sorry old fruit, we're not paying for your health service any more - you know how it is - austerity & all that.' - ‘Please Sir, can I have some more?’
Mae safbwynt y Blaid ar hyn yn un rhyfedd iawn ac efallai y gallet ti helpu i’w esbonio. Ar un llaw mae’r blaid eisiau torri pob cysylltiad â’r Deyrnas Unedig, ac ar y llall o blaid sicrhau bod rhagor o arian y Trysorlys yn dod i Gymru? Mae’n gwneud i mi feddwl nad yw’r Blaid wir o ddifrif ynglŷn ag annibyniaeth.
Ond efallai bod hwn yn fater eilradd i’r pwnc dan sylw.
Fy mhwynt i ydi’r un cychwynnol sef nad arian trethdalwyr Cymru sy’n cael ei wario ar y Gemau, mae pob ceiniog o arian trethfalwyr Cymru yn cael ei wario yn y wlad, ac felly mae’n anghywir dweud mai ni sy’n cyfrannu £500m at y Gemau Olympaidd. Os ydi’r arian yna i fod i ‘ddigolledu’ Cymru am ei statws cyfansoddiadol, wel, pwy sy’n penderfynu faint mae statws cyfansoddiadol Cymru yn ei gostio i’r wlad beth bynnag? Efallai bod £15.9 biliwn yn agosach ati na £16.1 biliwn – pwy a wyr? Faint yn union o arian ddylai Cymru fod yn ei gael o goffrau Llundain a De Ddwyrain Lloegr nes dy fod ti’n teimlo bod y sefyllfa yn un teg?
Ac a fyddai pwmpio mwy o arian cyhoeddus i mewn i Gymru yn ein helpu ni lawr yr hewl at annibyniaeth, neu yn cynnyddu ein dibyniaeth ar Loegr?
Mae yna Catch 22.
ReplyDeleteMae Cymru yn dlawd, felly mae'n ddibynol ar Loegr. Mae'n dlawd oherwydd nad yw'n annibynnol. Ond tra ei bod yn dlawd mae'r dibyniaeth am barhau, sydd yn ei dro am arwain at dlodi, sydd yn ei dro yn arwain at ddibyniaeth ac ati ac ati.
Yr ateb ydi dadlau achos annibyniaeth a cheisio ennill pwerau i ddylanwadu ar ein tynged economaidd ar yr un pryd. Ddaw annibyniaeth ddim nes bod y bwlch wedi cau - i ryw raddau o leiaf. Nid trwy sugno cannoedd o filiynau o'n heconomi a'i anfon i Lundain mae gwneud hynny.
"Ddaw annibyniaeth ddim nes bod y bwlch wedi cau."
ReplyDeleteOnd fel yr wyt ti'n ei awgrymu, ni fydd modd ceisio cau'r bwlch nes ein bod ni'n sicrhau annibynniaeth.
Mae'r un peth yn wir am devo-max neu rymoedd codi trethi. Unwaith y mae Cymru yn derbyn y grymoedd rhain, bydd yr arian sy'n dod draw o Loegr yn lleihau. All Cymru ddim cael ei chacen a'i fwyta, hynny yw parhau i dderbyn £33 biliwn gan y Trysorlys a'r hawl i godi trethi ei hun ar ben hynny. Ac o ystyried maint economi Cymru, bydd yr arian y bydd y llywodraeth yn llwyddo i'w godi yn llai na'r arian fydden ni wedi ei gael gan San Steffan.
Os derbyn y grymoedd, rhaid derbyn y bydd yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yn Nghymru yn hanneru i bob pwrpas, a gobeithio y bydd hynny, a'r grymoedd newydd, yn ddigon i hybu'r sector breifat i lenwi'r bwlch.
"Nid trwy sugno cannoedd o filiynau o'n heconomi a'i anfon i Lundain mae gwneud hynny."
Does dim angen ei anfon i Lundain - dyna lle'r oedd o yn y lle cyntaf! Cael ei sugno allan o Lundain a'i yrru i Gymru mae o.
Mae De Ddwyrain Lloegr yn 'creu' llawer o gyfoeth oherwydd (yn rhannol) mai yno mae Dinas Llundain wedi ei lleoli. Mae'r holl gabwbl wedi ei adeiladu ar wasanaethau ariannol. Mater o bolisi llywodraeth ganolog ydi'r lleoliad i raddau helaeth. 'dydi beio gwledydd a rhanbarthau'r DU sydd wedi bod yr ochr 'anghwir' i ddibyniaeth y DU ar y sector yma am ei chyfoeth ddim yn rhesymol ag yn deg.
ReplyDeleteDy farn di ydi y byddai mwy o rym trethiant yn arwain at newid Barnett - ' dwi ddim yn siwr bod neb arall yn ei rhannu. Yn wir mae gan yr Alban fwy o rymoedd trethiant na Chymru, ac mae Barnett yn garedicach wrthi.
O ran haelioni neu ddiffyg haelioni San Steffan -
ReplyDeleteA bod yn deg, mae yna lawer mwy i Lundain na Dinas Llundain. Mae Llundain a De Ddwyrain Lloegr â’i gilydd yn cynrychioli dros 40% o gymeriant treth y Deyrnas Unedig, a dim ond rhan o hynny yw’r Ddinas (tua 4% o GDP, yn ôl y Financial Times). Hyd yn oed pe bai’r Ddinas yn diflannu o wyneb y ddaear yfory fe fyddai economi Llundain yn parhau’n llawer cryfach nag un Cymru.
Rydw i’n cytuno bod San Steffan wedi ffafrio Llundain. Ond maen nhw hefyd wedi ffafrio Cymru, drwy daflu arian di-ben draw aton ni. Nid ein ‘digolledu’ ni am fod yn dlawd maen nhw, cymaint a cheisio ein llusgo ni allan o dlodi.
Rydw i’n credu mewn rhagor o ddatganoli ac annibyniaeth, fel ti, oherwydd fy mod i’n credu y byddai Cynulliad â rhagor o rymoedd economaidd yn gwneud gwell job na San Steffan o ddatblygu economi Cymru. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw San Steffan wedi bod yn gymharol hael â Chymru, ac na ddylid ymateb yn rhy chwyrn os ydyn nhw’n cadw £500m o £33 biliwn yn ôl un flwyddyn er mwyn ei wario ar ddigwyddiad unwaith mewn oes.
O ran polisi Plaid Cymru i wthio am rymoedd trethi, devo-max, ac annibyniaeth –
Fe fyddai hyn yn arwain at gwymp mewn nawdd gan San Steffam.
Mae grymoedd yr Alban i godi neu ostwng trethi yn gyfyng iawn a dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio beth bynnag. Unwiath y mae’r Alban yn cael grymoedd trethi pellach yn 2016, diolch i Ddeddf yr Alban 2012, fe fydd y nawdd y mae’r wlad yn ei dderbyn gan San Steffan yn cael ei dorri.
Felly rwyt ti, fi, Plaid Cymru, ayyb, o blaid derbyn llai o arian gan San Steffan, am mai dyna canlyniad anochel cael ein dwylo ar lefrau’r economi. Y gambl ydi y byddwn ni’n gallu codi mwy o arian ein hunain, yn y pen draw, nag oedd San Steffan yn ei roi i ni.
Wel, mae cyfraniad y sector ariannol i economi'r DU yn tua 10%. mae hyn yn ddigon i dalu am iechyd ac addysg. Dydi'r cwbl ddim yn y filltir sgwar wrth gwrs - ond does yna ddim llawer ohono yng Nghymru.
ReplyDeleteProblem dadansoddiad adain Dde o broblemau economaidd Cymru ydi ei fod yn gweld y berthynas rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat fel zero sum game - bod mantais i un yn anfantais i'r llall. Mewn gwirionedd mae cryn rymh ddibyniaeth rhyngddynt. Mae torri ar y sector cyhoeddus yn debygol o greu niwec i'r sector preifat.
Yr ateb ydi cryfhau'r sector preifat, nid gwanio'r un cyhoeddus. O wneud hynny bydd y gymhareb preifat / cyhoeddus yn datblygu'n iachach. Ond fedrwn ni ddim gwneud hynny efo'r grymoedd sydd gennym ar hyn o bryd.
Dydw i ddim yn anghytuno â dim o’r uchod, Cai. Dydw i’n sicr ddim yn credu bod rhaid torri nol ar y sector gyhoeddus er mwyn ehangu’r sector breifat. Y pwynt ydw i’n ceisio ei wneud yw y bydd gwario cyhoeddus yn rhwym o leihau yng Nghymru os ydyn ni’n cael grymoedd ariannol /devo-max / annibyniaeth, oherwydd y gwahaniaeth rhwng faint da ni’n gallu ei godi ein hunain a faint ydan ni’n ei gael o San Steffan ar hyn o bryd.
ReplyDelete