Snŵs yn y Senedd

A ddylai ein Haelodau Cynulliad fod yn fwy cwerylgar? Ar yr olwg gyntaf, yr ateb amlwg yw ‘na’. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n cymryd balchder yn y ffaith nad ydi ein haelodau yng ngyddfau ei gilydd fel ein Haelodau Seneddol yn Llundain. Does dim o’r brefu a ‘ya boo!’ a welir ym mhydew eirth San Steffan i'w gael ar lawr ein Siambr ni. Mae cynrychiolaeth gyfrannol y Cynulliad yn sicrhau nad oes gan unrhyw blaid reolaeth lwyr, a bod rhaid cael ryw fath o gonsensws trawsbleidiol ar bron i bopeth. Mae hyd yn oed siâp y Siambr a'r waliau tryloyw yn awgrymu gwleidyddiaeth fwy cynhwysol o’u cymharu â meinciau gwrthwynebol a phyrth tywyll Tŷ’r Cyffredin. Mae ein FMQs ni yn ddigon diniwed o’i gymharu â’r gweiddi a sgorio pwyntiau a welir pan mae David Cameron ac Ed Miliband yn ymgodymu yn wythnosol.

Mae pethau hyd yn oed yn waeth yn yr Unol Daleithiau. Mae hyd yn oed gwleidyddion o’r un blaid yn rhwygo ei gilydd yn ddarnau, gan wario biliynau ar hysbysebion negyddol yn awgrymu pob math o bethau di-flas am fywydau preifat ei gilydd. Mae’n syndod fod gan unrhyw un y galon i bleidleisio o blaid yr un ohonyn nhw erbyn y diwedd. Mae’n gyfan gwbl warthus – ond, rhaid cyfaddef, mae’n rhoi mwynhad mawr i unrhyw un sy’n dilyn gwleidyddiaeth y wlad.

Rhaid bod yn onest am eiliad a chydnabod nad diddordeb yn lles y genedl yw’r unig beth sy’n denu pobol at wleidyddiaeth. Mae yna elfen o opera sebon yn rhan o’r cyfan. Rydyn ni eisiau gweld gweinidogion yn ymddiswyddo, sgandalau yn torri, jôc arbennig o fraeth gan arweinydd yr wrthblaid ar lawr Tŷ’r Cyffredin, a’r prif weinidog yn cael ‘jaman’ (chwedl y Cofi) ar ôl gorfod cyfaddef iddo fod ar gefn ceffyl cyn-brif weithredwr News International, neu ei fod wedi gwahodd rhoddwyr hael i de parti yn Rhif 10 Stryd Downing.

Rydyn ni’n hoffi ysgwyd ein pennau mewn anobaith ar ddwli Llundain a’r Unol Daleithiau a dweud ein bod ni’n falch o’r system wleidyddol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ond onid yw’r system yna yn un braidd yn ddiflas mewn gwirionedd? Pryd oedd y tro diwethaf i rywun wylio Carwyn Jones yn ateb cwestiynau Andrew RT Davies gan obeithio y byddai’r ornest yn ei ddifyrru yn yr un modd a brwydr wythnosol David Cameron ac Ed Miliband, neu araith gan Newt Gingrich yn taflu baw at Mitt Romney?

Bydd rhaid yn dadlau, mae’n siŵr, mai diffyg grym y Cynulliad sy’n ei wneud yn anniddorol. Dydw i ddim yn credu fod hynny’n wir - wedi’r cwbl mae gan Lywodraeth Cymru rym dros sawl maes o bwys, gan gynnwys iechyd. Serch hynny mae’r drafodaeth ar ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr wedi bod yn llawer mwy diddorol a chynhennus nag unrhyw beth a welwyd yng Nghymru. Falle mai diffyg wmff ar ran y gwrthbleidiau sy’n gyfrifol? Ydyn nhw’n rhy barod i drafod yn hamddenol â’r Llywodraeth yn hytrach na cholli limpyn ac ymosod yn ffyrnig pan fo angen? Efallai bod tra-arglwyddiaeth y Blaid Lafur hefyd yn golygu fod llai o ddiddordeb na phe bai plaid arall yn herio am reolaeth yn y Cynulliad (wele sut y mae dyrchafiad yr SNP yn yr Alban wedi cyffroi’r dyfroedd)?

Beth bynnag yw’r rhesymau, dyw gwleidyddiaeth Cymru ddim mor ddiddorol â gwleidyddiaeth y rhan fwyaf o wledydd eraill. Efallai mai un o sgil effeithiau hynny yw gwendid y cyfryngau yng Nghymru- wedi’r cwbl, os nad oes gan drigolion y wlad unrhyw diddordeb yng ngwleidyddiaeth y wlad, bydd yn anoddach i’r Western Mail/Daily Post/BBC Cymru/Golwg/360 ddenu eu diddordeb. Ynteu a oes cyfrifoldeb ar y cyfryngau yma i geisio creu rywfaint o gynnwrf yn y Senedd? A oes Horse-gate neu hyd yn oed Watergate yn cuddio y tu ôl i waliau tryloyw'r Senedd, ond nad ydi ein newyddiadurwyr yn ddigon talentog i’w weld?

A ydi gwleidyddiaeth cynhwysol, boneddigaidd, boring yn rhywbeth i wlad gymryd balchder ynddo, wedi’r cwbwl? Fel y dywed un o gymeriadau Futurama: Throw a pie or two, for God's sake!

Comments

  1. Dwi ddim yn gwybod llawer am y diwylliant gwleidyddol ar lawr gwlad (yn enwedig o fewn pleidiau) ond mae'n taro fi fod traddodiad yng Nghymru o siarad cyhoeddus, llefaru ac areithio, lle nad oes disgwyl ymateb gan y dorf, neu fod y dorf ar eich ochr chi o leiaf.

    Does gan yr Eisteddfod ddim cystadlaethau 'dadl' nagoes? (mae'n siwr mai 'trafodaeth' fase fe). Dyw Ymryson y Beirdd ddim wir yn ymosodol chwaith.

    Mae yna draddodiad o gynnal dadleuon (debate) o fewn sefydliadau yn Lloegr yn enwedig o fewn y dosbarth uchaf wnaeth ffurfio diwylliant gwleidyddol San Steffan (sy'n dal i fod yna mewn niferoedd).

    Dwi ddim yn gyfarwydd a hyn yn digwydd yng Nghymru gymaint. Oes yna unrhywbeth yn fy namcaniaeth?

    ReplyDelete

Post a Comment