Un o brif fanteision e-lyfrau yw y bydd y llyfr ar gael i’w
lawrlwytho ar y we ymhell ar ôl iddo ddiflannu o shilffoedd y siopau llyfrau.
Anaml iawn erbyn hyn ydw i’n gweld copi o Igam Ogam neu Yr Argraff Gyntaf mewn
siopau sy’n gwerthu llyfrau printiedig Cymraeg, ond fe fydd yr e-lyfrau ar y rhith-shilff
‘am byth’.
Mae cael ei uwchlwytho i siop Kindle wedi rhoi bywyd
newydd i’r Argraff Gyntaf. Dros y dyddiau diwethaf rydw i wedi derbyn negeseuon
gan bobol ar Twitter yn dweud eu bod nhw wedi ei lawrlwytho a’i ddarllen. Mae’n
annhebygol iawn y bydden nhw wedi gweld a phrynu copi mewn siop lyfrau erbyn
hyn.
Catrinbeard: Argymhelliad yr wythnos: Yr Argraff Gyntaf @ifanmj Dechre araf, ond wedyn CYFFRO! DIHIROD! BOMS! a darlun difyr o Gaerdydd dech G20 #darllenCatrinbeard: Gyda llaw mae nofel @ifanmj ar Cindl - os oes gennoch chi un, prynwch o leiaf un llyfr Cymraeg, er mwyn cael rhagor #darllen #21ainganrif
Cyn i chi feddwl mai hysbyseb tila arall i lyfrau ar
Kindle yw’r cofnod yma, rydw i wedi sylweddoli dros yr wythnosau diwethaf ar un
peth sydd ddim cystal ynglŷn ag e-lyfrau. Dwn i ddim a oes unrhyw un arall wedi
sylweddoli, ond mae yna yna nifer sylweddol uwch o gamgymeriadau mewn e-lyfrau
na mewn llyfrau print. Mae hyn yn wir am y llyfrau Cymraeg a Saesneg yr ydw i
wedi eu lawrlwytho. Mae’r copi digidol o A Game of Thrones yr ydw i’n ei
ddarllen ar hyn o bryd yn llawn gwallau, er ei fod ar frig siart siop Kindle
Amazon.
Beth sy’n gyfrifol am hyn? Ydi’r e-lyfr wedi etiffedu yr agwedd
fwy ffwrdd â
hi at gywirdeb ar y we, yn hytrach na phrwffio diwyd byd print? Testun blogiad
arall, efallai...
Comments
Post a Comment