Jiw, Jiw!

Diolch i bawb a ymatebodd i fy mlogiad diweddaraf, A oes pwynt dadlau am grefydd? Roedd Dylan, Hogyn o Rachub ac Alwyn ap Huw wedi codi ambell i bwynt da iawn sy’n haeddu ymateb llawn. Mae Dylan hefyd wedi ymateb i’r blog gwreiddiol ar ei flog Anffyddiaeth. Diolch iddo am beidio rhwygo fy nadl i ddarnau â’r un sêl ag y mae’n ymosod ar ei elynion crefyddol!

Cyn dechrau, mae angen cyfaddef fod teitl y blogiad, ‘a oes pwynt dadlau am grefydd’, yn nonsens. Mae crefydd wedi dylanwadu ar ein diwylliant, ein hiaith, ein hymddygiad, a phopeth arall. Mae bron yn amhosib trafod unrhyw beth heb drafod crefydd. Ond mae’n deitl dramatig wrth gwrs ac felly yn amhosib i hac fel fi wrthsefyll. Ond fe fyddai ‘A oes pwynt dadlau ynglŷn â bodolaeth Duw?’ wedi bod yn deitl gwell.

Un o brif bwyntiau Dylan ac Alwyn ap Huw oedd bod pobol yn teimlo’n gryf am sawl pwnc, a’u bod nhw'r un mor stwbwrn ag ydi’r Cristion a’r Anffyddiwr ynghylch bodolaeth Duw. Dywed Alwyn ap Huw:

Onid ellir gwneud yr un pwynt am unrhyw bwnc dadleuol arall megis gwleidyddiaeth neu chwaraeon? Rwy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru, byddai dadleuon gwych gan gant a mil o unoliaethwyr ddim yn peri imi newid fy marn.

Rydw i’n deall y ddadl ond dydw i ddim yn ei derbyn hi chwaith. Fel y dywedodd Harold Wilson, mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Mae’r tirwedd gwleidyddol yn newid o hyd, ac mae pobol sy’n dilyn gwleidyddiaeth yn altro eu barn yn gyson gan ymateb i’r datblygiadau diweddaraf. Efallai na fyddai ‘dadleuon gwych’ yn peri i Alwyn ap Huw newid ei farn, ond fe allai newid ei farn pe bai’r amgylchiadau yn newid, a pe bai hynny’n digwydd fe allai ailfeddwl ei farn ar y dadleuon rheini nad oedd yn apelio ato ynghynt.

Er engraifft, mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yn weddol wrthwynebus i ddadleuon Plaid Cymru i ragor o ddatganoli ar hyn o bryd. Ond pe bai yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig fe allai eu barn nhw ynglŷn â dadleuon Plaid Cymru newid. Felly ni fyddai dadleuon Plaid Cymru wedi bod yn ofer.

Mewn chwaraeon mae gallu cystadleuwyr yn cael ei brofi mewn modd gweddol wrthrychol, ond hyd yn oed pe bai tîm pêl droed Dinas Manceinion yn ennill pob cynghrair, cwpan a phencampwriaeth sydd ar gael byddai cefnogwyr United dal ddim yn cael eu hargyhoeddi mae City yw'r tîm gorau sy'n bod.

Mae chwaraeon yn ryw fath o grefydd felly mae’n berffaith bosib fod hyn yn wir! Ond mae’r profi fy mhwynt mewn ffordd. Fe fyddai yn amhosib darbwyllo un o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig Lerpwl fod Man United yn well clwb. A does neb, hyd y gwyddwn i, yn afradu eu hamser yn ceisio gwneud hynny, chwaith. Pam nad yw’r un peth yn wir am grefydd?

Y canlynol gan Dylan ar ei flog ef:

Rwy'n amau hefyd bod yna lawer sydd wedi meddwl ychydig am y mater ond sy'n galw'u hunain yn agnosticiaid. Dyna'r label a ddewisais innau am ychydig o flynyddoedd hefyd, nes i mi sylweddoli mai'r cyfan yw agnosticiaid yw anffyddwyr sydd, am ba bynnag reswm, yn amharod i dderbyn a chofleidio'r label honno. Rwy'n bwriadu trafod hyn yn fanylach yn fuan. Digon yw dweud am y tro nad wyf yn credu ei bod yn or-uchelgeisiol ceisio denu agnosticiaid oddi ar y ffens. Nid oes angen newid eu meddyliau'n sylweddol, gan ein bod eisoes yn rhannu'r un farn i raddau helaeth: "nid oes tystiolaeth bod unrhyw dduw'n bodoli".

Rydw i’n mynd i agor can o fwydod arall fan hyn ond rydw i’n parhau i arddel ryw fath o agnosticiaeth. Rydw i’n deall y dadleuon am y pot te yn y gofod, a Siôn Corn a’r tylwyth teg, ond dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n dal dŵr yn achos bodolaeth duw. Dydw i ddim yn cyfeirio at unrhyw dduw penodol fan hyn - dyw diffyg tystiolaeth i’r gwrthwyneb ddim yn ddadl gall dros eistedd ar y ffens yn achos Allah neu’r Duw Cristnogol. Ond rydyn ni’n gwybod cyn lleied am y bydysawd a sut y daeth i fod, mae gwrthod yn llwyr y posibilrwydd y gallai cread y bydysawd fod yn weithred fwriadol yn ymddangos braidd yn fyrbwyll i fi. Does yna ddim unrhyw fath o gytundeb ymysg gwyddonwyr ynglŷn â beth ddaeth cyn yr ‘Ergyd Fawr’. Iawn, mae bodolaeth duw yn un posibilrwydd hynod o annhebygol, ond beth bynnag yw’r esboniad terfynol am fodolaeth y bydysawd (os ddaw ateb byth) mae’n siŵr y bydd yn un hynod o annhebygol hefyd. Mae’r ddynoliaeth yn rhy anwybodus i ddiystyru unrhyw beth ar hyn o bryd. Dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn haeddu unrhyw ystyriaeth arbennig cyn bod theorïau mwy tebygol wedi eu harchwilio’n llawn, wrth gwrs.

Mae yna garfan arall o bobl sydd gennyf mewn golwg hefyd. Mae'r rhain eisoes yn galw'u hunain yn anffyddwyr, ond maent yn amharod i feirniadu crefydd yn ormodol. Gall hyn fod oherwydd nerfusrwydd ynghylch ypsétio pobl neu am eu bod wedi llyncu rheol anysgrifenedig ein cymdeithas na ddylid dweud pethau angharedig am ffydd grefyddol. Mae crefydd yn cael ei roi ar bedestal arbennig, uwch ben pob safbwynt neu ideoleg arall sy'n fair game ar gyfer beirniadaeth. Rwy'n hapus i ail-adrodd y pwynt yma hyd syrffed os oes angen: mae angen dinistrio'r pedestal yma a'r swigen y mae crefydd yn byw ynddi. Un o amcanion y blog yw atgoffa'r anffyddwyr tawel hyn nad yw crefydd yn sanctaidd (ha!) a bod angen ei herio.

Rydw i’n cytuno fod angen bod yn fwy parod i herio crefydd a’i fod yn tueddu i gael ei roi ar bedestal. Serch hynny rydw i’n tueddu i fod yn amharod i farnu ‘crefydd’, am nad ydw i’n credu mai crefydd yw gwraidd y broblem yn aml iawn. Rydw i’n tueddu i fod o’r farn mai ryw beg i bobol hongian eu rhagfarnau a’u credoau personol yw crefydd. Un peth sy’n fy nharo i yn gyson yw nad oes yna ryw lawer o gysylltiad rhwng cynnwys llyfrau sanctaidd y crefyddau yma ac ymddygiad y bobol sy’n honni eu dilyn nhw. Mae’r Beibl yn cynnwys pethau'r un mor farbaraidd â’r Koran, ond mae ein cymdeithas Gristnogol ni yn llawer mwy gwaraidd na chymdeithas sydd dan reolaeth y Taliban yn Afghanistan, er enghraifft. Y gwahaniaeth yw bod ein cymdeithas ni yn un datblygedig tra bod cymdeithas y Taliban yn un canoloesol. Mae’r ddwy gymdeithas yn dewis a dethol ambell ran o’u hysgrythurau sy’n gweddu i’r modd y maen nhw eisiau byw eu bywydau, ac yn anwybyddu talpiau helaeth o’r gweddill. Rydw i’n cytuno fod gan grefydd y gallu i fwyhau ffaeleddau pobol (a'u rhinweddau) - ond pan mae pobol yn camfihafio yn enw crefydd rydw i’n tueddu i feio’r bobol, nid yr esgus dros wneud hynny.

Comments

Post a Comment