Saunders Lewis |
Yn dilyn nodi pen-blwydd 50 mlynedd darlith Tynged yr
Iaith, Saunders Lewis, mae’r rhithfro, y radio ac S4C wedi bod yn ferw o
drafodaeth ynglŷn â dyfodol yr iaith. Ymysg yr heriau sy’n wynebu’r iaith sydd
wedi bod dan drafodaeth mae; mewnfudwyr, diffyg swyddi yn gorfodi i bobol adael
bröydd Cymraeg, pobol sy’n dweud nad ydi eu Cymraeg yn ddigon da, pobol sy’n
dweud nad ydi Cymraeg pobol eraill yn ddigon da, diffyg hawliau i siaradwyr yr
iaith, gormod o bwyslais ar hawliau i siaradwyr yr iaith a dim digon ar sicrhau
ei fod yn iaith fyw ar lawr gwlad, ayyb, ayyb...
Os yw’r problemau sy’n wynebu’r iaith yn niferus mae’r awgrymiadau
ynglŷn â sut i’w achub yn fwy niferus byth.
Ond yn hytrach na ffraeo ymysg ein
gilydd, beth am ystyried atebion eithafol fyddai yn achub yr iaith unwaith ac
am byth? Dyma ambell i gynnig (tafod yn y boch)...
Pawb i symud i
Wlad yr Iâ
Mae 300,000 o bobol yn byw yng Ngwlad yr Iâ. Mae 600,000 o
siaradwyr Cymraeg. Mater bach fyddai goresgyn y Llychlynnwr a sefydlu ein
hiaith a’n diwylliant ein hunain yno. Gwladychiaeth? Goroesiad y cymhwysaf,
meddaf fi.
Dewis amgen fyddai dod o hyd i lecyn amhoblog o wlad fawr
a gwag, e.e. Rwsia, Awstralia, Canada, neu barhau da’r gwaith da yn yr
Ariannin, a sefydlu yno.
Mudiad
Magu Mwy
Mae’n dalcen caled braidd ceisio argyhoeddi mewnfudwyr i ddysgu
Cymraeg. Mae’n llawer haws magu plant i fod yn Gymry glan gloyw, sy’n caru’r
iaith ac yn mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol. Yr unig ateb felly yw i’r Cymry
Cymraeg gael mwy o blant bob blwyddyn na sydd o fewnfudwyr. Dylai saith neu
wyth plentyn i bob pâr wneud y tro.
Y Côr-an
Un ffactor sy’n sicrhau llwyddiant parhaol yr iaith
Arabeg yw ei fod wedi ei gysylltu’n unionyrchol â llyfr sanctaidd y Mwslim, y
Coran. Mae’r grefydd Formonaidd a Seientoleg yn profi nad oes unrhyw beth i’n
hatal ni rhag creu ein crefydd ein hunain o’r newydd. Felly beth am greu
crefydd sy’n cynnwys amodiad bod rhaid i’r llyfr sanctaidd gael ei ddarllen yn
Gymraeg, fel yn achos y Coran? Gyda’r holl ffwdan am newid hinsawdd mae’n hen
bryd ail-sefydlu ryw fath o Neo-Baganiaeth fydd yn denu’r hipis hygoelus yn eu
miloedd. Roedd crefydd yn hollbwysig i achub y Gymraeg yn y 18fed ganrif, fe
allai fod yn fanteisiol unwaith eto.
Rhoi’r
gorau i siarad Cymraeg
Wedi’r cwbl, os ydyn ni i gyd yn rhoi’r gorau i siarad yr
iaith, fydd yna ddim iaith ar ôl i’w achub, a bydd y broblem wedi ei ddatrys. A
ni fydd ein plant ni’n ymwybodol o’r iaith yn y lle cyntaf ac yn cario baich ei
ddiogelu ar eu hysgwyddau am weddill eu hoes. A bydd Cymru yn sicrhau
annibyniaeth am na fydd yr iaith yn atal y di-Gymraeg rhag cefnogi pleidiau
cenedlaetholgar! Eureka!
Sefydlu
Taffia go iawn
Mae nifer o Gymry di-Gymraeg dan yr argraff fod cabál
cefnog o grachach Cymraeg yn rheoli Cymru o’r tu ôl i’r llenni. Yn anffodus
rydyn ni’n debycach i sach o datws na Goldman Sachs. Ond beth pe bai’r Cymry
Cymraeg yn sefydlu Taffia go iawn? Wedi’r cwbl, os allai’r ‘global banking
elite’ sydd wedi gwneud shwd gawlach o bethau gymryd drosodd y byd, mater bach
fyddai cymryd drosodd un wlad fechan... bwahaha...
Comments
Post a Comment