Paradocs annibyniaeth i Gymru

Owain ar gefn ei geffyl
Fel yr ydw i wedi ei ddweud o’r blaen rydw i o blaid annibyniaeth i Gymru. Ond petai annibyniaeth yn cael ei gynnig ar blât i Gymru yfory dw i’n credu mai dim ond y cenedlaetholwr mwyaf eithafol fyddai yn derbyn. Mae balchder cenedlaethol yn un peth, ond gwir genedlaetholdeb ydi bod eisiau’r gorau i dy gydwladwr. A dyw Cymru, ar hyn o bryd, ddim yn barod ar gyfer annibyniaeth.

Ond parod neu beidio, mae’n bosib y bydd Cymru yn wynebu’r dewis tyngedfennol hwnnw o fewn y degawdau nesaf. Os yw’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth bydd rhaid i ni benderfynu beth fydd ein perthynas tymor hir ni â Lloegr o hynny ymlaen - ploryn di-nod ar ben-ôl gwlad llawer mwy, neu geisio sefyll ar ein traed ein hunain. Dyna pam mae’n bwysig i’r rheini sy’n crefu am annibyniaeth roi’r gorau i freuddwydio am ryw Dír na nÓg a dechrau ystyried y realiti - fel y mae hanes yr Iddewon yn ei ddangos, dyw Gwlad yr Addewid ddim yn fêl a llaeth i gyd.

Mae Cymru yn wlad wahanol iawn i Loegr.  Mae’n fynyddig ar y cyfan tra bod Lloegr yn fflat. Mae’r tywydd yn wahanol iawn. Mae gennym ni ein diwylliant a’n hiaith unigryw ein hunain.

Ond beth fydd wir yn gwthio Cymru tuag at annibyniaeth yw ein bod ni mor wahanol yn wleidyddol. Mae Lloegr, ar y cyfan, yn pleidleisio o blaid y Ceidwadwyr tra ein bod ni, ar y cyfan, yn pleidleisio o blaid Llafur. Fel yn yr Alban, yr arswyd o orfod byw dan reolaeth llywodraeth Geidwadol barhaol fydd yn dylanwadu ar benderfyniad y rhan fwyaf o bobol i bleidleisio o blaid annibyniaeth ai peidio.

(Nid fod y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur fodern mor wahanol â hynny, wrth gwrs. Ond yn yr Alban ac yn y Cymoedd mae’r Ceidwadwyr fel gwenwyn.)

Y broblem yw bod Cymru yn cefnogi’r Blaid Lafur oherwydd ein bod ni mor ddibynnol ar Loegr. Mae canran sylweddol o swyddi Cymru yn y sector gyhoeddus, canran a fyddai yn gwbl anghynaladwy pe bai’r wlad yn annibynnol. Fel yr ydw i wedi ei awgrymu o’r blaen mae angen llacio’r ddibyniaeth yma ar y sector gyhoeddus a chreu mwy o swyddi yn y sector breifat os ydyn ni am sefyll ar ein traed ein hunain.

Yr eironi yw, os yw Cymru am fod yn annibynnol rhaid iddi fod yn debycach i Loegr. Ac er mwyn i hynny ddigwydd rhaid ethol plaid sydd eisiau llacio dibyniaeth y wlad ar y sector gyhoeddus, a gwario’r arian ar hybu’r sector breifat. Hynny yw, byddai yn rhaid ethol y Ceidwadwyr, neu o leiaf ryw fath o fersiwn Cymreig o’r blaid honno. Ond pe bai Cymru yn gwneud hynny fe fyddai’r hollt gwleidyddol rhyngddi hi ni a Lloegr hefyd yn diflannu, a’r brif ddadl o blaid annibyniaeth gydag o.

Dyna’r paradocs. Beth yw’r datrysiad?

Comments

  1. Does dim rhaid troi at gwmniau preifat "er elw" (nid bod dim o'i le ar hynny), a'r Ceidwadwyr, a gwleidyddiaeth asgell dde, er mwyn creu swyddi y tu allan i'r sector cyhoeddus. Gweler y syniadau y mae Leanne Wood yn eu trafod yn 'Cynllun Gwyrdd i'r Cymoedd' er enghraifft - mentrau cydweithredol ac ati. Mae gyriant wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf tuag at greu trydydd sector sy'n hunan-gynhaliol - mae mentrau bach felly i'w gweld ledled Cymru. Mae angen rhannu arferion da y rhai llwyddiannus a dysgu gwersi o'r rhai aflwyddiannus, a rhoi anogaeth ac ysgogiad i ragor o fentrau. Dyw gwleidyddiaeth i'r chwith o'r canol ddim yn gorfod golygu sector cyhoeddus enfawr, drud ac anghynaladwy - mae angen chwalu'r myth hwnnw.

    Iwan Rhys

    ReplyDelete
  2. Y brif ddadl tros annibyniaeth ydi bod y status quo wedi methu o safbwynt economaidd, a 'does gennym ni ddim lle o gwbl i feddwl y bydd hynny byth yn newid.

    ReplyDelete
  3. Diolch am eich sylwadau.

    @Iwan Os ydi Leanne yn gallu creu gwlad gyfoethog, sosialaidd yna pob lwc iddi. Fe fyddai ganddi fy nghefnogaeth i'n sicr. Efallai nad yw gwleidyddiaeth i'r chwith o'r canol yn gorfod golygu sector cyhoeddus enfawr, ond mae yna dueddiad cryf tuag at hynny. Mater o gael y balans yn iawn ydyw, rhwng gadael i'r sector preifat ffynnu ond ei ffrwyno pan mae'n dinistro cyfoeth a bywydau yn hytrach nag eu gwella. A cael y balans rhwng sicrhau fod yna 'safety net' i bobol sy'n methu a dod o hyd i waith, ond sicrhau nad yw'r rhwyd hwnnw'n troi'n hamog. Y broblem yng Nghymru ar hyn o bryd yw nad oes yna unrhyw gymhelliad dros geisio lleihau ein dibyniaeth ar y sector gyhoeddus oherwydd bod yr arian yn dod o San Steffan a felly nad oes unrhyw gysylltiad rhwng ein trethi ni a faint yden ni'n ei gael yn ol. Byddai datganoli pwerau trethi i'r Cynulliad yn gam mawr ymlaen yn hynny o beth feddyliwn i.

    @Menaiblog Y status quo yng Nghymru yw can mlynedd o reolaeth gan y Blaid Lafur. Gellir newid y status quo heb gyrchu at annibyniaeth!

    ReplyDelete
  4. "Y broblem yw bod Cymru yn cefnogi’r Blaid Lafur oherwydd ein bod ni mor ddibynnol ar Loegr. Mae canran sylweddol o swyddi Cymru yn y sector gyhoeddus, canran a fyddai yn gwbl anghynaladwy pe bai’r wlad yn annibynnol. Fel yr ydw i wedi ei awgrymu o’r blaen mae angen llacio’r ddibyniaeth yma ar y sector gyhoeddus a chreu mwy o swyddi yn y sector breifat os ydyn ni am sefyll ar ein traed ein hunain."

    Byddai annibynniaeth yn gam mawr tuag at wella hynny. Y sefyllfa gyfansoddiadol bresenol sy'n ein cadw'n ddibynnol ar arian cyhoeddus yn y lle cyntaf. Mae'r Blaid Lafur yn elwa'n fawr o hynny hefyd wrth gwrs.

    Er enghraifft, byddai modd i Gymru rydd ostwng y dreth gorfforaethol. Mae rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn gwahardd amrywio'r dreth honno o fewn yr un wladwriaeth, felly nid oes modd gwneud hynny yng Nghymru nes y dawn yn annibynnol.

    Rwyt ti'n dweud nad yw Cymru'n barod am hynny eto oherwydd y sefyllfa economaidd, ond rwy'n credu bod lle i gredu bod angen annibynniaeth cyn i ni allu datrys y broblem.

    ReplyDelete
  5. @Dylan Rydw i'n cytuno y byddai annibyniaeth o gymorth am ei fod yn caniatau gostwng y dreth gorfforaethol. Ond rhaid dysgu nofio cyn neidio i mewn i'r pen dwfn. Mae angen hybu'r sector breifat yn y wlad yma a llacio'r dibyniaeth ar y sector gyhoeddus CYN mynd yn annibynol, neu fe fyddai y blynyddoedd cyntaf rheini yn rhai llwm iawn. Pe bai Cymru yn mynd yn annibynol heddiw byddai rhaid penderfynu naill ai ar doriadau anferth i'r sector gyhoeddus neu fynd i ddyled mawr.

    Dros y blynyddoedd nesaf rydw i'n disgwyl gweld proses llyfnach na naid yn syth at annibyniaeth - datganoli grymoedd trethi bob yn dipyn i'r Cynulliad a gorfodi ein gwleidyddion i wneud y cysylltiad yna rhwng treth a gwariant. Bydd hynny yn ei dro yn arwain at ethol pleidiau sy'n addo hybu'r sector breifat yn hytrach na rhai sy'n addo 'free lunch' wedi ei dalu gan y Trysorlys yn Llundain. Ar ol ambell ddegawd o hyn fe fydd Cymru'n barod i adael y nyth.

    ReplyDelete
  6. Nid rheolaeth gan Lafur ydi!r status quo tros ganrif. Y Toriaid sydd wedi rheolaeth am y rhan fwyaf o'r cynodont hwnnw. 'Dim nod yn ddiweddar y cafwyd y strwythur I droi goruwchafiath Llafur yang Nghymru yn rheolaeth gwleidyddol.

    Yn sylfaenol mae'n anodd chwalu goruwchafiaeth Llafur heb sefydlu perthynas rhwng eu haddewidion etholiadol (digon o pob dim am ddim I bawb) a'r gyfundrefn drethu yng Nghymru.

    Sefydlu'r berthynas rhwng treth a gwariant ydi'r cam sydd rhaid ei gymryd i chwalu hegemoni hanesyddol Llafur. Cael gafael ar y gyfundrefn drethu ydi'r ffordd orau i greu'r amodau cyllidol ar gofer Cymru rydd hefyd.

    ReplyDelete
  7. ON - newydd sylwi ar y camgymeriadau - auto correct y ffon Mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  8. eithaf hoffi'r gair cynodont

    Ond yn hollol, mae'r sefyllfa bresenol yn hyfryd i Lafur yng Nghymru. Heb orfod poeni am godi arian eu hunain, mae modd addo popeth a beio trysorlys Llundain am bob methiant. Mae hynny'n gwneud y math anaeddfed o wleidyddiaeth y maent wedi'i arfer yn yr oes ddatganoledig hyd yma yn anochel.

    ReplyDelete
  9. "Yn sylfaenol mae'n anodd chwalu goruwchafiaeth Llafur heb sefydlu perthynas rhwng eu haddewidion etholiadol (digon o pob dim am ddim I bawb) a'r gyfundrefn drethu yng Nghymru.

    Sefydlu'r berthynas rhwng treth a gwariant ydi'r cam sydd rhaid ei gymryd i chwalu hegemoni hanesyddol Llafur. Cael gafael ar y gyfundrefn drethu ydi'r ffordd orau i greu'r amodau cyllidol ar gofer Cymru rydd hefyd."

    Cytuno'n llwyr. Mae'n bosib wrth gwrs y byddai y Blaid Lafur yn addasu a'u hegemoni yn parhau - dw i ddim yn gweld eu cefnogaeth llwythol yn y Cymoedd yn edwino dros nos - ond o leiaf y byddai rhaid iddyn nhw reoli mewn modd mwy 'aeddfed' ys dywed Dylan uchod.

    ReplyDelete
  10. "Ond petai annibyniaeth yn cael ei gynnig ar blât ..."

    Mae yna bosibilrwydd arall. Os eith yr Alban am annibyniaeth mae hi'n bosib fe ddaw Lloegr i flino efo'r undeb efo Cymru a ddaw'r Saeson i alw am annibyniaeth eu hunan. Hynny yw, ein gorfodi ni i fod yn annibynnol yn lle cynnig annibyniaeth fel dewis. Fe fyddem wedyn allan yn yr oerni. Os ddaw'r Saeson i syrffedu efo'r annhegwch canfyddiedig o orfod talu dros y Cymry tlawd, fe fydd y senario yma yn dod yn fwyfwy debygol.

    Ond oes yna reswm arall o blaid oedi am annibyniaeth – yr iaith. Os enillem annibyniaeth cyn bod y Gymraeg yn cymryd lle canolog yn fywyd cyhoeddus y wlad ac ar wefusau'r mwyafrif ohonom, credaf ni cheith hi byth symud o'r ymylon.
    Os credwn ni fod annibyniaeth yn anochel fe ddylem gymryd agwedd optimistaidd. Ystyriwch am funud fod Cymru annibynnol yn bodoli. Ystyriwch hefyd fod y sector preifat wedi ffynnu a bod yr economi yn llwyddiannus. Yn y sefyllfa yma, tybiaf fe fydd mewnfudwyr yn tyrru i mewn i'r wlad ac yn creu bygythiad newydd i'r iaith. Sut yr ydym am ddeddfu yn erbyn hyn er mwyn amddiffyn y fro Gymraeg?

    I le mae'r dadleuon yma yn ein dilyn ni? Mae hi'n eglur fod yna angen mawr i'r 4 miliwn Cymru magu fwy o fentergarwch a chreu fwy o fusnesau ac felly swyddi yn y sector preifat. Ond mae'r her i'r 600 mil Cymry Cymraeg yn fwy. Mae rhaid i'r newid yn ein meddylfryd ni fod yn anferthol, er mwyn creu swyddi Cymraeg. Hynny yw swyddi mewn gweithleoedd Cymraeg ei iaith er mwyn sicrhau ei pharhad. A rhaid cael digon o heini i'r holl bobol ifanc sydd yn dysgu'r Gymraeg fel ail iaith a heb gynnig ei siarad adref.

    ReplyDelete

Post a Comment