Wrth bori dros ystadegau’r blog y dydd o’r blaen sylwais
fy mod i wedi derbyn llond llaw o ‘hits’ gan flog o’r pen arall i Fôr Iwerddon
– Blog
Dialann Scott. Roedd y blog yn fy nghrybwyll i, felly dyma fi’n holi fy
nghyfeillion yng Nghanolfan Bedwyr am gyfieithiad. Mae’r blog yn ymateb i’r
cofnod Faint
Sy’n Darllen? Dros flwyddyn yn ôl:
Rydw i weithiau yn darllen blog Ifan Morgan Jones, ac wedi sylwi ar erthygl ddiddorol sydd wedi fy ysbrydoli. Os ydych chi’n blogio yn yr iaith Gwyddeleg; faint o ddarllenwyr sydd gyda chi? Ar dudalennau cartref Blogger a Wordpress mae modd gweld nifer y darllenwyr bob dydd, wythnos, a mis ac ers sefydlu’r blog.Yn ystod y mis yma mae’n debyg fy mod i wedi denu tua phum chant o ddarllenwyr. Dw i’n meddwl fod hynny’n eithaf da, o ystyried nad ydw i’n ysgrifennu yn gyson. Pe bawn i’n ysgrifennu yn fwy cyson, mae yna siawns (bach) y byddwn i’n denu rhagor, ond fe fyddai yn codi’r cwestiwn: pa mor adnabyddus yw blogio erbyn hyn?Fe ofynnais i’r cwestiwn o flaen y cyhoedd yn y Symposiwm Blogio Gwyddeleg eleni, a’r ymateb oedd fod llawer iawn yn darllen ond nad yw hi o bwys am y niferoedd sy’n darllen os yw’r cynnwys yn foddhaol. Dyna nod blogio, yn enwedig blogio mewn iaith leiafrifol; mae’n bwysig fod deunydd o safon ar gael i siaradwyr yr iaith Wyddeleg (ym mhob cwr o’r byd).
Digwydd bod roeddwn i wedi bod yn meddwl
am yr ieithoedd Celtaidd eraill yn ddiweddar gan fy mod i ar hyn o bryd yn
darllen llyfr am ysgolion elusennol yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon yn yr
18fed a’r 19eg ganrif. Yn ôl awdur y llyfr hwnnw cafodd yr ysgolion eu sefydlu
gan Gristnogion efengylaidd â’r nod o ddysgu’r Cymry Cymraeg sut i ddarllen y
Beibl. Gwnaethpwyd hyn yn Gymraeg oherwydd ei fod yn gynt dysgu pobol oedd yn
siarad Cymraeg i ddarllen yn eu mamiaith na cheisio eu dysgu i siarad Saesneg -
achub eneidiau oedd y nod, nid achub yr iaith. Yn y cyfamser, yn Iwerddon a’r
Alban oedden nhw’n benderfynol o ddysgu'r bobol oedd yn siarad Gwyddeleg a
Gaeleg i ddarllen drwy gyfrwng y Saesneg, a oedd yn fethiant am resymau amlwg.
Cyn bo hir mabwysiadwyd technegau synnwyr cyffredin y Cymry, ac yn ôl
academyddion heb yr ysgolion rhain mae’n debygol y byddai’r ieithoedd Celtaidd
wedi marw’n llwyr.
Efallai mai prin yw’r esiamplau o’r
ieithoedd Celtaidd yn cydweithio er eu budd nhw i gyd. Wedi’r cwbl, er eu bod
nhw’n brwydro’r un brwydrau maen nhw’n gwneud hynny ar feysydd gwahanol. Does
dim llawer all Cymro Cymraeg o Benrhiwllan ei wneud i hybu Gaeleg yn Aberdeen,
tu hwnt i symud i fyw a dysgu’r iaith.
Beth bynnag am hynny, rydw i wedi bod yn
meddwl am ffyrdd y gellid defnyddio technoleg i helpu bob un o’r ieithoedd yma (heblaw am anfon darllenwyr i'ch blogiau eich gilydd).
Un maes ydw i’n meddwl y byddai yn bosib gwneud hynny ydi wrth rannu newyddion
ar y we. Cymerwch er enghraifft gwefan Golwg 360 - mae’n wasanaeth sydd ar gael
yn y Gymraeg, ond ddim yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Mae gan y BBC wefan newyddion Gaeleg ond hyd y gwelaf i ryw hanner dwsin o straeon newydd sydd arno
bob wythnos, a does dim byd Cernyweg. Mae’r ddarpariaeth Gwyddeleg yn well ond
ddim yn wych. Yr ateb ar yr olwg gyntaf fyddai sefydlu cwmnïoedd fel Golwg 360
sy’n darparu gwasanaeth newyddion yn yr ieithoedd Celtaidd eraill.
Ond yn hytrach na dyblygu’r gost drwy
sefydlu gwasanaethau newyddion unigol ym mhob iaith, beth am sefydlu un
gwasanaeth newyddion fyddai yn darparu newyddion ym mhob iaith Geltaidd? Wedi’r
cwbl, mae llawer o gostau cwmni yn mynd ar bethau fyddai yn rhaid eu dyblygu
wrth sefydlu cwmnïoedd ar wahân - cost creu a chynnal a chadw gwefan, cost
lluniau, cost porth newyddion Prydeinig a rhyngwladol fel PA neu Reuters, cost
cyfarwyddwr, cost cyfrifydd, cost person marchnata, cost person hysbysebu,
cwmni TG i edrych ar ôl cyfrifiaduron a rhwydwaith mewnol y cwmni, ayyb. Yn oes
y we, efallai na fyddai hyd yn oed angen swyddfa ganolog i bawb.
Yn amlwg fe fyddai angen dau neu dri
newyddiadurwr i bob un o’r ieithoedd dan sylw. Ond hyd yn oed wedyn fe fyddai
modd osgoi dyblygu gwaith. Er enghraifft, pe bai newyddiadurwr yn ysgrifennu
adroddiad yn Gymraeg am stori Brydeinig, gellir defnyddio’r un ffeithiau yn y
stori Gaeleg. Pe bai’r newyddiadurwr Gaeleg yn ysgrifennu stori am annibyniaeth
yn yr Alban, fe fyddai newyddiadurwyr yr ieithoedd eraill yn elwa ar ei arbenigedd
a’i waith ymchwiliadol wrth lunio’r straeon Cymraeg, Gwyddeleg, ayyb.
Dw i’n weddol sicr y
byddai sefydlu un gwasanaeth amlieithog yn haneru’r gost o greu gwasanaethau
newyddion unigol ar gyfer bob iaith Geltaidd wahanol.
Unrhyw syniadau eraill sut y gallai’r ieithoedd gwahanol
helpu ei gilydd?
Disgrifiad da o'r World Service ( http://www.bbc.co.uk/worldservice/ ) - 27 o ieithoedd gwahanol ar hyn o bryd. Peth rhyfedd nad yw'r ieithoedd celtaidd yn rhan ohono ond yn hytrach rhannu'r system Saesneg.
ReplyDeleteYn rhyfedd ddigon, ro'n i jyst yn meddwl bore 'ma am y ddifyg cyswllt sy rhwng cymunedau Cymraeg a Gaeleg yr Alban. Er mai cefndryd pell, pell iawn ydym yn ieithyddol erbyn hyn, ni ydy'r ddwy iaith leafrifol brodol fwyaf o fewn y wladwriaeth Brydeinig.
ReplyDeleteMae Dailann yn gofyn pa mor adnabyddus yw blogio erbyn hyn?
Ro'n i'n falch o glywed y radio bore 'ma, wrth i mi ddal diwedd adolygiad Catrin Beard o'r wasg Cymraeg, hi'n cyfeirio hefyd at gofnod ar Penderyn, blog Trystan Dafydd. Mae Trystan Dafydd yn adnabyddus wrth gwrs drwy ei hen swydd gyda Plaid Cymru, ond pan mae'n dod i flogio, He's no Alwyn ap Huw o ran amlygrwydd.
Dyna nod blogio, yn enwedig blogio mewn iaith leiafrifol; mae’n bwysig fod deunydd o safon ar gael i siaradwyr yr iaith Wyddeleg (ym mhob cwr o’r byd).
Dyna pam mod i'n falch bod <a href="http://penderyn.blogspot.com/2012/01/ymgyrch-arweinyddol-plaid-cymru.html</a> cofnod Trystan am ras arweinyddiaeth Plaid Cymru</a> wedi cael sylw dyledus. Mae'r byd blogio CYmraeg yn edrych addawol iawn ato o rna amrywiaeth a sofan y cynnwys.
Ond yn ol i dy syniad am rannu adnoddau a chreu gwasanaeth newyddion ar y cyd, byddai'n gwneud lot o synnwyr, yn enwedig yn yr amseroedd hyn o brinder arian. Yn amlwg byddai rhaid i lywodraethau datganoledig y gweldydd eraill gyfranu ato.
Diolch am eich sylwadau.
ReplyDelete@Anon - falle ei fod yn beth gwell nad ydi'r Gymraeg yn rhan o'r 'World Service'! Gwell ei fod yn rhan o'r gwasanaeth canolog nac ar ymylon y wefan.
@Rhys - Diolch am dynnu fy sylw at y blog yna, doeddwn i heb ei weld o'r blaen.
Cytuno efo'r pwynt olaf am ofyn am gyfraniad gan lywodreathau gwledydd eraill. Fe fyddai yn fantais arall i wasanaeth o'r fath bod modd gofyn am gyllid gan sawl ffynhonnell yn hytrach nag un yn unig! (Se £200,000 y flwyddyn gan lywodreath bob gwlad Celtaidd yn talu am wefan eitha slic weden i!!!)
Mae'n siwr y byddai yna fanteision o ran denu hysbysebion hefyd, gan y byddai nifer y darllenwyr yn uwch. Ond dwnim a fyddai yn rhaid caniatau hysbysebion Saesneg i gwmniau sy'n croesi ffiniau Cymru/Iwerddon wedyn...