Mae un o’r gwledydd Celtaidd wedi hawlio ei lle ar
dudalennau blaen y papurau Llundeinig o’r diwedd - ond dim ond am iddi fygwth
gadael y Deyrnas Unedig. Wyddwn i ddim a dweud y gwir pa mor bwysig yw pwnc
annibyniaeth yr Alban i’r dyn ar y stryd yn Nhwmpyn Glori. Prin y byddai y rhan
fwyaf o drigolion Lloegr, na Chymru, yn sylwi pe bai'r Alban yn codi pac a mynd. Ond mae’n sicr yn bwysig i bobol yr Alban ac o ddiddordeb mawr i’r
anoracs gwleidyddol. Ac os yw’n digwydd, fe fyddai ganddo effeithiau
pellgyrhaeddol ar Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd, fel y dywedodd ein Prif
Weinidog, Carwyn Jones, heddiw:
Os yw yr Alban yn gadael fe fyddai angen cyfarfod i ystyried natur y Deyrnas Unedig, gan mai Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn unig fyddai yn aelodau. Mae’n amhosib tynnu'r Alban allan a disgwyl i’r Deyrnas Unedig barhau fel o’r blaen. Fe fyddai gennych chi, er enghraifft, Senedd yn Llundain sy’n cynnwys tua 550 o Aelod Seneddol, a 510 o’r rheini yn dod o Loegr.
Wyddwn i ddim pwy fydd yn ddigon dewr i sibrwd yng
nghlust Carwyn fod ASau Lloegr eisoes yn mwynhau mwyafrif anferth yn San
Steffan. Os yw’r newidiadau arfaethedig i ffiniau etholaethau yn mynd rhagddynt
bydd gan Loegr 500 AS a’r gwledydd Celtaidd 96 AS rhyngddyn nhw, a hynny cyn
i’r Alban ei heglu hi.
Ateb Carwyn Jones yw ail-greu Tŷ’r Arglwyddi ar ffurf
Senedd yr Unol Daleithiau, sy’n rhoi’r un faint o gynrychiolaeth i bob talaith
beth bynnag eu maint. Mae’n awgrymu siambr gyda thraean o seddi ar gyfer Cymru,
traean ar gyfer Lloegr a thraean ar gyfer Gogledd Iwerddon. O ystyried fod gan
Gymru boblogaeth o 3m a Lloegr boblogaeth o 51m rhaid dweud fod hawlio traen
o’r gacen braidd yn farus, ac yn annhebygol iawn o ddigwydd!
Beth sy’n fwy tebygol yn fy nhyb i ydi
ryw fath o Devo-max i Gymru, fel sy’n cael ei gynnig yn yr Alban fel dewis
amgen i annibyniaeth. Fydda ddim angen yr un AS yn San Steffan wedyn - dim ond
un Ysgrifennydd etholedig, o bosib, i gynrychioli barn Cymru yn Llywodraeth Ganolog
y DU. Fel yr ydw i wedi ei ddweud
o’r blaen rydw i’n credu y dylai Cymru, yn ddelfrydol, fod yn annibynnol,
ond dyw Cymru ddim yn barod ar gyfer annibyniaeth ar hyn o bryd. Mae gan yr
Alban eu holew a’u whisgi i’w cynnal nhw drwy gyfnodau economaidd caled. Dydyn
ni ddim yn cyfrannu llawer o ddim i goffrau’r Trysorlys ac yn rhy ddibynnol o
lawer ar y sector gyhoeddus.
A dweud y gwir dw i’n meddwl efallai y dylai Alex Salmond
gynnig refferendwm ar Devo-max i bobol yr Alban hefyd, cyn annibyniaeth. Mae’r
polau piniwn yn dangos ei fod yn ddewis poblogaidd iawn yn y wlad, yn llawer
mwy poblogaidd nag annibyniaeth – a hynny er ei fod yn trosglwyddo 95% o’r
grymoedd o San Steffan i’r Alban. Y cyfan yw Devo-Max ydi annibyniaeth ond â safety blanket cael aros yn rhan o’r
Deyrnas Unedig. Mae gan Simon Jenkins erthygl
dda yn y Guardian ar y pwnc yma heddiw. Ynddo mae’n dadlau y byddai
Devo-Max yn ateb gofynion pobol y wlad am hunanreolaeth ac yn atal annibyniaeth.
Dw i ddim yn siŵr am hynny. Fel yr ydyn ni wedi gweld pan mae pobol yn cael
blas ar hunanreolaeth maen nhw’n tueddu i ofyn am ragor deg mlynedd yn
ddiweddarach.
Os yw’r Alban yn cael 95% o’r grym gan San Steffan, mater
bach wedyn fyddai darbwyllo pobol y dylid gofyn am y 5% ychwanegol. Efallai
y dylai Alex Salmond gymryd Devo-max nawr, tra ei fod yn cael ei gynnig ar blat iddo, gan wybod y
byddai refferendwm ar annibyniaeth lawn yn anochel yn y pen draw ac yn llawer mwy tebygol o lwyddo.
Mae yna ambell i bwynt da arall yn erthygl Simon Jenkins
sy’n amlygu rhai o fy mhryderon i am ddibyniaeth Cymru ar arian cyhoeddus, heb
y gallu i godi ein trethi ein hunain:
If the Scots want this, and polls suggest they do, what does it matter that it would "cost them billions", as the British media constantly crows? Denmark survives. Norway survives. Meanwhile the Scots, Welsh and Ulster economies are more akin to that of Greece, with spending decisions detached from taxing ones to the point of irresponsible dependency.Welsh nationalists want independence, yet they also want more subsidy and disproportionately high representation at Westminter.
Fel traean o’r seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi, felly? Hmmm...
Comments
Post a Comment