Wrth bori siop Amazon heddiw sylwais fod
Yr Argraff Gyntaf, yn ogystal â sawl nofel arall gan y Lolfa, bellach ar gael
ar y Kindle! Wyddwn i ddim pryd y digwyddodd hyn ond mae’n sicr yn gam cyffrous
ymlaen i’r cyfrwng, ac mae’n anrhydedd gweld fy nofel i ymysg y cyntaf sydd ar
werth yno.
Digwydd bod rydw i newydd gael tocyn £50
i’w wario ar y Kindle, a bydd rhai o’r llyfrau Cymraeg uchod yn sicr ar dop y
rhestr! Fe fuodd Euron
Griffith draw yn darllen rhan o’i nofel Dyn Pob Un i ni ym Mhrifysgol Bangor ac
roedd yn ddoniol iawn ac yn sicr werth ei brynu.
Newyddion Ardderchog!
ReplyDelete