Asgwrn cefn


Bwlch yr Oerddrws
“The shortest distance between two points is under construction” – Noelie Altito

Cyn parhau, dyma rybudd bach - rydw i’n ddyn sy’n hoff o freuddwydio am brosiectau mawr. Mewn bywyd arall efallai mai fi oedd yn gyfrifol am gomisiynu Mur Mawr Tseina, neu’r pyramidiau. Ond yn wahanol i’r prosiectau epig, ond diwerth, rheini, dw i’n credu fod y prosiect hwn yn un dra phwysig i Gymru.

Rydw i’n credu ei fod yn hanfodol adeiladu ffordd o safon rhwng de a gogledd Cymru. Na, dydw i ddim am ddadlau fod angen traffordd. Fe fyddai ffordd unffrwd â digon o le i oddiweddyd lorïau Mansel Davies yn gwneud y tro mewn ambell i fan arbennig o gul. Ond fe ddylai 95% o’r ffordd rhwng de a gogledd Cymru fod yn ffordd ddeuol, o leiaf.

Mae Cymru ymhell ar ei hol hi o’i gymharu â gwledydd eraill o ran cysylltiadau trafnidiaeth. Mae’r ffyrdd o’r gorllewin i’r dwyrain yn weddol ar y cyfan (yr M4 a’r A55). Ond mae unrhyw un sy’n anelu trwyn y car am y gogledd neu’r de yn mynd i fod yn gweithio’n galed. Mae’r llwybrau defaid yma’n perthyn i’r ganrif ddiwethaf. Maen nhw’n gul ac yn droellog. O ystyried natur amaethyddol y rhan fwyaf o ganolbarth Cymru mae hynny’n gyfuniad ofnadwy, am ei fod bron a bod yn amhosib pasio tractor neu drelar Ifor Williams. Mae hynny’n ychwanegu oedi pellach at daith sydd eisoes yn un hir a llafurus.

Dros y dyddiau diwethaf rydyn ni wedi cael cip ar gynlluniau trafnidiaeth rhai o wledydd eraill Ynysoedd Prydain. Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu adeiladu rheilffordd newydd £32bn rhwng Llundain a Birmingham – gan gynnwys twnnel £500 er mwyn bodloni Aelod Seneddol Chesham & Amersham (ac Ysgrifennydd Cymru) Cheryl Gillan.

Mae Llywodraeth yr Alban newydd ddatgelu cynllun £12.8 biliwn sy’n cynnwys gwaith i wella rhwydwaith ffyrdd y wlad. Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwneud ffyrdd yr A9 a’r A96 yn ffyrdd deuol. Mae’r A96 yn mynd o Inverness i Aberdeen, a’r A9 yn mynd o Perth i fyny drwy fynyddoedd y gogledd i Inverness. Dyw’r ffyrdd yma ddim yn cysylltu cymunedau mwy na rhai gogledd a de Cymru. Maen nhw’n mynd drwy dirwedd hyd yn oed yn fwy mynyddig nag Eryri. Ac mae arweinwyr busnes wedi croesawu’r cynlluniau yn wresog.

Beth am gymharu’r cynlluniau beiddgar rhain â chynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a ddatgelwyd ddoe? “Gosod un camera cylch cyfyng ar yr A465 yng Nghwm Clydach, gwella’r groesfan ar yr A458 yn y Trallwng, a rhoi rheilins newydd ar y bont droed ger y rheilffordd ar yr A487 ym Machynlleth.” Uchafbwynt y cynllun £13m fydd ailddatblygu cylchfan Abercynon. Maen nhw’n gobeithio y bydd y prosiectau uchelgeisiol yma wedi eu cwblhau erbyn 2014. Unwaith eto ceir pwyslais ar wella'r cysylltiadau rhwng y gorllewin a'r dwyrain.

A bod yn deg, roedd ymdrech lew yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf i wella’r cysylltiadau ffyrdd rhwng de a gogledd Cymru. Mae gennym ni ffordd osgoi newydd yn Llandysul a Phorthmadog, ac mae yna waith wedi ei wneud ar ledu maint y ffordd ger Machynlleth. Mae’n debyg mai dylanwad Ieuan Wyn Jones yn yr Adran Drafnidiaeth oedd hyn. Roedd y galw am y newidiadau hyn yn amlwg, ac fe ddylai’r gwaith fod wedi ei wneud degawdau yn ôl. Serch hynny cafodd IWJ ei feirniadu’n hallt gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru am beidio â chanolbwyntio ar wella’r cysylltiadau rhwng y gorllewin a’r dwyrain yn lle. Doedd ffyrdd o’r de i’r gogledd yn “ateb anghenion defnyddwyr,” medden nhw.

I ryw raddau rydw i’n deall eu pwynt nhw, ac yn deall pam fod pwyslais ar wella’r ffyrdd rhwng gorllewin a dwyrain Cymru. Wedi’r cwbl, mae Lloegr yn wlad gyfoethocach na Chymru ac mae’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n seiliedig yng Nghymru yn gweithredu dros Glawdd Offa.  Ond beth am feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ am eiliad.

Os nad oes ffyrdd o safon yn mynd o’r gogledd i’r de, oes yna unrhyw syndod fod yr holl draffig, a’r holl fusnes, yn llifo o’r gorllewin i’r dwyrain? Fe fyddai yn amhosib cynnal busnes o, dweud, Aberystwyth, sy’n gwasanaethu Abertawe a Llandudno. Dyw’r ffyrdd ddim yn ddigon da. Yng Nghymru mae gennym ni lawer iawn o bobol yn byw yn y gogledd, a llawer iawn yn byw yn y de, a phentrefi a threfi marchnad ar wasgar yn y difethwch rhwng y ddau begwn. Mae yna fusnesau yn nhrefi’r canolbarth, ond rhai bach ydyn nhw ar y cyfan sy’n gwasanaethu anghenion y cymunedau o’u cwmpas yn unig. Pe bai yna rwydwaith ffyrdd o safon yn mynd drwy’r canolbarth fe fyddai modd ehangu potensial economaidd y trefi yma a sefydlu busnesau sy’n gwasanaethu anghenion Cymru gyfan yn hytrach na’r gogledd, neu’r de, neu’r pentrefi lleol yn y canolbarth, yn unig.

Mae’r ddadl nad oes galw am ffordd o safon drwy ganol Cymru yn Catch-22, felly. Byddai ffordd yn creu’r galw. Wele’r llun isod o’r M25 yn 1983 ac yna yn 2009:



Mae busnesau a chymunedau cyfan yn bodoli heddiw oherwydd fod yr M25, a traffyrdd tebyg, wedi creu’r galw. Yng Nghymru rhaid disgwyl nes bod ceir a loriau yn tagu canol trefi cyn ystyried adeiladu ffordd osgoi.

Yn ogystal â dadl economaidd mae yna ddadl genedlaetholgar o blaid adeiladu ffordd o dde i ogledd Cymru. Er gwaethaf datganoli mae’n parhau yn wir fod cysylltiadau cryfach gan ogledd Cymru â dinasoedd y tu hwnt i’r ffin yn Lloegr na sydd â dinasoedd y de. Dywed sawl un mai ‘Lerpwl yw prifddinas gogledd Cymru’. Mae’r un peth yn wir am dde Cymru a dinasoedd ar hyd yr M4 i Lundain. Mae’r map uchod, sy’n dangos daearyddiaeth galwadau ffôn Ynysoedd Prydain, yn awgrymu hyn yn gryf:



Er gwaethaf canlyniad y refferendwm ym mis Mai sy’n awgrymu fod Cymru gyfan bellach yn cefnogi’r Cynulliad Cenedlaethol, rydyn ni’n parhau yn wlad ranedig. Serch hynny does yna ddim unrhyw wahaniaeth mawr rhwng y ‘gogs’ a’r ‘hwntws’. A dweud y gwir yn ddiwylliannol rydw ‘n credu bod fwy o wahaniaeth rhwng gorllewin a dwyrain Cymru na’r de a’r gogledd. Y broblem sydd wrth wraidd y diffyg cydlynrwydd cenedlaethol yma yw bod y ffyrdd rhwng y de a’r gogledd yn rhai ofnadwy o wael. Fyddai neb o Gaernarfon yn ystyried pigo i lawr i Gaerdydd i wneud ei siopa yn hytrach na Chaer neu Lerpwl, oherwydd bod cyrraedd yno’n gymaint o frwydr. Fe fyddai ffordd ddeuol rhwng y de a’r gogledd yn gwneud mwy i sicrhau fod ‘Cymru’n Un’ nag unrhyw gytundeb gwleidyddol.

Raid ystyried y gost o adeiladu ffordd o’r fath, a does dim amheuaeth y byddai’r gost yn uchel. Mae pob milltir o ffordd ddeuol yn costio £16.2 miliwn i’w adeiladu. Petai Lywodraeth Cymru yn penderfynu ar y dewis ceidwadol a throi'r A470 yn ffordd ddeuol, fe fyddai yn costio tua £2.5 biliwn i wneud hynny. Mae hynny’n lawer iawn o arian, ond ni fyddai angen ei dalu mewn un swm. Petai’r llywodraeth yn targedu cwblhau’r gwaith tua 2025 (yr un pryd ag y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cwblhau eu ffordd ddeuol nhw o Perth i Inverness), fe fyddai’r gost yn fawr ond yn ddigon ymarferol. Wedi’r cwbl, mae’r Alban newydd gyhoeddi eu bod nhw am wario £12.8 biliwn ar wella isadeiledd y wlad, a Llywodraeth San Steffan am wario £32 biliwn ar arbed ugain munud ar y siwrne trên o Firmingham i Lundain, felly pam na ddylai Cymru wario arian tebyg ar wella ei ffyrdd? Fe fyddai yn well ddefnydd o arian y trethdalwr na'r awyren o Gaerdydd i Ynys Môn, yn sicr.

Un gwrthwynebiad arall yr ydw i’n ei glywed droeon wrth ddadlau fod angen gwella trafnidiaeth ffyrdd Cymru yw nad oes modd gwneud hyn oherwydd bod Cymru’n wlad fynyddig. Mae’r ffyrdd fel y maen nhw, yn gul ac yn droellog, am nad oes modd iddynt fod fel arall. Platiau tectonig a rhewlifau o filoedd o flynyddoedd yn ôl sy’n penderfynu eu cwrs. Mae hyn yn lol. Wrth adeiladu ffyrdd mae’n rhaid addasu’r tirwedd. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod ar draffordd, neu hyd yn oed ffordd ddeuol, sydd ar yr un lefel a’r dirwedd o’i amgylch? Dydyn nhw ddim yn mynd i fyny ac i lawr gydag ymdoniad y tir na chwaith yn gwyro i bob cyfeiriad er mwyn osgoi ryw fryncyn neu ei gilydd. Mae hyd yn oed y llwybrau defaid sy’n dringo i fyny mynyddoedd y gogledd wedi eu torri o’r clogwyni gan ddyn. Gyda jac codi baw a digon o amser gellid gosod traffordd i fyny’r Wyddfa. (Dydw i ddim yn argymell hyn wrth gwrs).

Mae diogelwch yn ddadl arall o blaid adeiladu ffordd o safon o de i ogledd Cymru. Mae’r A470, â’i gyfuniad eclectig o heolydd syth a throellog yn fwy peryg o lawer na ffordd ddeuol ‘undonog’. Mae’r map yma gan y BBC sy’n dangos lleoliad pob marwolaeth ar y ffyrdd rhwng 1999 a 2010 yn awgrymu’n gryf fod nifer anghymesur yn digwydd ar ffyrdd cefn gwlad troellog.

Rydw i wedi galw’r blog yma yn ‘asgwrn cefn’ am ddau reswm. Yn gyntaf am fy mod i’n credu y byddai’r ffordd ddeuol yn fath o ‘asgwrn cefn’ fyddai yn cryfhau Cymru. Ac yn ail oherwydd y byddai angen rhywfaint o asgwrn cefn ar Lywodraeth Cymru i’w gomisiynu!

Os nad ydych chi eisoes wedi eich argyhoeddi, dyma rai traffyrdd llawer mwy uchelgeisiol o bob cwr o'r byd: Traffordd 1 Awstralia, Traffordd Traws-Siberia, a Thraffordd Traws-Canada.

Llwybr y ffordd

Y dewis mwyaf amlwg i Lywodraeth Cymru fyddai adeiladu ffordd ddeuol ar hyd llwybr presennol yr A470. Byddai yn rhai adeiladu ffyrdd osgoi o amgylch ambell i dref wrth gwrs. Ond byddai hyn yn darparu llwybr gweddol hwylus o Gaerdydd i Landudno. Fe fyddwn i’n ddigon hapus â hyn.



Mae’r cynlluniau eraill ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn golygu creu ffordd gyfan gwbl newydd. Yn hytrach na mynd drwy dir uchel gogledd Cymru fe fyddai yn cymryd mantais o’r tir isel ar yr arfordir er mwyn creu llwybr uniongyrchol o’r de ddwyrain i’r gogledd orllewin.



Fe fyddai’r cynllun yma’n siŵr o fod yn un dadleuol am ei fod yn golygu adeiladu pont ar draws tri aber ar hyd arfordir y gorllewin. Ond rhaid cofio fod pontydd eisoes yn bodoli ar hyd dau o’r aberoedd hyn. Mae pont ffordd (cul iawn) a thrên yn croesi’r dyfroedd rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau ac mae pont trên yn croesi’r aber rhwng y Bermo a Llwyngwril. Byddai croesi’r aberoedd hyn yn golygu fod ffordd llawer mwy uniongyrchol o Aberystwyth i Borthmadog, a gelir gwneud y ffordd o Borthmadog i Fangor yn ffordd ddeuol gan gysylltu â ffordd ddeuol yr A55, gan ychwanegu ffordd osgoi ar gyrion Caernarfon.

Elfen ddadleuon arall yn y cynllun yma yw y byddai yn golygu croesi ‘Anialwch Cymru’ yn y canolbarth. O ystyried fod yr anialwch hwn ar fin gael ei hagru gan filoedd o dyrbinau gwynt beth bynnag, efallai na fyddai un ffordd ddeuol ar ei draws yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i naws y lle. Serch hynny mae yna drydydd opsiwn ar gael:



Mae’r cynllun yma i bob pwrpas yn cysylltu diwedd ffordd ddeuol yr A48, ffordd ddeuol sy’n estyniad o’r M4, â dechrau’r A55 ym Mangor. Fe fyddai hefyd yn creu ffordd osgoi i Lambed ac Aberystwyth.

Dim ond syniadau yw’r rhain er mwyn sbarduno trafodaeth wrth gwrs a petai'r cynlluniau i adeiladu ffordd ddeuol yn cael eu dilysu dw i’n siŵr y byddai llwybrau amgen yn cael eu cynnig!

O.N. Os rhoi'r pwyslais ar ffyrdd o'r dwyrain i'r gorllewin, pam ddim creu ffordd o safon o Aberystwyth a chanolbarth Cymru i'r ail ddinas fwyaf ym Mhrydain, sef Birmingham? Ar ôl gorffen y ffordd o’r de i’r gogledd, fe ddylai hyn fod yn flaenoriaeth!

Comments

  1. Dwi o blaid gwella'r cysylltiadau rhwng y de a'r gogledd.
    Ond IeuanAir-nonsens. Lol. Camgymeriad o'r cychwyn cyntaf. Ol-troed carbon...
    Gwella'r A470? Dim mwy o anharddu Cymru os gwelwch yn dda. Mae harddwch Cymru yn bwysicach i mi na mynd o A i B mor gyflym a phosib. Dwi'n teimlo'n gryf iawn ynghylch hyn.

    Cymharwch fap cyfredol o Gymru hefo un e.e. hanner can mlynedd oed- mae'r llefydd anial hyfryd yn prysur ddiflannu. Mae gennym lai o lefydd anghyfannedd hyfryd na e.e. Yr Alban.

    Gwleidyddion yn gallu cysgu'r nos? Ceir rhesymau dilys dros greu lon newydd a gwella ffordd e.e. ffordd yn arwain at ysbyty a diogelwch plant yn ymyl ysgol. Ond rheswm= mynd o A i B yn gyflymach? Nonsens pur.

    Mae angen e.e. gwell gwasanaeth bysus (TrawsCambria), hefyd gwell prisiau tren.

    'Roedd e.e. Popeth yn Wyrdd ar S4C yn gyfres deledu reit ddifyr. Dylai pobl wylio'r rhaglenni eto cyn dadlau o blaid lonydd newydd yng Nghymru.
    Y caswir am bobl mewn ceir- llawer yn rhy ystyfnig a snobyddlyd i ddefnyddio bysus yn aml. Pe bai mwy yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus yna ni fyddai angen lonydd newydd o hyd ac o hyd.

    Maes trafnidiaeth yn y Cynulliad- dylai pob gweinidog (presennol ac yn y dyfodol) ddefnyddio bysus a threnau mor aml a phosibl-neu ymddiswyddo. Syml.


    Pob parch i ti Ifan- ond un peth sydd wedi fy ngwylltio i dro ar ol tro yn Golwg ydi pobl (hunanol yn y pendraw) yn cwyno am yr A470- eisiau cyrraedd Caerdydd yn gynt.

    Nid yw'r ffaith fod yr A55 yn y gogledd yn y bon yn rhywbeth hyll yn cyfiawnhau troi yr A470 hefyd yn beth hyll.
    'Rwy'n ofni y bydd "gwella" yr A470 yn parhau i fod yn grwsad twp gan Blaid Cymru yn y Cynulliad am flynyddoedd i ddod.Martin

    ReplyDelete
  2. Martin, mae'n dibynnu os wyt ti eisiau i Cymru fod yn barc cenedlaethol mawr heb ei sbwylio gan ddyn, ynteu yn wlad sy'n ffynnu. Os nad wyt ti eisiau dinistrio harddwch Cymru, efallai y byddai yn beth gwell os na fyddai unrhyw un yn byw yma o gwbwl.

    Dydw i ddim am wneud unrhyw ddrwg i tirwedd Cymru, a dydw i ddim yn credu y byddai lledu’r A470 yn gwneud hynny. Mae’r ffordd yno beth bynnag – byddai dau hewl ychwanegol ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i harddwch y tirwedd o boptu iddo.

    Nid mater o ‘gyrraedd Caerdydd 5 munud ynghynt yw hwn’. Wyt ti wedi darllen yr erthygl uchod? Gyda gwell cysylltiadau trafnidiaeth fe fyddai yr ardal yn denu rhagor o fusnesau, a fyddai yn cynnig gwaith ac yn codi safon byw pobol Cymru. Byddai hefyd yn gwneud i Gymru deimlo fel un gwlad cyflawn yn hytrach na dwy ranbarth â rhaniad yn y canol – sy’n beth da o safbwynt y cenedlaetholwr.

    Fe fyddai gwella’r ffyrdd yn gwella trafnidiaeth cyhoeddus hefyd. Mae bysys yn teithio ar ffyrdd, yr un fath a cheir.

    ReplyDelete
  3. Cytuno lot fawr ar blog yma. Wedi clywed dadl yn erbyn ffordd de - gogledd yw oherwydd fod Cymru rhy mynyddig! Rhy mynyddig? Dwi di bod i Swisdir a Awstria lle mae yna ffyrdd ardderchog ar uchder dros 9,000 o droedfeddi. So nonsens yw'r dadl yno.

    ReplyDelete
  4. Mae pris tocynnau tren wedi cynyddu eto! Peidiwch a disgwyl i'r Ceidwadwyr yn Llundain boeni am hyn. Ac mae rhai o'r twpsod Toriaidd yma eisiau codi'r uchafswm cyflymder ar rai o draffyrdd Prydain.
    Ta waeth, ynglyn a Chymru- diolch i'r drefn mai ond un draffordd sydd gennym yma yng Nghymru.
    Dwi o blaid- cysylltiadau tren gorau posibl rhwng y Cymoedd a Chaerdydd, gostwng pris tocyn tren rhwng Gogs a Chaerdydd...
    A chofier yr hyn a wnaeth Beeching i Gymru a Phrydain. Blydi fandal.
    Canmoliaeth i'r Cynulliad- pas bys am ddim i'r henoed wedi golygu llai o siwrneai car. Da iawn.

    Yn olaf, roedd hi'n braf iawn gallu trafeilio ar y tren o Gaerdydd i Lyn Ebwy yn ystod wythnos y Brifwyl. Gwaith da gan y Cynulliad.

    ReplyDelete
  5. Dwi'n amau fydd y gost yn llawer uwch na'r hyn rwyt ti wedi ei gynnig - £16.2 milliwn ydy ar gyfer ychwanegu 2 ffrwd ychwanegol i ffordd sengl - rwyt ti'n son am adeiladu ffordd o'r newydd (bydd hi'm yn ymarferol 'ychwanegu' ffrwd newydd i'r A470!) lle bydd angen pontydd newydd, 'cuttings', twneli, cryfhau ochr y ffordd...

    Efallai bydd posib deuoli'r ffordd e.e. rhwng Caernarfon a Phorthmadog, o gwmpas Trawsfynydd rhai ardaloedd yn y canolbarth, ond mewn ardaleodd fel Bwlch Tal-y-llyn (hwnnw yn y llun, nid yr Oerddrws 'di o!) mae'r gost - heb son am ei effaith ar y tirlun - yn mynd yn enfawr. A bydd symud y ffordd i'r arfordir ddim llawer haws - mae'r ffordd mwy neu lai ar yr arfordir fel mai rhwng Harlech ac Aberdyfi!

    Ac alli di'm wfftio'r tirlun - ti'n hel llwythi o dwristiaid o'r wlad wrth blannu ffordd ddeuol drwy'n ardaloedd hardda ni!

    Ar ddiwedd y dydd, gan fod y boblogaeth fwya' yn Lloegr, cysylltiadau Gorllewin-Dwyrain a fydd y rhai pwysica' - hydnoed ar ôl adeiladu ffordd newydd rhwng Gogledd a De fydd hi'n gyflymach teithio i'r Gorllewin-Dwyrain.

    Cyflymu'r daith dren rhwng Caergybi a Chaerdydd ddylai fod ar flaen yr agenda - rhatach o bell ffordd byddai trdyanu'r lein honno!

    ReplyDelete
  6. Y gost £16m y milltir o ychwanegu ffrwd newydd i'r A470 presenol oeddwn i'n cyfeirio ato. Dw i ddim yn gweld beth fyddai yn anymarferol am wneud hyn. Yn amlwg byddai angen adeiladu ffordd osgoi heibio ardaloedd lle mae yna lawer o dai ar ochor y ffordd, ond fel arall gellid torri drwy'r tir yn ddigon rhwydd. Mae adeiladu pob ffordd yn golygu addasu'r tirwedd i ryw raddau. Heb fod wedi addasu'r tirwedd yn sylweddol yn barod fyddai yr A470 ddim wedi gallu croesi o Fachynlleth i Ddolgellau, na chroesi sawl ardal fryniog arall, o gwbwl.

    O ran yr effaith ar y tirlun - dw i ddim yn awgrymu chwalu unrhyw fynyddoedd na llynoedd fan hyn. Mae'r tir y mae'r ffordd yn ei groesi eisoes wedi ei 'ddifetha' oherwydd bod ffordd yno yn y lle cyntaf. Ni fyddai deuoli'r ffordd hwnnw yn newid y tirlun o amgylch y ffordd, y mynyddoedd, llynoedd ayyb y mae'r twristiaid yn dod i Gymru i'w gweld. Ac drwy wella'r ffordd bydd y twristiaid yn ei gael yn llawer haws mynd o le i le a lledaenu eu cyfoeth o amgylch Cymru.

    Dw i ddim yn dadlau nad y cysylltiadau Gorllewin-Dwyrain fydd y rhai pwysicaf o hyd. Dw i ddim yn awgrymu y dylid eu datgymalu. Ond dyw eu pwysigrwydd nhw ddim yn golygu na ddylid gwella y cysylltiadau gogledd-de, ac na allai'r rheini fod yn bwysig hefyd.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Helo, sut wyt ti? Mae gennyf gyfalaf y gellir ei ddefnyddio i ddarparu cyllid tymor byr neu hirdymor i unrhyw un sydd ei angen. Cysylltwch â mi os oes gennych ddiddordeb drwy'r post: bessierealain006@gmail.com neu drwy whatsapp: +33756836227

      Delete
  7. Efallai y ffordd orau i fynd o'i cwmpas hi byddai lledu a sythu'r ffordd mewn mannau lle mae hi'n anodd goddiweddyd ar hyn o bryd - does dim, a bydd dim llawer o draffig rhwng Gogledd a De oherwydd y cysylltiadau llawer cryfach sydd rhwng Gorllewin a Dwyrain. Mae'n gywir i ti ddweud bod angen 'addasu'r tir i ryw raddau' gyda unrhyw ffyrdd, ond mae tirwedd Cymru yn golygu bod hi'n llawer anoddach gwneud hyn na, canolbarth Lloegr, er enghraifft - fel ddywedais i, wrth dorri mewn i garreg bydd angen cryfhau'r garreg uwchben wedyn, a chryfhau'r ffordd oddi tani - llawer iawn o dyllu yn gyffredinol os wyt ti i'r ffordd ddeuol ti'n gynnig fod yn llyfn ac ddim ar yr un lefel a'r tirwedd o'i amgylch.

    Gan bod y ffyrdd sydd gennym ar hyn o bryd, e.e. dros Fwlch yr Oerddrws a Bwlch Tal-y-llyn yn dilyn siap y tirwedd o'i amgylch, nid yw ei effaith yn enbyd i gymharu â ffordd ddeuol syth ar 'embankment' neu 'cutting' dros neu drwy'r tir! Nid yw'r llun yn yn del iawn a deud y lleia!

    ReplyDelete
  8. Diolch am y sylw.

    “Does dim, a bydd dim llawer o draffig rhwng Gogledd a De oherwydd y cysylltiadau llawer cryfach sydd rhwng Gorllewin a Dwyrain.”

    Does dim llawer o draffic rhwng y De a’r Gogs oherwydd bod y ffordd mor wael. Petai’r M4 o’r un safon a’r A470 ni fyddai yna cymaint o bobol yn ei ddefnyddio, a fydden ni heb weld y twf economaidd yr yden ni wedi ei weld ar hyd coridor yr M4 ers y 90au. Mae darparu ffyrdd o safon yn hwb i dwf economaidd – mae hyn yn ffaith. Byddai creu ffordd o safon rhwng y gogledd a’r de yn arwain at fuddsoddi arian mewn mentrau sy’n gwneud defnydd o’r ffordd, gan arwain at dwf economaidd ar hyd bob cam o’r ffordd.

    “Mae'n gywir i ti ddweud bod angen 'addasu'r tir i ryw raddau' gyda unrhyw ffyrdd, ond mae tirwedd Cymru yn golygu bod hi'n llawer anoddach gwneud hyn na, canolbarth Lloegr, er enghraifft.”

    Wrth gwrs y byddai yn ‘anoddach’. Dyw hynny ddim yn golygu na ddylai gael ei wneud. Gwaith yr adeiladwyr a’r peirianwyr yw crafu pen a datrys sut orau i fynd o’i chwmpas hi. Yr un her fydd yn wynebu peirianwyr yr Alban sydd ar hyn o bryd yn bwrw ati i greu ffordd ddeuol drwy’r mynyddoedd o Perth i Inverness. Mae yna draffyrdd braf iawn yn croesi’r Alpau yn y Swistir ers y 60au – camp llawer anoddach na adeiladu ffordd ddeuol drwy Fwlch yr Oerddrws.

    ReplyDelete
  9. Ydych chi mewn unrhyw anawsterau ariannol? Ydych chi angen
    benthyciad i ddechrau busnes neu i dalu eich biliau?
    Rydym yn darparu benthyciadau i bobl sydd angen help, ac rydym yn rhoi benthyg i gwmnïau lleol, rhyngwladol a hefyd ar gyfradd llog isel iawn o 2%.
    Gwnewch gais nawr Drwy e-bost: victoriamichaelloanfirm@gmail.com
    Diolch
    Diolch a Dduw bendithia
    Mrs. Victoria

    ReplyDelete
  10. NADOLIG NADOLIG LOAN

    Rydym yn cynnig pob math Benthyciad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben benthyciad newydd /, Benthyciad Personol, Real Estate, Cynllun busnes, Adnewyddu, isadeiledd, Hotel, Benthyciad Buddsoddi ETC ar gyfradd llog isel o 2% .want i ddiolch i Mr. Lake Cook, i roi credyd i mi . Gwelais dystiolaeth dda o hynny ar-lein. Cymerais benthyciad gan y cwmni ac yn llai na 24 awr yr wyf yn derbyn credyd. Os ydych angen benthyciad ar frys, wneud cais am fenthyciad cyflym e-bost - lakecook07@gmail.com

    NADOLIG NADOLIG LOAN

    ReplyDelete
  11. Hello, yr wyf Mr Jonathan Albert Mak, benthyciwr benthyciad preifat sy'n rhoi benthyciadau cyfle amser bywyd. Mae angen i chi gael benthyciad ar frys i glirio eich dyledion, neu os ydych angen benthyciad cyfalaf ar gyfer eich busnes? Rydych wedi cael eich gwrthod gan fanciau a sefydliadau ariannol eraill? Angen benthyciad cyfuno neu forgais? Chwilio dim mwy, gan ein bod yma i wneud eich holl drafferthion ariannol yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Rydym yn benthyg arian gan unigolion sydd angen cymorth ariannol, sydd â credyd gwael neu os oes angen arian i dalu biliau, i fuddsoddi yn y busnes yn y swm o 2%. Rwyf eisiau defnyddio'r cyfrwng hwn i roi gwybod i chi ein bod yn rhoi cymorth dibynadwy a buddiolwyr a bydd yn cynnig benthyciad. diolch i chi, cysylltwch â ni heddiw yn: jonathanalbertmak@gmail.com
    jonathanalbert88@outlook.com

    ReplyDelete
  12. En busca de un préstamo de negocios, préstamos personales, préstamos de automóviles, préstamos de consolidación de deudas, préstamos sin garantía, equidad, riesgo, etc ... o le han negado un préstamo de un banco o una institución financiera. Préstamo que desea y una tasa de interés asequible del 2%, la persona interesada debe mantenerse en contacto con nosotros hoy transferimos los préstamos en 48 horas de contacto por christiworldpersonal@gmail.com

    ReplyDelete
  13. En busca de un préstamo de negocios, préstamos personales, préstamos de automóviles, préstamos de consolidación de deudas, préstamos sin garantía, equidad, riesgo, etc ... o le han negado un préstamo de un banco o una institución financiera. Préstamo que desea y una tasa de interés asequible del 2%, la persona interesada debe mantenerse en contacto con nosotros hoy transferimos los préstamos en 48 horas de contacto por christiworldpersonal@gmail.com

    ReplyDelete
  14. Contact Us:+1-6474-864-724 (Call/Whats app)

    Do you need Personal Loan?
    Business Cash Loan?
    Unsecured Loan
    Fast and Simple Loan?
    Quick Application Process?
    Approvals within 24-72 Hours?
    No Hidden Fees Loan?
    Funding in less than 1 Week?
    Get unsecured working capital?
    Contact Us At :oceancashcapital@gmail.com
    Website http://oceancashmj.com
    Phone number :+1-6474-864-724 (Call/Whats app)

    LOAN SERVICES AVAILABLE INCLUDE:
    ================================
    *Commercial Loans.
    *Personal Loans.
    *Business Loans.
    *Investments Loans.
    *Development Loans.
    *Acquisition Loans .
    *Construction loans.
    *Business Loans And many More:

    LOAN APPLICATION FORM:
    =================
    Full Name:................
    Loan Amount Needed:.
    Purpose of loan:.......
    Loan Duration:..
    Gender:.............
    Marital status:....
    Location:..........
    Home Address:..
    City:............
    Country:......
    Phone:..........
    Mobile / Cell:....
    Occupation:......
    Monthly Income:....

    Contact Us At :oceancashcapital@gmail.com
    Website http://oceancashmj.com
    Phone Number:+1-6474-864-724 (Call/Whats app)

    ReplyDelete
  15. Cysylltwch â ni: + 1-6474-864-724 (galwad/Whats ap)

    Angen benthyciad personol chi?
    Benthyciad arian parod busnes?
    Benthyciad heb ei warantu
    Benthyciadau cyflym a syml?
    Broses o wneud cais cyflym?
    Cymeradwyaeth o fewn 24-72 awr?
    Oes benthyciad ffioedd cudd?
    Arian yn llai nag 1 wythnos?
    Anwarantedig cyfalaf gweithio ar gael?
    Cysylltwch â ni yn:oceancashcapital@gmail.com
    Gwefan http://oceancashmj.com
    Rhif ffôn: + 1-6474-864-724 (galwad/Whats ap)

    MAE GWASANAETHAU BENTHYCA SYDD AR GAEL YN CYNNWYS:
    ================================
    * Benthyciadau masnachol.
    * Benthyciadau personol.
    * Benthyciadau busnes.
    * Buddsoddiadau benthyciadau.
    * Datblygu benthyciadau.
    * Caffael benthyciadau.
    * Adeiladu benthyciadau.
    * Benthyciadau busnes a llawer mwy:

    FFURFLEN GAIS BENTHYCIAD:
    =================
    Enw llawn:...
    Benthyciad swm sydd ei angen:.
    Pwrpas y benthyciad:...
    Hyd y benthyciad:...
    Rhyw:...
    Statws priodasol:...
    Lleoliad:...
    Cyfeiriad cartref:...
    Dinas:...
    Gwlad:...
    Ffôn:...
    Symudol / celloedd:...
    Meddiannaeth:...
    Incwm misol:...

    Cysylltwch â ni yn:oceancashcapital@gmail.com
    Gwefan http://oceancashmj.com
    Rhif ffôn: + 1-6474-864-724 (galwad/Whats ap)

    ReplyDelete
  16. Helo, sut wyt ti? Mae gennyf gyfalaf y gellir ei ddefnyddio i ddarparu cyllid tymor byr neu hirdymor i unrhyw un sydd ei angen. Cysylltwch â mi os oes gennych ddiddordeb drwy'r post: bessierealain006@gmail.com neu drwy whatsapp: +33756836227

    ReplyDelete
  17. Helo, sut wyt ti? Mae gennyf gyfalaf y gellir ei ddefnyddio i ddarparu cyllid tymor byr neu hirdymor i unrhyw un sydd ei angen. Cysylltwch â mi os oes gennych ddiddordeb drwy'r post: bessierealain006@gmail.com neu drwy whatsapp: +33756836227

    ReplyDelete
  18. Ydych chi mewn argyfwng ariannol, yn chwilio am arian i ddechrau'ch busnes eich hun neu i dalu eich biliau ?, Mae Benthyciad PayLATER yn cael pob math o fenthyciadau ar gyfradd llog isel o 2% Gwneud cais nawr trwy e-bost yn: ( paylaterloan@zoho.com ) NEU WhatsApp ( +1 929 222 7518 )

    ReplyDelete
  19. Mae hyn er mwyn eich hysbysu ein bod yn cynnig cyfradd flynyddol Benthyciad (Busnes, Personol, Cydgrynhoi, Car, Buddsoddi, ac ati) @ 3%. A oes angen benthyciad arnoch ac wedi cael eich gwrthod gan eich banc oherwydd credyd gwael? Oes gennych chi filiau heb eu talu neu mewn dyled? Rydym yn gyflym ac yn ddibynadwy a gonestrwydd yw ein gair gwylio.

    FFURFLEN CAIS LLENWI
    Eich Enw yn llawn: Cyfeiriad: Rhyw: Swm Angenrheidiol: Hyd: Gwlad: Galwedigaeth: Rhif ffôn: Pwrpas y benthyciad:

    Cofion cynnes,
    E-bostiwch Ni: bryanstefanloanfirm@gmail.com neu whatsapp: +919654763221
    Bryan Stefan (Prif Swyddog Gweithredol)
    Cwmni Buddsoddi Bryan

    ReplyDelete
  20. Mae hyn er mwyn eich hysbysu ein bod yn cynnig cyfradd flynyddol Benthyciad (Busnes, Personol, Cydgrynhoi, Car, Buddsoddi, ac ati) @ 3%. A oes angen benthyciad arnoch ac wedi cael eich gwrthod gan eich banc oherwydd credyd gwael? Oes gennych chi filiau heb eu talu neu mewn dyled? Rydym yn gyflym ac yn ddibynadwy a gonestrwydd yw ein gair gwylio.

    FFURFLEN CAIS LLENWI
    Eich Enw yn llawn: Cyfeiriad: Rhyw: Swm Angenrheidiol: Hyd: Gwlad: Galwedigaeth: Rhif ffôn: Pwrpas y benthyciad:

    Cofion cynnes,
    E-bostiwch Ni: bryanstefanloanfirm@gmail.com neu whatsapp: +919654763221
    Bryan Stefan (Prif Swyddog Gweithredol)
    Cwmni Buddsoddi Bryan

    ReplyDelete
  21. Good day Sir/Madam,

    This message is to inform you that MIKE MORGAN LOAN FINANCIER offer all types of L0ANS @ 3% annual rate. Are you in need of financing of any type? Business, Mortgage, Personal etc. Any interested Applicants should get back to US VIA
    EMAIL: muthooth.finance@gmail.com
    Call or add us on what's App +91-7428831341

    ReplyDelete
  22. FINANCIAL AID

    Restart your business

    Good day Mr. / Mrs,

    As a result of the losses, bankruptcies, and damage that the whole world has suffered against Coronavirus (COVID-19), we offer financing and loans with the aim of refinancing your various activities and projects at low rates.

    If you feel the need, please contact me for more informations by :

    Whatsapp: +33756914624
    E-mail: vousfinancer.paris@pm.me

    Best regards!??

    ReplyDelete
  23. Mae hyn er mwyn eich hysbysu ein bod yn cynnig cyfradd flynyddol Benthyciad (Busnes, Personol, Cydgrynhoi, Car, Buddsoddi, ac ati) @ 3%. A oes angen benthyciad arnoch ac wedi cael eich gwrthod gan eich banc oherwydd credyd gwael? Oes gennych chi filiau heb eu talu neu mewn dyled? Rydym yn gyflym ac yn ddibynadwy a gonestrwydd yw ein gair gwylio.

    FFURFLEN CAIS LLENWI
    Eich Enw yn llawn: Cyfeiriad: Rhyw: Swm Angenrheidiol: Hyd: Gwlad: Galwedigaeth: Rhif ffôn: Pwrpas y benthyciad:

    Cofion cynnes,
    Ben Rogers (Prif Swyddog Gweithredol)
    E-bostiwch Ni: atlantagroupfinancefirm@gmail.com neu
    whatsapp: +919654763221
    Ben Rogers (Prif Swyddog Gweithredol)
    Cwmni Buddsoddi Ben

    ReplyDelete
  24. Dewch nawr i gael benthyciad brys yn fredlarryloanfirm@gmail.com
    Yma rydym yn barod i brosesu'ch benthyciad

    Diwrnod da,

    Ydych chi'n ddyn neu'n fenyw fusnes? Mae amser i gyflawni eich breuddwyd wedi dod, rydym yn gwmni benthyciadau ardystiedig, rydym yn cynnig benthyciadau ar gyfradd llog isel o 3%, I unigolion a chwmnïau ledled y byd, mewn unrhyw arian cyfred rydych chi ei eisiau, punnoedd, doler, Ewro ac ati.

    Dibynnu arnom heddiw am fenthyciad cyflym a gwarantedig
    cysylltwch â ni trwy
    E-bost: (fredlarryloanfirm@gmail.com) neu (fredlarryloanfirm@hotmail.com)
    Rhif Whatsapp: +967737371424

    ReplyDelete
  25. Oes angen benthyciad arnoch chi? Ydych chi'n ddyn neu'n fenyw busnes ac angen benthyciad i roi hwb i'ch busnes ?? Oes angen cyfalaf arnoch i ddechrau busnes? Beth bynnag yw eich problemau credyd, rydym yn dod at eich cymorth yma wrth i ni gynnig benthyciadau i unigolion a chwmnïau ar gyfradd llog isel a fforddiadwy. Sicrhewch fenthyciad heddiw E-bost: edensmarianloanservices@gmail.com neu whatsapp +1 (725) 252-2518

    ReplyDelete
  26. HAVE YOU LOST YOUR MONEY TO BINARY OPTION SCAM OR ANY ONLINE SCAM WHATSOEVER?.DO YOUR DESIRE CREDIT REPAIR[EQUIFAX, EXPERIAN, TRANSUNION? WELL, YOU HAVE FOUND REDEMPTION.


    BEWARE OF FRAUDSTERS looking to hoax.
    if you have been a VICTIM, contactEmail:creditcards.creditscoreupgrade@gmail.com
    whatsapp:+1(437) 536-6082 for directives.
    Here, it's always a win for you.

    ��OUR SERVICES��
    Binary Option funds recovery
    Social media hack
    Recovery of loan scam
    Credit repair (Equifax,Experian,Transunion)
    Email hack
    College score upgrade
    Android & iPhone Hack
    Website design
    Website hack
    And lots more.
    We have specially programmed ATMs that can be used to withdraw money at ATMs, shops and points of sale. We sell these cards to all our customers and interested buyers all over the world, the cards have a withdrawal limit every week.

    CONTACT INFO:
    Email:creditcards.creditscoreupgrade@gmail.com
    whatsapp:+1(437) 536-6082
    Copyright ©️ 2022.

    ReplyDelete

Post a Comment