Newyddiadurwr ydw i, yn y bon, nid gwleidydd. Fy
swyddogaeth i mewn bywyd yw cadw llygad, gofyn cwestiynau anodd, a chyhoeddi
straeon nad ydi rhywun, rhywle, am i fi eu cyhoeddi. Mae’n help yn hynny o beth
fy mod i’n eithaf diduedd – rydw ‘n gallu gweld rhinwedd a gwallau ym mhob un
o’r prif bleidiau yng Nghymru, ac wedi ystyried cefnogi pob un ohonyn nhw ar
ryw gyfnod (ie, hyd yn oed y Dems Rhydd). Pan oeddwn i’n golygu Golwg 360 roedd
pobol yn aml yn cyhuddo’r wefan o ffafrio Plaid Cymru am ein bod ni’n gwneud straeon
yn adrodd barn Ieuan Wyn Jones, neu ffafrio'r Blaid Lafur am ein bod ni’n
cyhoeddi sylwadau gan Peter Hain, neu hyd yn oed y Teulu Brenhinol am ein bod
ni wedi cyfeirio at ryw briodas neu’i gilydd ym mis Ebrill (am ryw reswm does
neb erioed wedi fy nghyhuddo o gefnogi Plaid Gweithwyr Korea am fy mod i’n sgwennu straeon am Kim-Jong Il- ond mater o amser oedd hi mae’n siŵr). Ond
y gwir yw nad oeddwn i wir yn cefnogi, nac yn gwrthwynebu, yr un o’r prif
bleidiau yng Nghymru.
Rhan o’r broblem yw nad yw’r blaid a fyddai’n gweddu i mi
yn bodoli yng Nghymru. Rydw i’n credu y dylai Cymru, yn ddelfrydol, fod yn
annibynnol - ond dydw i ddim yn credu y gallai’r wlad gynnal safonau byw
presennol y boblogaeth pe bai’n datgan annibyniaeth ar hyn o bryd. Fel y
dywed Peter Hain mae Cymru yn cyfrannu tua £17.1 biliwn i’r Trysorlys bob
blwyddyn, ac yn cael £33.5 biliwn yn ôl. Dydw i ddim yn gwybod a yw’r ffigwr
hwnnw yn ffeithiol gywir ond y pwynt pwysicaf yw bod Cymru yn ddibynnol iawn ar
arian cyhoeddus y Trysorlys. Yn wahanol i’r Alban does gennym ni ddim meysydd
olew i’n cynnal ar ôl datgan annibyniaeth.
Serch hynny rydw i’n credu y byddai Cymru yn gallu ffynnu
yn wlad annibynnol. Fe fyddai cael llywodraeth ganolog sy’n gallu
canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddatblygiad ein gwlad ni yn unig yn gwneud byd o
les. Dw i’n credu fod gwleidyddion yn pryderu’n bennaf am beth y maen nhw’n
gallu ei weld y tu allan i’w ffenestri nhw. Dyna pam mae De Ddwyrain Lloegr
wedi ffynnu dros gannoedd o flynyddoedd – am mai yno mae’r grym wedi bod. Mae
Cymru ‘out of sight, out of mind’. Mae yna sawl her yn wynebu Cymru, gan
gynnwys y dirwedd fynyddig a’r boblogaeth wasgarog. Ond mae yna adnoddau hefyd
sydd naill ai wedi eu hanwybyddu neu eu cymryd oddi arnom ni dros y canrifoedd.
Ond os yw Cymru am fod yn wlad annibynnol mae’n rhaid
mynd o le ydyn ni’n nawr, yn ddibynnol fel y mae mochyn bach yn ddibynnol ar
laeth ei fam ar arian y llywodraeth yn Llundain, i fod yn wlad allai ofalu am
ei hun. Mae’n debygol y byddai Cymru annibynnol naill ai’n defnyddio’r ewro
neu’r bunt, felly fe fyddai yn bwysig iawn fod ein cynlluniau ariannol yn
gynaliadwy gan na fyddai’n bosib gostwng gwerth ein harian (gan osgoi mynd i’r
un twll a’r Wlad Groeg, yr Eidal, ayyb).
Dyw’r Blaid Lafur na chwaith Plaid Cymru, yn fy nhyb i,
yn gwneud dim i baratoi Cymru ar gyfer ‘hedfan y nyth’. Mae eu cynlluniau yn
ddibynnol i raddau helaeth ar greu swyddi drwy wario arian cyhoeddus. Polisi’r
ddwy blaid yw sicrhau fod Cymru yn cael rhagor o arian gan San Steffan. Y cyfan
y byddai hynny’n ei wneud yn fy nhyb i yw cynyddu dibyniaeth y wlad ar y pwrs cyhoeddus. Mae Plaid Cymru yn honni eu bod nhw eisiau gweld Cymru annibynnol ‘ryw
bryd yn y dyfodol’, sydd braidd yn niwlog ac yn awgrymu nad ydyn nhw wir o
ddifrif. Mae Llafur yn hapus i wario llawer iawn o arian cyhoeddus ar Gymru pan
mae nhw mewn llywodraeth yn San Steffan, fel diolch am ein cefnogaeth diflino amwn
i. Ond beth sydd wir ei angen os yw Cymru am fod yn annibynnol yw hybu'r sector
breifat, rywbeth sydd, yn eironig o bosib, yn fwy at ddant y Ceidwadwyr
Cymreig.
Yn anffodus mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn frand ‘tocsig’ o
hyd mewn sawl cwr o Gymru ac o ganlyniad i hynny mae’n anodd eu gweld nhw’n
ennill unrhyw fath o rym. Ac er eu bod nhw wedi ‘Cymreigio’ eu cangen yng
Nghymru, plaid Lundeinig ac uniolaethol ydyn nhw yn y bôn. Allai plaid sydd
ddim yn annibynnol o Loegr ddim arwain Cymru at annibyniaeth. Yna rhaid
ystyried eu cefnogwyr. Er gwaetha’r cymreigio arwynebol roedd polau piniwn yn
awgrymu mai ychydig o’u cefnogwyr oedd o blaid rhagor o rym i’r Cynulliad ym
mis Mawrth, felly maen nhw’n annhebygol iawn o fod o blaid annibyniaeth.
Beth hoffen i'w weld felly yw plaid sy’n cyfuno
cenedlaetholdeb Plaid Cymru a’u cred (honedig) mewn annibyniaeth i Gymru gyda
phwyslais y Ceidwadwyr ar lacio’r ddibyniaeth ar y sector gyhoeddus a chryfhau’r
sector breifat. Mae hybu’r sector breifat yn golygu sawl peth, ond dw i’n
meddwl mai’r peth cyntaf fyddai angen pwyso amdano fyddai gwella’r rhwydwaith
trafnidiaeth o fewn Cymru. Os yw hi’n fater o falchder cenedlaethol gallu
teithio o Ynys Môn i Gaerdydd mewn awyren, yna mae’n fater o embaras
cenedlaethol nad oes modd cyflawni’r un daith yn hwylus mewn car, heb sôn
am lori neu fws.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n credu y byddai annibyniaeth
o fudd i Gymru, wrth ystyried beth sy’n digwydd yn yr Alban ac ar draws Ewrop
ar hyn o bryd, fe allai Cymru gael ei hun yn annibynnol o fewn degawdau beth
bynnag. Mae angen paratoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw.
A hyd yn oed os na fyddech chi’n ystyried cefnogi plaid
genedlaetholgar sydd i’r dde o Blaid Cymru a Llafur, dw i’n credu y byddai
plaid newydd o’r fath yn llenwi bwlch ac yn gwneud lles i’r wlad. Am wn i'r
targed pennaf fyddai pleidleiswyr sy’n cefnogi Plaid Cymru ond sy’n teimlo fod
y blaid wedi crwydro’n rhy bell i’r chwith, a heb gymryd annibyniaeth o ddifri,
neu gefnogwyr y Blaid Geidwadol sy’n teimlo nad yw’r blaid yn ddigon Cymreig a
chenedlaetholgar.
Fel y dywedais i, nid gwleidydd ydw i ac felly dim ond
ryw fyfyrio ydw i ar hyn o bryd. Ond os ydych chi’n cytuno, neu’n anghytuno,
rhowch wybod!
Dwi'n rhyw fyfyrio ar rywbeth tebyg ers talwm, dim fod gen i syniadau pendant iawn chwaith. Dwi'n cefnogi'r syniad o annibyniaeth a dyfodol i'r iaith ond dwi'n teimlo fod polisiau PC ar yr economi yn ddifflach a rhy ddibynnol ar arian cyhoeddus. Sgen i'm problem efo be ma nhw'n ddeud ar iechyd, addysg ayyb - ond nid ar rheiny mae'r Blaid am ddangos ei bod yn wahanol i Lafur. Fedrai'm coelio nad oes na syniad gwell na Parthau Menter Llafur allan yna'n rhywle. Diolch am godi'r pwnc!
ReplyDeleteDiolch am y neges, dw i'n falch mai nid fi yw'r unig un sydd wedi bod yn ystyried y peth. Dw i'n siwr mai ymateb Plaid Cymru a Llafur yw nad yw'r 'economic levers' mawr wedi eu datganoli, ac felly nad oes yna lawer allen nhw ei wneud am y peth. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r ychydig bolisiau sydd ganddyn yn gwneud y tro. Mae Plaid wedi ymosod ar ddiffyg cynlluniau Llafur ond dw i heb weld unrhyw syniadau mawr yn dod o'u cyfeiriad nhw, chwaith - heblaw am ddiwygio fformiwla barnett a chael mwy o arian cyhoeddus i mewn, wrth gwrs.
ReplyDelete