Cyfyng Gyngor


Mae yna drafodaeth ar Maes-e ynglŷn â nifer y cynghorau sydd yng Nghymru. Mae yna 22 ar hyn o bryd ond mae sawl un o’r farn y dylid lleihau eu nifer.

Dyma fy nghyfraniad i at yr ymgynghoriad, sef Adolygiad Ffiniau Cymdeithas Llywodraeth Leol Ifan Morgan Jones 2011:

Yr Hen Wynedd

Gwynedd + Ynys Môn + Conwy

Poblogaeth = 298,500

Rhufoniog

Sir Ddinbych + Sir y Fflint + Wrecsam

Poblogaeth = 380,000

Dyfed

Ceredigion + Sir Benfro + Sir Gaerfyrddin

Poblogaeth = = 374,700

Cwm Tawe

Abertawe + Castell-nedd Port Talbot

Poblogaeth = 369,900

Gorfynydd

Pen y Bont ar Ogwr + Bro Morgannwg

Poblogaeth = 259,600

Glwysing

Rhondda + Merthyr Tudful + Caerffili

Poblogaeth = 431,300

(Os ydych chi'n gweld y cyngor yma braidd yn fawr gellid cadw y Rhondda yn gyngor ar ei ben ei hun)

Gwent

Casnewydd + Torfaen + Blaenau Gwent

Poblogaeth = 300,200

Powys a Mynwy

Sir Fynwy + Powys

Poblogaeth = 219,400

Caerdydd

Caerdydd

Poblogaeth = 341,00

Comments