Coelcerth y Kindles


Mae Carl Morris wedi cyhoeddi darn diddorol iawn ar ei flog - Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Ei brif ddadl hyd y gwela’i, a dw i’n ymddiheuro os ydw i wedi camddeall, yw y dylai pobol sy’n creu cynnwys yn y Gymraeg eu cyhoeddi ar ‘y we agored’ – open source - yn hytrach nag ar systemau sy’n cael eu rheoli gan gwmnïau penodol, e.e. iTunes ac App Store cwmni Apple, ac hefyd dyfais Kindle cwmni Amazon.


Mae’n ofni na fydd y chwyldro digidol yn arwain at Ddadeni fel y digwyddodd o ganlyniad i ledaenu gwybodaeth yn sgil dyfeisio gwasg Gutenberg yn y 15fed ganrif oherwydd bod gan bob cwmni eu ‘gweisg’ eu hunain sy’n gwrthod rhannu gwybodaeth.

"I’r bobol sy’n meddwl bod llwyddiant rheolaeth Amazon yn yr iaith Gymraeg yn anochel… Beth yw’r ddiod feddal fwyaf poblogaidd yn Yr Alban? Yn aml iawn nid Coca Cola, y cawr byd-eang, ond Irn Bru, y ffefryn lleol, sy’n dod i rhif un yn y siart gwerthiannau. Mae cyfle nawr i ffeindio ein Irn Bru, at ein dant ni."

Rydw i’n cydweld â’r ddadl yma i ryw raddau ond yn teimlo hefyd fod y frwydr o blaid ‘y we agored’ a’r frwydr o blaid cynnal yr iaith Gymraeg yn rhai ar wahân. O safbwynt parhad yr iaith, mae’n gwneud synnwyr targedu’r dyfeisiau a’r systemau sy’n fwyaf poblogaidd. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, fe fyddai pawb yn defnyddio cynnyrch open source, ond fel y mae pethau mae’r rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau'r cwmnïau mawr, gan gynnwys Kindle ac iTunes. Er mwyaf sicrhau bod cynnyrch Cymraeg yn cyrraedd ei gynulleidfa, onid yw’n gwneud synnwyr cyhoeddi drwy’r cyfrwng sy’n debygol o gyrraedd y mwyafrif?

Ar ddechrau ei flog mae Carl yn dweud: “Gwasanaethau ar-lein yw’n amgylchedd cyfryngau nawr. Rydyn ni’n trafod Twitter, Facebook ac ati fel yr oedden ni’n trafod y teledu.” Dyna’r pwynt, dw i’n meddwl. Mae dadlau na ddylai llyfrau Cymraeg fod ar Kindle ychydig bach fel dadlau na ddylai S4C fod ar Sky neu Freesat, ac y dylai symud i gyfrwng arall llai poblogaidd. Mewn ffordd mae’n gofyn i’r gynulleidfa wneud buddsoddiad ychwanegol i gyrraedd cynnyrch Cymraeg – ac fel yr ydyn ni’n gwybod mae argyhoeddi'r Cymry i ddefnyddio cynnyrch Cymraeg yn ddigon anodd fel y mae hi.

Yn hynny o beth does gen i ddim problem defnyddio cyfieithiadau Cymraeg o enwau cwmnïau Americanaidd, er bod Carl yn eu casáu (ond dw i yn meddwl fod ‘Gweplyfr’ yn hyll!). Os mai’r cyfryngau yma yw'r teledu newydd, yna mae angen bathu geiriau Cymraeg amdanyn nhw.

(Mae yna hefyd gic fach yn yr erthygl at Golwg 360 am gyhoeddi’r stori am Amazon yn gwrthod cynnal llyfrau Cymraeg ar Kindle yn y lle cyntaf. Dw i’n weddol sicr nad rhoi “cyhoeddusrwydd Cymraeg am ddim” i Amazon oedd bwriad y golygydd ond yn hytrach rhoi sylw i gwmni Cymreig oedd heb gael mynediad i farchnad ehangach oherwydd bod eu cynnyrch nhw yn Gymraeg, sy’n sicr yn stori fyddai o ddiddordeb i’r darllenydd yn fy nhyb i.)

Comments