Mae’n siŵr nad fi yw’r unig un sydd wedi cymryd mwy o
ddiddordeb na’r arfer yn y byd ariannol dros y misoedd diwethaf. Os ydyn ni’n
barod i gredu'r cyfryngau Llundeinig, sydd wedi bod yn amheus o’r ewro ers y
dechrau, mae parth yr ewro ar fin ffrwydro – fel uwchnofa - gan adael twll du
ar ei ôl fydd yn ein sugno ni i gyd i ebargofiant.
Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i fi gyfrannu
darn barn at wefan Golwg 360, gan ofyn ai polisi’r Ceidwadwyr o dorri’n ôl yn
llym oedd yn gywir ynteu polisi’r Blaid Lafur o barhau i fuddsoddi arian
cyhoeddus nes fod yr economi’n ôl ar ei draed. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae
hi'r un mor anodd ateb y cwestiwn. Bydd George Osborne yn dadlau fod ei gynllun
i dorri’r diffyg ariannol yn golygu fod y farchnad yn fwy parod i brynu dyled y
wlad, ac o ganlyniad i hynny ein bod ni wedi osgoi’r un problemau a’r Eidal a
Gwlad Groeg. Ar y llaw arall gellir dadlau nad yw ein heconomi ni wedi tyfu
braidd dim dros y flwyddyn ddiwethaf, ac nad yw’n debygol o dyfu rhyw lawer yn
ystod y flwyddyn nesaf chwaith. Os nad yw’r economi yn tyfu ni fydd Osborne yn
gallu lleihau’r diffyg ariannol yn sylweddol wedi’r cwbl, am na fydd digon o
arian yn mynd i mewn i’r Trysorlys, a rhagor yn mynd allan i dalu am
fudd-daliadau'r di-waith. Yna fe fydd hyder y farchnad yng ngallu Prydain i
dalu ei dyledion yn diflannu ac fe fyddwn ni yn yr un cwch a’r Eidal a Gwlad
Groeg wedi’r cyfan.
Mae’r Canghellor yn cerdded rhaff i bob pwrpas, gyda
diffyg twf ar un ochor a gormod o ddyled ar y llall. Os yw’n colli ei
gydbwysedd a gwyro’n ormodol i un cyfeiriad neu’r llall fe fydd hi ar ben arnom
ni. Ond wrth gwrs, yn wahanol i’w ewro, mae gennym ni’r gallu i argraffu ein
harian ein hunain, ac felly fe allen ni dalu ein dyledion i gyd yfory a gorfod
byw gyda chanlyniadau hynny, sef chwyddiant ofnadwy o uchel (sef beth mae Banc
Lloegr a’r Ffed yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ei wneud i raddau llai beth
bynnag drwy ddull quantative easing).
Os yw’r hwch yn mynd drwy’r ewro fe allai’r ddadl fod yn
un academaidd beth bynnag, achos fe fyddai yn arwain at chwalfa economaidd
waeth nag un 2008. Mae dyled yr Eidal bedair gwaith maint dyled Lehman Brothers
a aeth i’r wal ar ddechrau’r argyfwng hwnnw.
Y broblem yw nad yw Banc Canolog Ewrop, yr ECB, yn fodlon
argraffu arian er mwyn talu dyledion gwledydd sydd wedi mynd i drafferthion, gan gynnwys yr Eidal a Gwlad
Groeg. Neu, i fod yn fanwl gywir, dyw’r Almaenwyr ddim yn fodlon i’r ECB wneud
hynny. Un damcaniaeth yw bod gwleidyddion yr Almaen yn ofni dychwelyd i
chwyddiant uchel Gweriniaeth Weimar, arweiniodd yn ei dro at ddyfodiad y
Natsïaid.
Yn bersonol dw i ddim yn credu mai chwyddiant sy’n
pryderu’r Almaenwyr. Fe fyddai ychydig flynyddoedd o chwyddiant uchel yn bris
isel i’w dalu am osgoi chwalfa economaidd diwedd yr ewro. Fy nhyb personol i yw
y bydd yr ECB, yn y pen draw, yn cael rhwydd hynt i argraffu arian. Ond yn y
cyfamser dw i’n credu fod gwleidyddion yr Almaen yn gweld yr argyfwng ariannol
fel cyfle i newid parth yr ewro er gwell. Dyw gwledydd gan gynnwys Yr Eidal a
Gwlad Groeg ddim wedi bod yn gwario arian cyhoeddus yn gall ac mae’r argyfwng
yn gyfle i orfodi iddyn nhw fod yn fwy darbodus. Dw i wedi darllen sawl erthygl
sy’n ceisio codi bwganod am gyfnod y
Natsïaid, gan gyhuddo’r Almaenwyr o geisio gorfodi eu diwylliant nhw o weithio’n galed a
thalu trethi ar wledydd eraill.
Ond onid yw'r rheini’n rhinweddau da beth bynnag? Os yw’r ECB yn dechrau
argraffu arian cyn iddyn nhw wneud y newidiadau rheini fe fydd yn rhoi rhwydd
hynt i’r Eidal, Gwlad Groeg a’r gwledydd ‘diog’ eraill ar Fôr y Canoldir i
barhau i wario yn ffôl unwaith eto.
Mae yna broblemau eraill yn strwythur yr ewro sydd angen
eu datrys cyn i’r ECB achub y dydd. Os yw’r gwledydd yma am rannu arian mae
angen undeb ariannol hefyd fydd yn caniatáu i’r gwledydd cryfaf reoli
cyllidebau'r gwledydd llai. Efallai y byddai angen rhyw fath o Drysorlys canolog
fydd yn sicrhau fod pob gwlad yr un mor ddarbodus â’r Almaen, neu hyd yn oed
lywodraeth ffederal. Fel arall ni fydd y problemau sylfaenol achosodd yr
argyfwng yma yn diflannu, ac fe fyddwn nhw’n amlygu eu hunain unwaith eto mewn
degawd neu ddau.
Y cwestiwn mawr yw hyn - a oes yna ddigon o undod
gwleidyddol yn Ewrop er mwyn gallu cyflawni’r newidiadau rhain? Beth bynnag
sy’n digwydd, fe fydd yr ECB yn gorfod achub y dydd yn y pen draw. Ond beth
fydd yn codi o’r lludw – Unol Daleithiau Ewrop, neu ddiwedd yr ewro?
Comments
Post a Comment