Tua wythnos yn ôl fe fues i’n trafod y ffordd orau i achub yr Ewro. Nawr fy mod i wedi datrys y mater dibwys hwnnw rhaid troi at orchwyl
llawer pwysicach... achub Maes-e!
Fe fydd sawl un yn dweud nad oes modd achub Maes-e. Mae’r
fforwm drafod Cymraeg ar fin dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed. Fel y Simpsons,
mae’r cyfnod ers iddo neidio’r siarc yn hirach na’r oes aur gychwynnol (tua
2002-2005). Erbyn hyn mae yna un neu ddwy neges ar ddiwrnod prysur. Daeth
Facebook, daeth Twitter, a dyw pobol ddim yn mynd ar fforymau trafod i
gymdeithasu ar-lein erbyn hyn.
Yng ngeiriau Monty Python, felly: “'E's off the twig!
'E's kicked the bucket, 'e's shuffled off 'is mortal coil, run down the curtain
and joined the bleedin' choir invisibile! This is an ex-fforwm!”
Wel rydw i’n cytuno ac anghytuno. Does dim dadlau fod
Facebook a Twitter wedi dwyn cynulleidfa’r hen Faes. Ond dydyn nhw ddim, a
fyddan nhw byth, ‘cystal’ a Maes-e. Nid lle i drafod pynciau’r dydd yw
Facebook. Y cyfan yw’r wefan yw lle i fusnesu ar beth mae pobol eraill yn ei
wneud, gan gymryd mantais ar barodrwydd pawb i rannu pob llun a phob symudiad
gyda’r byd. Pe bai cyfaill yn fy nghyfarch ar y stryd a dweud, ‘Rydw i newydd
ddychwelyd o’r dafarn, wyt ti eisiau cael gwybod yr hanes i gyd a gweld 31 o
luniau?’ bydden i’n edrych arno fel pe bae o’i go. A pe bawn i’n mynd draw i’r
dafarn a syllu arnyn nhw drwy’r ffenest fe fyddwn nhw’n meddwl mod i’n ryw fath
o hen ddyn brwnt. Ond dyna ydi Facebook i bob pwrpas.
Dyw Twitter fawr gwell. Mae’n amhosib cynnal trafodaeth
gall am unrhyw beth mewn 140 gair. Fel Facebook, ar y cyfan mae’n gyfrwng i
ddangos eich hun drwy ddweud pethau clyfar clyfar a rhannu gwybodaeth
anniddorol. Mae’n ddefnyddiol fel cyfrwng i ledaenu newyddion yn gyflym iawn,
ond hyd yn oed wedyn mae’n amhosib gwybod beth sy’n ffaith a beth sy’n ffuglen.
Mae unrhyw neges o werth fel arfer yn cyfeirio at wefan arall, awdurdodol, sydd
heb ei gyfyngu i 140 o eiriau.
Dw i’n fodlon cyfaddef y gallai Facebook a Twitter fod yn
ffordd fwy effeithiol o dynnu sylw at gig penodol, neu lansiad llyfr, ond hyd
yn oed wedyn mae’r wybodaeth yn cael ei rannu ymysg grŵp bychan o gyfeillion yn
hytrach na chymuned gyfan. Ar fforwm drafod mae’n hawdd taro ar draws ryw
gynnyrch neu syniad newydd, wrth fusnesu ymysg yr edeifion. Os nad ydw i eisoes
yn dilyn y cyfrifon perthnasol ar Facebook neu Twitter dydw i byth yn mynd i
gael gwybod am Fand A, a dyw ‘Mae 9 o bobol yn hoffi hyn’ byth yn mynd i gyfleu
brwdfrydedd dilynwyr y band hwnnw cystal â thrafodaeth ar fforwm.
Dw i yn derbyn felly bod Twitter a Facebook wedi dwyn
cynulleidfa Maes-e, ond dw i ddim yn credu eu bod nhw wedi disodli swyddogaeth
Maes-e o fewn y rhithfro Gymraeg. Prif bwrpas Maes-e oedd trafod pynciau’r dydd
drwy gyfrwng y Gymraeg, a dyw Twitter a Facebook ddim yn gwneud hynny. Iawn, mewn gwirionedd roedd 90% o’r cyfranwyr yn Gymry
Cymraeg 16-25 oed o gefndir dosbarth canol oedd yn pleidleisio dros Blaid Cymru
fel eu rhieni, ac roedd unrhyw lais oedd yn awgrymu y dylid gwneud i’r
gwrthwyneb yn cael ei erlyn oddi yno. Ond fel un o’r 90% fe alla i dystio na
wnaeth clywed barn unigolion o’r tu allan i’r swigen ideolegol yr oeddwn i’n
bodoli ynddo unrhyw ddrwg i mi o gwbl.
Rydw i eisoes wedi dadlau fod angen achub Maes-E, ond sut
mae gwneud hynny? Wel, dyma’r rhan anodd ynde. Y peth cyntaf fydden i’n ei
awgrymu byddai cau y rhan fwyaf o’r seiadau a’u cyfuno. Mae yna 35 seiad ar hyn
o bryd. Roedd cyfnod pan oedd pob un o’r seiadau rheini yn fwrlwm o drafodaeth,
ond prin fod rhai ohonyn nhw’n cynnwys neges o’r ddwy flynedd ddiwethaf erbyn
hyn. Fe fyddai’r Maes yn ymddangos yn llawer prysurach pe bai yna 5-10 seiad.
Os ydych chi am wahodd 500 o bobol i barti, mae’n werth ei gynnal mewn plasty,
ond os mai hanner dwsin sy’n bwriadu dod fe wneith stafell fyw y tro.
Yn ail, mae angen ‘ail-frandio’ y wefan, yn weledol ac yn
dechnolegol. Mae wedi bod yn defnyddio’r un patrymlun ers 2002. Dw i’n siŵr y
byddai pawb yn casáu’r newid i ddechrau, fel y mae pawb yn casáu unrhyw newid
ar Facebook neu Twitter, ond digon buan y bydden nhw’n anghofio amdano. Rhaid
bod yn feiddgar – mor feiddgar a’r Pafiliwn Pinc.
‘Mochyn ar ei gefn’ meddai pawb i ddechrau – erbyn hyn, eicon.
Mae’r newidiadau uchod yn rhai digon arwynebol, ond yn
bwysig serch hynny. Y trydydd peth sydd angen ei wneud er mwyn denu pobol yw
newid rhywfaint ar natur y Maes. Ar un cyfnod mi’r oedd y fforwm yn borth i
weddill y we Gymraeg, ac mae angen ail-afael yn y syniad hwnnw. Mae’r dechnoleg
bellach yn caniatáu ffrydiau RSS o flogiau Cymraeg, RSS o wefannau newyddion
Cymraeg, ffrydiau Umap Cymraeg Twitter, a ffrydiau Facebook. Fe ddylai
defnyddiwr allu troi at yr hafan yn ystod ei amser cinio a gweld ar y sgrin ryw
fath o gipolwg ar bopeth sy’n mynd rhagddo yn y rhithfro y diwrnod hwnnw. Ac
wedyn, gobeithio, agor neu gyfrannu at edefyn yn trafod y pynciau rheini.
“Gentlemen, we can
rebuild Maes-e. We have the technology.”
Dim ond gobeithio y byddai’r canlyniad yn debycach i’r
Six Million Dollar Man, ac nid bwystfil Frankenstein!
Diolch yn fawr Ifan, nifer fawr o syniadau arbennig o dda yma. Dwi wrthi'n trafod gyda rhai ynglyn a trosglwyddo'r maes i ddwylo eraill. Beth fuaswn i'n ffafrio fydde criw o unigolion brwdfrydig, cymysgwch o techies, a defnyddwyr cyffredin, sy'n barod i dreulio ychydig bach o amser i ddatblygu'r maes. os oes diddordeb gyda ti fod yn rhan o'r criw, cysyllta gyda fi hedd@maes-e.com
ReplyDeleteHmmm... dwi'n meddwl i ryw raddau fod y drafodaeth ar waelod storis Golwg360 wedi bywiogi pethau a llenwi gofod maes-e. Yr unig le lle mae fforymau trafod fel maes-e yn parhau i fod yn boblogaidd yw ym myd tech-support a dilynwyr gemau fel World of Warcrafft!
ReplyDeleteFel un a fu, am gyfod rhy faith, yn brif gyfrannwr maes-e (ydych chi'n cofio'r ystadegau!?) dwi'n meddwl y dylid gadael maes-e fel y mae a rhoi ein egni i warantu fod y Gymraeg yn flaenllaw ar don nesaf technoleg fel yr oedd maes-e yn 2001.
Mae'r blog yma (yn gyffredinol nawr, nid jest y post hwn) yn rhagorol Ifan - y peth gorau ddigwyddodd i fyd cyhoeddi annibynol Cymraeg oedd i ti adael Golwg360!
Medde Rhys LLwyd "Yr unig le lle mae fforymau trafod fel maes-e yn parhau i fod yn boblogaidd yw ym myd tech-support a dilynwyr gemau fel World of Warcrafft!"
ReplyDeleteFi'n anghytuno. Mae 'na fforymau di-ri tu fas i'r meysydd hynny sy'n parhau i ffyni.
Yr hyn sy'n eu gwneud yn lwyddiant efallai yw'r marchnad niche maent yn anelu at (efallai mai dyna bwrdwn dy neges, Rhys, ond fe ymddangosodd i mi fel dweud taw'r "geeks" yn unig oedd yn defnyddio fforymau bellach).
Mae fforymau niche i gefnogwyr timoedd chwaraeon, fforymua ar gyfer chwaraeon penodol. Fforymau ar gyfer gwyddoniaeth ac yn y blaen.
Efallai mai'r neges yn hyn i gyd yw fod maes-e wedi colli ei ffordd rhywfaint, heb feddwl beth yw ei niche o fewn y byd post-Facebook a phost-Trydar.
Ysgrif dda.
ReplyDeleteMae tranc Maes-E yn drist. Dw i'n galw draw bob hyn a hyn ond mae'n anodd canfod y brwdfrydedd i ysgrifennu unrhyw beth ar ôl sylwi bod misoedd ers y cyfraniad diwethaf. Dw i'n siwr bod llawer o rai eraill sy'n debyg i fi, a phetaem i gyd yn mynd ati i ddweud rhywbeth yna byddai hynny'n datrys y broblem! Ond haws dweud na gwneud.
Mae fforymau trafod o'r math yma ar dranc yn Saesneg hefyd; nid yw'n unigryw i'r Gymraeg. Fel mae Ifan yn ei ddweud, mae'n debyg mai dyfodiad blogiau, Facebook a Twitter sy'n gyfrifol. Mae sefyllfa Maes-E yn ran o batrwm sydd i'w gweld ar hyd a lled y we'n gyffredinol.
Yn anffodus, mae'n anodd gweld sut mae modd atgyfodi'r peth. Mae'n iawn cyfrannu oherwydd cymhelliad bwriadol, yn deillio o deyrngarwch a theimlad o ddyletswydd, a dyna fyddai raid i'r peth fod i ddechrau. Ond heb i'r fforwm ail-ddeffro'n fuan fel y lle naturiol i drafod pethau yn y Gymraeg ar y we, mae'n anochel y byddai'r ymroddiad hwnnw'n pylu.
Ar y llaw arall, mae bod yn besimistaidd yn broffwydoliaeth sy'n sicr o wireddu'i hun, felly pob lwc mawr i bwy bynnag sy'n cymryd yr awennau. Yr unig beth arall sy'n sicr yw bod Ifan yn llygad ei le bod rhaid i'r Maes fod yn ganolbwynt i'r rhithfro Gymraeg yn gyffredinol. Heb hynny, nid oes fawr o obaith.
@Hedd – Mae hynny’n swnio’n reit debyg i’r Llywodreathau Technocratig sydd wedi eu sefydlu yn yr Eidal a Gwlad Groeg! ;)
ReplyDeleteYn anffodus mae gen i dipyn ar fy mhlat ar y funud, felly allai’m addo cyfraniad o bwys. A does gen i ddim clem ynglŷn â’r gwaith ymarferol o adeiladu gwefan (dy C+ a dy Java a ballu). Ond dw i’n barod i gyfrannu syniadau, a sylwadau, os yw hynny o unrhyw help.
@Rhys – Y broblem gyda trafodaethau Golwg 360 yw eu bod nhw’n diflannu yn eithaf cyflym! Ond dyna natur y gwasanaeth amlwn i.
Diolch am dy eiriau caredig am y blog. Dw i ddim yn siwr os ydw i’n haeddu’r fath glod ar ôl blogio’n ddiwyd ers pythefnos yn unig.
(Yr eironi mawr ydi fy mod i wedi gweithio’n llawer caletach ar Golwg 360 dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner ac erioed wedi cael clod gan neb am hynny! I’r gwrthwyneb yn aml iawn. :P )
@Ceribethlem – O symleiddio Maes-E dw i’n meddwl y byddai pobol yn sylweddoli ei fod yn wefan ‘niche’ mewn gwirionedd. Lle arall gall rhywun drafod nofelau Cymraeg? Y SRG? Y Rhithfro? Drwy ail-frandio a torri ar nifer y seiadau i lawr i’r asgwrn fe fyddai hynny’n ragor amlwg.
@Dylan – Mae’n air sy’n cael ei or-ddefnyddio ond mi’r oedd yna yn sicr ‘fwrlwm’ yn perthyn i’r Maes i ddechrau, yndoedd? Yn anffodus dw i ddim yn meddwl y bydd y Maes byth yr un mor gyffrous ag ydoedd yn y dyddiau cynnar rheini, pan oedd popeth mor newydd.
Beth am gael ‘diwrnod sgwennu rywbeth ar Maes-e’ (fel y diwrnod Pethau Bychain gynt) pan mae’r wefan yn ail-lansio a gobeithio y bydd hynny’n rhoi hwb i’r peth! :)
@Ifan un o'r ychydig feirniadaethau sgen i o Golwg360 yw ei natur amhersonol. Rwy'n falch gweld fod rhai gohebwyr nawr yn rhoi eu henwau ar waelod storis yno. I mi mae'n bwysig iawn gwybod pwy sy'n dweud y stori. Nid person yw Golwg360, ond mae pobl yn sgwennu ar Golwg360. Fe gofiwch, efallai, am fy obsesiwn gyda maes-e y dylai pawb sgwennu dan eu henwau go-iawn gan mod i'n meddwl fod hi'n allweddol gwybod pwy sy'n dweud be. Mae cyd-destun yn bwysig.
ReplyDeletedwin gwneud defydd o maes-e i hyrwyddo a ballu ac yn hoff iawn o'r maes.ond dwi yn teimlo bo fi yn wastio amser yn hywyddo drwy maes-e yn aml.
ReplyDeletebe dechi feddwl? dwi'n rhoi pethe fynu o rhan dyletwydd yn aml. di menter iaith a CyIG yn aml ddim hudanoed yn defnyddio y maes i hyrwyddo neu trafod. dydi'r criw ifancach erioed d clywed am y maes. a ma wir anghen i bobl ifanc weld fod y gymraeg yn rhan go iawn o'r byd technolegol. fel arall mae'n berig i nhw weld saesneg fel iaith go iawn a cymraeg fel hen beth.
un peth oni'n deimlo i ddechrau oedd fod hi'n annodd postio unrhyw farn heb i 'thought police' neidio ar y peth am gael y farn anhgywir, camsillafu neu dim defnyddio llythrene bras neu lythrene bras yn unig.
yn amlwg ma pobl yn mynd i ddweud pethe gwirion ar maes-e ac mewn achosion rhaid stopio negeseuon ayyb. rhydd pawn iw farn de, ond mae'n bwysig peidio bod yn snobs.
os oes wir ymdrech mae modd gwneudd y maes neu safle gymraeg debyg yn boblogaedd. be sy wedi cael i neud i achub y sefyllfa yn ddiweddar o rhan hyrwyddo'r maes?
ma fatha trefnu gigs dydi.alle fod yr un cynta yn llawn. ond ar ol hynu rhaid pwshio y peth lot mwy i gadwr diddordeb.wedyn ma llwyddiant tymor hir. yn aml ma pobl ddim yn gwneud hynu a ma gigs yn wag a ma pobl yn deud fod gigs jyst ddim yn gweithio dim mwy. i fi ma hynu fatha rhoi fynu ar ein iaith a diwylliant.
sori ond dwin ffendio fon haws i ddefnddio gigs fel metafor!
yn ola, mae facebook ar fin chwythu i blwc dwi meddwl. llu ma rwan yn amser da i lenwi y bwlch.
dil
o ie un peth.
ReplyDeletepam fod y sgwrs yma ddim yn digwydd ar maes-e?
dil
@Rhys Dw i'n cytuno gyda'r egwyddor o roi enwau gohebwyr ar waelod straeon, er mwyn eu gwobrwyo nhw am eu gwaith caled yn fwy na dim. Ond gyda 30 stori yn cael ei gyhoeddi bob dydd mae na beryg y byddai'r un enwau ymddangos drosodd a thro, bob yn ail stori. Dw i fy hun wedi ysgrifennu dros 14,000 o straeon ers lansio'r gwasanaeth. Mae hynny'n lot o bylines. Hefyd ar wasanaeth 24 awr mae yna lot o gydweithio yn mynd i mewn i straeon - yn aml fe fyddai yn canolbwyntio ar sgwennu corff y stori tra'n gofyn i un neu ddau newyddiadurwr fynd ar ol ffynhonellau am ymateb. Ac mae straeon yn datblygu dros amser. Pe bai Catrin yn cael sgwp mawr ddoe a fi'n ysgrifennu 'follow up' sy'n cynnwys bach o wybodaeth ychwanegol y diwrnod wedyn, enw pwy ddylai fod ar y stori? Falle dylen ni jesd gyhoeddi'r rota fel bod pawb yn gwybod pwy sy mewn pryd. ;)
ReplyDelete@Dil Achos petawn i wedi ei ysgrifennu ar Maes-e fyddai neb wedi ymateb... dyna'r eironi!
tin niawn!
ReplyDeletenes i bostio hwn ar maes-e hefyd a cael ymateb oedd, dwi meddwl, yn amddiffyn facebook!
ma hynu yn fwy eironic fyth.
dil
Dw i'n cytuno â ti yn y bôn, Ifan, ond fyddwn i'n mynd yn bellach byth: archifo popeth sydd ar y maes nawr, ac ail-lansio bwrdd trafod newydd, symlach o lawer, os bydd tîm rheolu newydd yn ymddangos.
ReplyDeleteDiddorol. Byswn i'n awgrymu beth sydd ar hyn o bryd a'i gadw, a symud draw i rwbeth mwy syml a thaclus fel http://vanillaforums.org/discussions
ReplyDeleteMae am ddim, ac yn rwbeth dwi di chware o gwmpas efo sawl gwaith.
Tydi fforymau heb ddiflannu. Yn aml dwi'n ymweld a rhai gwyddor chwaraeon (barn / cyngor ymarfer corff etc.) a systemau tebyg fel http://stackoverflow.com/ sydd i bethau cyfrifiadurol, ond rywsut yn tynnu trafodaeth a barn mewn ffordd unigryw.
O ran Facebook - lluniau o nos Sadwrn allan; Twitter - ffrwd o newyddion personol (niche hyd yn oed). Er bod hi'n bosib gofyn cwestiwn ar Twitter, nid ydyw'n le i ddisgwyl ateb o gwbwl, yn hollol wahanol i fforwm.
Dwi'n gwrido wrth feddwl am rhai o'r pethau at sut ro ni'n eu dweud nhw nol ar maes-e. Roeddw ni mor hunangyfiawn yn ddeunaw oed :(
ReplyDeleteWrth feddwl yn ôl roedd fy nhyfraniad i maes-e, ar un pwynt, yn ymylu ar fod yn obsesiynnol. Roeddwn i'n gaeth i'r un graddau ac rydych chi'n darllen adroddiadau newyddion am bobl sy'n syrthio'n gaeth i gemau cyfrifiadur ayyb...
Dwi'n cofio wythnos gyntaf yn y Brifysgol yn 2003, gofyn i Sion Bobs (doeddwn i ddim wedi cyfarfod o'r blaen) beth oedd ei enw? Ac fe atebodd yn gwbwl naturiol "Kamikaze Cymru". Roedd yn cyflwyno ei hun i bobl yn ôl ei enw maes-e cymaint oedd ei ddylanwad ar y pryd!
Roedd yn ffenomen rhyfeddol.
Rhys: Roeddw ni mor hunangyfiawn yn ddeunaw oed
ReplyDeleteWi'n jyst falch bod dim gwe i gael pan o'n i yn fy arddegau.
Huw: Mae am ddim, ac yn rwbeth dwi di chware o gwmpas efo sawl gwaith.
Mae'r fersiwn am ddim wedi'i gyfyngu at 30 aelod, ond yw e? Oes un 'da ti sy'n agored ar hyn o bryd?
@Rhys: Ie mi'r oeddwn i'n gwbwl gaeth hefyd. Yr unig beth wnaeth dorri'r dibyniaeth oedd cael swydd yn newyddiadurwr a sylwi nad oedd yn broffesiynol parhau i roi fy marn ar bawb a phopeth. A dweud y gwir dw i'n meddwl bod fy mhenderfyniad i roi'r gorau i gyfrannu yn esbonio'r cwymp o tua 20% yn nifer y negeseuon o ganol 2006 ymlaen... :)
ReplyDelete@Nic: Dw i'n meddwl ei fod yn werth parhau gyda 'brand' Maes-e. Mae'n frand cryf ac yn denu cannoedd o ymwelwyr bob dydd er fod y fforwm wedi bod yn weddol farwaidd am flynyddoedd bellach. Fe fyddai mabwysiadu'r brand hwnnw yn rhoi hwb i unrhyw fenter newydd. Haws cynnau tan ar hen aelwyd ayyb... ;)
Gwell gen i Maes G (ha,ha)
ReplyDeleteFe wnes i sgwennu at wasg Gymraeg yn eitha diweddar gan ofyn: tybed a fyddai gennych ddiddordeb mewn cyhoeddi llyfr yn son am maes-e?? Dim diddordeb. Wedi fy synnu/siomi braidd.
ReplyDeleteTybed a fyddai llyfr fel yma yn gwerthu o leiaf mil? Hefo'r marchnata cywir (ar y we!!) yna dwi ddim yn gweld llawer o broblem.
Golwg360 a trydar-dyma ble mae'r bwrlwm ar hyn o bryd.
Gobeithio fod yna aelod o staff gwasg wedi darllen yr uchod.
Wedi anfon neges drydar at, wel...Wedi3/7. Wedi gofyn am eitem yn trafod dyfodol y seiat drafod. Tydi'r eitem ddim yn mynd i roi petrol ar fflam maes-e. Ni fydd chwyldro.
ReplyDeleteOnd gobeithio fod AK wedi darllen y neges.