Y Byd ar ffurf tabloid?


Mae yna gyfweliad diddorol iawn â’r newyddiadurwr Eifion Glyn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma, ar drothwy ei ddarlith yn Llyfrgell Penygroes ddydd Iau diwethaf. Wrth gael ei holi mae’n dadlau fod rhaid i Lywodraeth Cymru esbonio pam na roddwyd cefnogaeth ariannol i sefydlu papur newydd y Byd.

Dw i ddim am gamu i mewn i’r ddadl honno heddiw (ac a dweud y gwir dw i’n meddwl fod y ddadl mewn perygl o fynd yn amherthnasol o ystyried technoleg newydd fel yr iPad a’r Kindle sy’n cyfuno rhinweddau gorau'r we a phrint). Ail ran dadl Eifion Glyn oedd wedi dal fy llygad i, sef fod gormod o gynnwys ‘uchel ael’ yn y Gymraeg sy’n cael ei gynnig gan “griw bach elit o Gymry” sydd wedi “monopoleiddio’r iaith” ac yn “dehongli’r diwylliant Cymraeg mewn ffordd gul”.

Mae’n dadlau y dylai papur newydd y Byd fod wedi ei gyhoeddi ar ffurf papur newydd tabloid. “Ro’n i’n meddwl fod o dipyn bach yn rhy uchel ael, yn meddwl bod angen rhywbeth llawer mwy down market, rhywbeth mwy poblogaidd,” meddai.  

“Hanner miliwn sy’n siarad Cymraeg, ac mae’r glorian ormod yn y gorffennol wedi bod o blaid cyhoeddiadau uchel ael, pethau llenyddol, pethau trwm. Ac nad oes yna fawr dim o arian wedi ei roi i fentrau poblogaidd.”

Mae’n awgrymu y byddai yn well gan bobol Penygroes fod wedi gweld cynnwys “colofn geffylau, betio” ac yn y blaen.

Nawr ar yr olwg gyntaf mae ei ddadl yn un gwbl resymol. Wrth edrych ar y cyhoeddiadau sy’n derbyn arian cyhoeddus, mae sawl un yn “uchel ael”. Wrth ystyried y frwydr rhwng Barn a Sylw yn ystod haf Eisteddfod y Bala, y cylchgrawn ‘uchel ael’ a enillodd y dydd.

Roeddwn i’n gweithio i Golwg am bron i chwe blynedd, a dw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi derbyn cwyn oherwydd bod cynnwys y cylchgrawn/gwefan yn rhy ‘uchel ael’. Y gwyn bob tro oedd fod y cylchgrawn a’r wefan yn rhy dablodaidd ac yn rhoi sylwi i bethau gwamal nad oedd yn ei haeddu. Ond dw i’n fodlon derbyn mai y ‘criw bach o elit’ sydd fwyaf tebygol o ysgrifennu at y cylchgrawn, neu ar y wefan.

Y broblem â barn Eifion Glyn yw nad oes cymaint a hynny o ddiddordeb mewn materion sydd ddim yn ‘uchel ael’ drwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai y byddai yn well gan drigolion tafarn Penygroes ddarllen am chwaraeon neu gamblo na llyfrau, ond y cwestiwn mawr yw a fydden nhw’n darllen am y pethau rheini drwy gyfrwng y Gymraeg?

Yn fy mhrofiad i, yr unig bynciau y mae pobol eisiau darllen amdanyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg ydi pynciau y mae'r iaith ei hun yn rhan annatod ohonyn nhw. Mae llyfrau yn disgyn i’r categori yma oherwydd bod nifer o lyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Fyddai neb eisiau darllen am lyfrau Cymraeg yn Saesneg. Mae cerddoriaeth Cymraeg yn un arall. Ond chwaraeon a gamblo? Does dim iaith i gemau o’r ffaith, ac felly does dim byd i annog pobol i ddarllen amdanyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg yn hytrach na’r Saesneg – yn enwedig pan mae gan y cyfryngau Saesneg cymaint mwy o adnoddau na’r cyfryngau Cymraeg.

Y rheswm y mae cynnwys y cyfryngau yn ‘uchel ael’ ydi bod cynnyrch yr iaith Gymraeg – llyfrau, dramâu, gwleidyddiaeth, ac i raddau llai cerddoriaeth – yn cael eu hystyried yn ‘uchel ael’. Drwy anelu at dir ‘tabloidaidd’ fe fyddai'r Byd wedi bod yn cystadlu â’r Sun, y Mirror a phapurau newydd pwerus o’r fath wrth drafod yr X Factor a gyrfa Cheryl Cole. Dyna frwydr na fyddai wedi ei ennill mae arna’i ofn!

Comments

  1. 'Roeddwn i o blaid Guardian/Independent Cymraeg.
    Nid Yr Haul neu'r Drych.
    Rhaid symud ymlaen hefo golwg360. Gwirion fyddai cau'r drws yn glep ar y syniad o bapur dyddiol Cymraeg. Tydi anobaith yn da i uffar o ddim byd.
    Mae trio teithio i wlad yr addewid yn bwysig. Ni fyddwn yn cyrraedd, ond mae teithio yno yn bwysig.

    ReplyDelete

Post a Comment