Dyfais ddiddorol arall

Fel yr ydw i wedi ei grybwyll eisoes rydw i bellach yn gwneud doethuriaeth yn  y Gymraeg a Thechnolegau Cyfathrebu, ym Mhrifysgol Bangor. Rydw i wrthi ers rhyw fis bellach ac wedi dechrau o’r dechrau un, yn gronolegol, gan ganolbwyntio ar y llawysgrifau Cymraeg cynharaf a dyfodiad yr argraffwasg i Gymru.

Wrth ddarllen am y mynachod druan yn gorfod copïo llyfrau gair am air yn eu mynachlogydd, roedd gen i rywfaint o gydymdeimlad gan fy mod i’n cael y gwaith o gopïo dyfyniadau o’r degau o lyfrau sydd ar gael ar y pwnc yn straen. Felly ar ôl trafodaeth ar hap yng nghoridor yr athrawon â myfyriwr arall dyma fi’n penderfynu buddsoddi mewn beiro sganio. Beth mae’r ddyfais yma yn ei wneud yn syml yw copïo ysgrifen o lyfr a’i drawsblannu i unrhyw gyfrwng sy'n derbyn testun ar y PC neu’r Mac – e.e. mae modd copïo testun o lyfr, papur newydd neu gylchgrawn yn syth i ddogfen Word neu flwch Twitter.

Mae’r beiro newydd gyrraedd yn y post ac wele isod fy ymdrech cyntaf i’w ddefnyddio, gan sganio darn o lyfr A Nation and its Books (dw i heb roi cynnig ar lyfr Cymraeg eto ond mae’n bosib dewis sganio yn yr iaith honno).

For want of evidence one cannot begin to speak of the history of the book in Wales before the eighth century. Wllilc the history of the book does not depend solely on surviving specimens, they are the prime witnesses and it has to be remembered how few they are. “From the eighth to the lwelflh cenlury the number of surviving books or fragments of books from Wales does not exceed twenty. For the whole medieval period the number of books of Welsh origin, while well over two hundred, may not exceed two hundred and fifty (excluding fragments of post-1200 date). About one hundred tln,,1 siXly of these ore In Wcl!:!h. The moin rcoson for the considerable uncertainty as to number is the difficulty of proving the Welsh origin of Latin books of later Welsh provenance, not to mention the absence of clues to the provenance, let alone the origin, of most medieval Latin books. Nor can the possibility of books being written in medieval Wales in French and English be dismissed, though no certain examples have been identified other than books where these languages occur beside Latin or Welsh.

Mae yna ambell i gamgymeriad, ond o ystyried mai dyma fy ymdrech cyntaf, fod testun yn y llyfr yn fân iawn iawn, a bod y broses wedi cymryd tua 25 eiliad dw i’n meddwl bod y canlyniad yn eithaf da! Cawn weld sut y mae’n ymdopi â heriau anoddach, e.e. Yn y llyvyr hwnn neu sgript ynysig y Celtiaid cynnar. Ond fe ddylai arbed dyddiau o waith copïo, a hefyd sicrhau nad yw’r gwaith o drosglwyddo dyfyniadau o’r dudalen i’r sgrin yn torri ar lif y darllen.

Comments

  1. Leusa Fflur Llewelyn10/21/2011 03:27:00 pm

    Alla i ddychmygu fod hwnna am arbed oriau i ti - handi iawn. Biti na faswn i wedi gwbod am ei fodolaeth yn sgwennu fy MPHil!

    ReplyDelete
  2. Dw i'n siwr y gallai fod o ddefnydd i awduron hefyd - os wyt ti'n gweld brawddeg neu baragraff yr wyt ti'n ei hoffi mewn llyfr fe allet ti wneud cofnod cyflym ohono gyda'r beiro wrth ddarllen a troi ato yn ddiweddarach am ysbrydoliaeth.

    ReplyDelete

Post a Comment