Kindle Cymraeg

Ges i a fy mrodyr Kindle yr un yn anrhegion Nadolig, gan ein hannwyl fam. Fydd ddim rhaid i fi brynu’r un llyfr papur eto – dim ond eu lawrlwytho yn syth i fy nheclyn clawr lledr. Dim rhagor o ddifetha’r amgylchedd i fi! (heblaw am yr holl goed fydd yn cael eu llosgi yng ngorsafoedd pŵer biomas newydd Cymru er mwyn darparu’r trydan fydd yn cynnal fy Kindle, wrth gwrs...)

Wrth ddechrau darllen roeddwn i braidd yn amheus a oedd darllen ar Kindle cystal a chael llyfr mawr tew yn fy llaw ond erbyn i chi gael eich sugno i mewn i ba bynnag nofel ydach chi’n ei ddarllen does dim cymaint a hynny o wahaniaeth. Yn eironig, er bod y dechnoleg mor newydd, y peth cyntaf wnes i oedd lawrlwytho degau o hen glasuron oedd ar gael am ddim. Rydw i’n darllen Moby-Dick ar hyn o bryd. Nyarr!

Dw i’n credu bod y Kindle ‘ma yn beth da i lyfrau Cymraeg. Alla’i weld fy hun yn darllen mwy os ydyn nhw ar gael ar wasgiad botwm, yn hytrach na prynu ryw bump nofel yn y Steddfod bob blwyddyn, ac un neu ddau wrth ymweld â Palas Print neu Siop Gomer Llandysul. Yr unig bryder sydd gen i ydi nad oes unrhyw e-lyfrau Cymraeg ar gael i’w lawr lwytho ar wefan Amazon ar hyn o bryd ac felly dw i ddim yn siwr a fydden nhw’n gweithio ar y Kindle. Dw i’n gweld bod sawl nofel ar gael ar wefan y Lolfa – gan gynnwys Yr Argraff Gyntaf – ond a ydyn nhw yn y fformat cywir?

Mae yna bosibiliadau amlwg ym myd cylchgronau a gwefannau Cymraeg hefyd, wrth gwrs. A fydda i’n darllen Golwg a Barn y dyfodol ar y Kindle? Byddaf, mae'n siwr.

Comments

  1. Dyma ble dw i am fod ar fy mwyaf hen ffasiwn ac afresymol: papur i mi am byth. Dw i'n gwerthfawrogi bod teclyn fel y Kindle yn lot mwy cyfleus a chynaladwy. Ond dw i'n neilltuo amser yn arbennig er mwyn darllen llyfrau, ac er mwyn canolbwyntio'n iawn ar wneud hynny dw i angen gafael mewn talp o bapur. Fel arall, byddai'n teimlo gormod fel defnyddio unrhyw hen declyn arall, a byddai fy meddwl yn mynd ar gyfeiliorn. Pan dw i ar y we er enghraifft dw i'n gwibio a chrwydro o un dudalen i'r llall nes bod gen i 25 tudalen wahanol ar agor. Chwaeth bersonol ydi hynny, ond dyna ni.

    Hefyd, dw i'n credu bod silffoedd llyfrau'n hardd a phwysig. Dydi eicon bach ar sgrîn ddim yn gwneud y tro.

    ReplyDelete
  2. i grynhoi, BWWWWW i dechnoleg! Hmph.

    ReplyDelete
  3. Dylan ap Llyr, 1450: "Fydda'i byth yn darllen y llyfrau printiedig yma. Llyfr mawr tew wedi ei baentio gyda llaw gan fynach dros gyfnod o 100 mlynedd i fi bob tro. Mae'n llawer mwy deiniadol a dw i'n hoffi oglau yr inc lliw. Mmmm..."

    ReplyDelete
  4. Yn hollol.

    Dw i ddim yn gwadu'r ffaith fy mod i'n bod yn afresymol. Ond dw i am fod yn styfnig ar y mater yma.

    O ran diddordeb, sut mae pori a chael cipolwg ar lyfr electronig cyn ei brynu? Oes modd cael munud neu ddau o fflicio drwy'r tudalennau cyn bod rhaid talu?

    ReplyDelete
  5. Dwi'n siwr bod modd darllen 10-20 tudalen o lyfr ar Amazon cyn ei lawr lwytho.

    Dw i'n siwr na fydd y llyfr papur yn diflannu. Wedi'r cwbwl mae angen shilff llawn llyfrau y tu ol i unrhyw academydd sy'n ymddangos ar y teledu i wneud iddo edrych yn glyfar.

    ReplyDelete
  6. Newydd lawr lwytho popeth ysgrifennodd Charles Dickens erioed mewn 5 eiliad. Bwahhaa...

    ReplyDelete
  7. Papur yw technoleg hefyd. Dyw e ddim yn hawdd iawn i gopïo’r profiad chwaith. Efallai dyma pam mae rhai o awduron yn rhannu eu llyfrau am ddim. (Darllena fy nghofnod diweddar os oes gyda ti diddordeb.)

    ReplyDelete
  8. Galla' i feddwl am o leiaf un llyfr y dylet ti ei brynu ar Kindle: http://stwnsh.com/cwrwamddim

    ReplyDelete
  9. Dw i ddim yn meddwl ei fod ar gael ar Kindle, Chris! Bydd rhaid i ti haslo'r cyhoeddwyr.

    ReplyDelete
  10. Diddorol iawn. Dwi newydd gael Kindle fy hun. Dwi wrth fy modd efo fo, ond yn siomedig fod yna gyn lleied o ddeunydd Cymraeg sydd ar ei gyfer eto.

    Yr hyn dwi eisio wybod yw, pryd bydd cylchgrawn Golwg ar gael ar Kindle? 'Swn i'n tanysgrifio, ar yr amod fod y gost yn is na'r fersiwn papur, wrth gwrs!

    ReplyDelete

Post a Comment