Gwerthiant llyfrau Cymraeg - eithaf da ar y cyfan?

Does yna ddim ffigyrau, hyd y gwn i, sy’n dangos faint o lyfrau Cymraeg sy'n cael eu gwerthu. Dw i wedi clywed mai tua 1,000 o gopïau o'r llyfr Cymraeg 'cyffredin' sy'n cael eu hargraffu yn y lle cyntaf. Mwy os ydi'r llyfr yn ennill Llyfr y Flwyddyn neu ryw wobr arall. Felly mae hynna'n ryw fath o ganllaw amwn i.

Hyd yn hyn mae Igam Ogam wedi gwerthu 2,300 copi, ac fe werthodd Yr Argraff Gyntaf tua 450 yn y mis cyntaf, ond does gen i ddim y ffigyrau ar ôl hynny eto. Dw i ddim yn disgwyl iddo werthu cystal â Igam Ogam oedd â holl heip y Steddfod y tu ôl iddo, ond os ydi o'n ad-dalu ffydd y cyhoeddwr yna'i fe fyddai'n hapus.

Roedd yna sôn ar y pryd bod y Llyfrgell gan Fflur Dafydd wedi cael ail argraffiad, felly mae'n siŵr bod y gwerthiant tua 5,000+ erbyn hyn? Ond fydden i'n dychmygu mai dyna'r mwya' y mae llyfr Cymraeg sydd ddim ar y maes llafur yn mynd i'w werthu.

Tu hwnt i fy mhrofiad i mae'n anodd gwybod, ond os ydach chi'n awdur sydd â'r ffigyrau wrth law gadewch neges isod.

Cwestiwn arall ydi a oes angen yr holl swildod ynglŷn â faint o gopïau o lyfrau Cymraeg sy’n cael eu gwerthu.

Darllenais i Rywle™ bod nofelau Saesneg yn gwerthu tua 500 copi ar gyfartaledd, ond bod yr ambell nofel sy'n gwerthu miliynau yn gwneud yn iawn am hynny. Mae'r ffigwr yna'n swnio'n isel ond mae tua 200,000 o nofelau newydd yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, a'r rhan fwyaf yn diflannu heb sôn amdanyn nhw. (Maen debyg bod llyfr diweddaraf Gordon Brown wedi gwerthu llai nag 100 copi!) Mae gwerthu 5,000 copi o nofel Saesneg yn cael ei ystyried yn llwyddiant gan gyhoeddwyr.

Felly dw i ddim yn meddwl bod angen i ni gywilyddio ynglŷn â gwerthiant llyfrau Cymraeg!

Comments