Dal y byg


Awgrymodd BlogMenai yn sylwadau y cofnod diwethaf mai un ffordd o godi nifer darllenwyr y blog yma  fyddai “blogio’n aml a troi'r drol efo rhywun neu'i gilydd pob hyn a hyn”. Gan mai ef yw awdur Blog Cymraeg Gorau 2010™ mae o’n amlwg yn gwybod ei stwff.

Yn anffodus gan fy mod i’n newyddiadurwr does gen i ddim lot o droliau ar ôl i’w troi. Ond fe alla’i gymryd ei gyngor i flogio rywfaint yn amlach fan hyn.

Fe ddaliais i’r byg yr wythnos diwethaf. Na, dim y Norovirus – er mod i wedi dal hwnnw yn ystod yr wythnos hefyd a methu dau ddiwrnod yn olynol oddi ar y gwaith am y tro cyntaf mewn pum mlynedd – ond y byg ysgrifennu. Maen rhyfedd pan mae hynny’n digwydd, a ti’n eistedd i lawr i ysgrifennu dau baragraff ac erbyn i ti stopio sgwennu mae yna 1,500-2,000 o eiriau newydd o dy flaen. Pan mae hynny’n digwydd mae ysgrifennu yn bleser pur a dw i’n gallu colli oriau i rywle heb sylweddoli.

Dw i wedi cael dipyn o hoe o ysgrifennu’n greadigol ers gorffen fy nofel ddiwethaf. Mae gen i blentyn pedair mis oed, sy’n amlwg yn cael effaith, ac wedi bod yn tywallt lot o fy egni mewn i’r gwaith.

Ond rhan o’r peth ydi bod gorffen nofel yn anodd - mae’n rhy hwyr i wneud newidiadau mawr felly rydach chi wedi eich caethiwo gan eich nofel eich hun i ryw raddau ac yn ceisio gwneud newidiadau bach fydd yn cael effaith mawr ar safon y cyfanwaith. Mae’n rhyfedd sut alla newidiadau bach effeithio ar nofel. Mae fel symud carreg mewn nant a bod y nant yn mynd i gyfeiriad hollol wahanol tair milltir i lawr yr afon. Ond mae’r broses eithaf caled ac mae sgwennu yn dechrau crwydro dros y ffin rhwng pleser a bod yn dipyn o slog.

Beth bynnag, dw i wedi ailddechrau sgwennu. Y peth sy’n sbarduno ysgrifennu nofel, yn fy nhyb i, ydi syniad. Y syniad yna ydi’r tanwydd sy’n dy gadw di fynd wrth ysgrifennu wedyn. Yr ‘Oni fyddai’n wych petai...’ Dw i’n meddwl mai dyma pam bod Igam Ogam a’r Argraff Gyntaf yn nofelau mor wahanol. Fyddai gweithio ar sail yr un syniad eto ddim wedi fy modloni i. A dyma pam fy mod i’n mynd i gyfeiriad cwbl wahanol eto tro yma.

Felly fe ddechreuais i ysgrifennu o ddifrif dydd Sadwrn, ar ôl cael Syniad™. Mae gen i ryw 3,000 o eiriau i lawr yn barod.  Mae’n braf cael dechrau ar syniad cwbwl newydd a gadael i fy nychymyg redeg yn wyllt, heb gael fy nal yn ôl gan y ffeithiau!

Cawn ni weld am faint mae’r byg ysgrifennu yn parhau. A gyda thŷ llawn plant a gwaith mwy na llawn amser, dwn i ddim faint o amser fydd gen i sgwennu chwaith...

Comments

  1. Ooh, cyffrous iawn.

    Dw i wastad yn dweud wrth fy hun y dylwn ail-ail-ail-ddechrau blogio ond mae'n anodd dod mewn i'r habit. Mae'n teimlo fel petawn i'n mwynhau darllen gormod i sgwennu stwff fy hun weithiau, sy'n biti.

    ReplyDelete
  2. Roeddwn i'n mwynhau dy flog Dylan. Roedd o'r un lefel a Guto Dafydd ac yn ymylu ar lefel Blogmenai tra barodd o. ;)

    Y broblem pennaf gyda'r blog yma ydi mod i'n rhoi unrhyw sylw o werth ar flog Golwg 360. Yr oll sydd ar ol i'r blog yma ydi trafod sgwennu nofelau, felly dw i am ganolbwyntio ar hynny!

    ReplyDelete

Post a Comment