Na, nid pennawd yn clodfori fy nofel fy hun ydi hwnna i fod. Dim ond dweud bod Yr Argraff Gyntaf wedi gwneud argraff dda ar ddau o adolygwr Radio Cymru!
Dywedodd y ddau eu bod nhw wedi mwynhau’r nofel yn fawr iawn a rhoi 8/10 yr un iddo.
Gwrandwch ar raglen Nia Roberts fan hyn (mae’r adolygiad yn dechrau 1.06.00 i mewn i’r rhaglen, gyda phwt gen i dros y ffôn sy’n swnio fel pe bai o wedi ei recordio o blaned arall).
Dyma ambell i ddyfyniad o’r adolygiad:
“Dydw i ddim yn un am ddarllen nofelau ditectif ond rydw i wedi newid fy meddwl ar ôl darllen y llyfr yma.”
“Mae’r arddull yn grefftus tu hwnt. Mae’r ffordd y mae o’n disgrifio Caerdydd yn y cyfnod yn glyfar iawn.”
“Rydach chi eisiau parhau i ddarllen. Mae’n nofel sy’n dechrau yn gyffrous ac yn gorffen yn gyffrous. Mae’n nofel wych.”
“Mae’r awdur wedi llwyddo yn hynod o grefftus i gydblethu’r hanes gyda phlot y stori.”
“Fe wnaeth o adael argraff gyntaf da arna’i!”
Wrth gwrs, dyw adolygiadau da ddim bob tro’n golygu y bydd pobol yn prynu’r llyfr - wele brofiad digalon Chris Cope fan hyn.
Felly fel Chris Cope rydw i am fod yn hollol ddigywilydd a gofyn i chi plîs brynu’r nofel. Rydw i eisau i chi fwynhau'r nofel, ac rydw i wrth fy modd yn ysgrifennu ac eisiau'r cyfle i fwrw ymlaen gyda mwy o nofelau. Diolch yn fawr!
Comments
Post a Comment