Adolygiad arall o'r Argraff Gyntaf

Yn dilyn adolygiad Yr Argraff Gyntaf ar Radio Cymru ddechrau'r mis mae yna bellach adolygiad arall gan Lowri Roberts ar wefan 'Cymru Cylchgrawn' y BBC.

Dyma rai dyfyniadau:
Nofel hanesyddol, nofel dditectif, nofel antur - mae'r gyfrol hon yn gyfuniad o'r tri ac fel un oedd yn dotio ar ddarllen nofelau Hanes Marion Eames roedd Yr Argraff Gyntaf yn sicr yn apelio.

Mae yma ôl gwaith ymchwil trwyadl ac mae'r nofel yn gyforiog o gyfeiriadau hanesyddol.

Yn y golygfeydd sy'n delio â sut i drin a sgwennu stori bapur newydd dda y daw adnabyddiaeth a meistrolaeth Ifan Morgan Jones o'i grefft i'r amlwg.

Ond yn wahanol i newyddiadurwyr mae ei arddull ar brydiau yn fwy llenyddol gan ymylu ar fod yn farddonol.

Oes mae tipyn mwy na stori dditectif dda yma. Mae iddi arddull gaboledig hefyd.

Gyda'i nofel gyntaf, Igam Ogam fe enillodd Ifan Morgan Jones wobr goffa Daniel Owen. Dwi'n rhagweld y bydd cymaint o ganmol ar y nofel hon.

Diolch i Lowri Roberts am ei geiriau caredig!

Comments