Mocha efo'r maps

Dw i’n mwynhau mocha o gwmpas gyda Google Maps. Ychydig fisoedd yn ôl wnes i greu’r map canlynol sy’n dangos lleoliad bod Eisteddfod Genedlaethol ers y dechrau. Mae’n ffordd ddiddorol o weld pa lefydd sy wedi cael llawer gormod o Steddfodau a pa ardaloedd sy’n haeddu mwy...


View Eisteddfod Genedlaethol in a larger map

Dw i'n dechrau gweithio ar map newydd nawr sef un yn dangos ble mae holl dimau rygbi Cymru. Fe fydd o'n ddiddorol i fi am ei fod o'n adlewyrchu ble mae rygbi ar ei fwyaf poblogaid! Dim ond timau'r Gynghrair Magners ac Uwchgynghrair Cymru sy' na ar y funud ond dwi'n gobeithio ychwanegu y gweddill cyn hir!


View Rygbi Cymru in a larger map

Comments

  1. Dylet ti sôn am hyn yn Hacio'r Iaith :)

    ReplyDelete
  2. Sori dw i'n siarad yn y fersiwn Maori yn barod - Hakaio'r Iaith. ;)

    ReplyDelete
  3. Rwy'n hoffi map yr Eisteddfodau. Ychydig o gwestiynau:
    1) I ba raddau mae'r wybodaeth am bob eisteddfod yn cyd-fynd a beth sy ar y wiki lle mae rhestr o bob un: http://cy.wikipedia.org/wiki/Eisteddfod_Genedlaethol_Cymru
    2) Beth am olygu'r wiki rywffordd i wneud cysylltiad?
    3) Tybed a fyddai modd manteisio ar http://dbpedia.org/ i wneud y cysylltiad? Os na wnest ti yn y lle cyntaf hynny yw.

    ReplyDelete

Post a Comment