Terry Pratchett a'r Gymraeg


Pan gafodd Igam Ogam ei ryddhau fe wnaeth bron pob un o’r cyfryngau gymharu'r nofel â gwaith Terry Pratchett. Mae’n amlwg pam - mae o’n gomedi ffantasiol, ac roeddwn i wedi enwi Terry Pratchett fel un o fy hoff awduron yn y datganiad i’r wasg.

Dim creu nofel Terry Pratchett Cymraeg oedd fy nod, serch hynny, ac roedd ffilmiau Hayao Miyazaki a’r gemau Thief yn llawn cymaint o ysbrydoliaeth. Ond dw i ddim yn meddwl bod modd ddarllen dros 30 nofel gan yr un awdur heb i’w steil o dreiddio i fer eich esgyrn.

Dw i’n dal i brynu llyfrau Terry Pratchett am fy mod i’n siŵr o’i hoffi nhw, ac mae o wedi llwyddo i gadw pethau’n eithaf ffres, er fy mod i o dro i dro yn gweld yr un cymeriadau a themâu wedi eu trawsblannu o nofel i nofel dan enwau gwahanol. Dros y blynyddoedd mae ei nofelau wedi tueddu tuag at ddychan mwy tywyll na chomedi ysgafnach ei lyfrau cyntaf.

Er enghraifft, yn ei lyfr diweddar Thud! mae’r awdur yn trafod eithafiaeth grefyddol drwy bortreadu'r corachod fel Mwslemiaid. Mae arweinwyr y corachod, y Grags (read: ayatollahs) yn byw yn ddwfn o dan y ddaear mewn tywyllwch, ond yn dweud wrth y corachod sy’n byw ar y wyneb yn y ddinas ar y wyneb sut i ymddwyn yn eu bywydau bob dydd. Mae’r corrachod hefyd yn casáu'r troliaid, oherwydd ryw frwydr 500 mlynedd yn ôl does neb yn cofio pwy ddechreuodd hi.

Dw i ddim am sbwylio’r diweddglo i chi, ond y neges amlwg ar y diwedd yw bod hiliaeth yn beth drwg, m’kay?

Ond un peth sydd wedi fy mhoeni i, o’i lyfrau cynnar hyd heddiw, yw agwedd yr awdur tuag at yr iaith Gymraeg. Cymerwch y darn yma o’i nofel ddiweddaraf, Unseen Academicals, gafodd ei ryddhau fis yma. Mae Glang yn gorrach o Llamedos (fersiwn y Disgfyd o Gymru):

Glang dealt with the situation by not understanding anything they said and uttering silly insults in his native tongue. There was hardly a risk. Only the Watch learned Dwarfish, and it came as a surprise when the worryingly harmless one said, in better Llamedos Dwarfish than Glang spoke these days: ‘Such incivility to the amiable stranger shames your beard and erases the writings of Tak, ancient merchant.’

Yr awgrym amlwg uchod yw bod y Cymru Cymraeg yn hoffi dweud pethau tu ôl i gefnau pobol a ddim ond yn siarad yr iaith er mwyn gwneud hynny. Mae yna nifer o digs bach tebyg yn ei lyfrau eraill, rhai tuag at yr Eisteddfod a’r ffaith bod o ‘o hyd yn bwrw yn Llamedos’.

Ydi o’n dweud rhywbeth pan mae gan rywun mor glyfar â Terry Pratchett agwedd fel yma at y Gymraeg? Mai mater o anwybodaeth ydi o, efallai, a bod cyfrifoldeb arnom ni i wneud mwy i addysgu pobol am sefyllfa’r Gymraeg yn hytrach nag cwyno yn unig pan mae pobol yn ei ddifrïo?

Ynteu ydi Terry Pratchett yn ddyn hen gydag agweddau hen ffasiwn tuag at Gymru? Ac a bod yn deg, mae nifer o wledydd eraill yn cael yr un driniaeth. Ond os yw Terry Pratchett yn medru ysgrifennu nofel gyfan am beryglon hiliaeth byddai’n neis petai’n dangos dealltwriaeth well o sefyllfa’r iaith Gymraeg.

Comments