Dewis Archdderwydd(es)...


Mae'n debyg bod y dyfalu eisoes wedi dechrau ynglŷn â'r Archdderwydd nesaf, ar ôl i Dic Jones farw ym mis Awst.

Mae’n siŵr mai fi a gweddill dosbarth ’09 yw’r unig aelodau o’r Orsedd fethodd a chael eu derbyn gan yr Archdderwydd. Mae fy nhystysgrif wedi ei arwyddo gan y ‘Dirprwy Archdderwydd’, Selwyn Iolen, wnaeth gymryd yr awen-au pan oedd Dic yn sâl yn ystod Eisteddfod y Bala.

Ond fe ges i fy ngorseddu gan Dic, mewn ffordd – un o brofiadau mwyaf cofiadwy a doniol fy mywyd oedd pan wnaeth y Dic Jones fy ‘nerbyn i’r Orsedd’ mewn parti pen blwydd y llynedd. Yn hytrach na galw ‘A oes Heddwch?’ fe wnaeth o alw ‘A oes Porthwll?’. Os ydych chi wedi darllen Igam Ogam fe wnewch chi ddeall y jôc.

Fe ges i gerdd ganddo hefyd, a dw i wedi ei fframio fo gyda’r fedal ges i. Yn anffodus dw i ddim yn deall digon am farddoniaeth, na llawysgrifen Dic Jones, i gynnig dadansoddiad llawn ohono.

Dw i wrth fy modd gyda’r Orsedd, ac fe ges i’r fraint o ymuno dros yr haf. Roedd fy niwrnod cynta’ i’n teimlo tipyn bach fel y diwrnod cynta’ yn yr ysgol. Pan sibrydodd rywun wrtha’i ‘Paid gadael i ----- dy weld di heb dy fedal!’ ro’n i nôl ym mlwyddyn naw yn poeni bod fy nghrys i’n sticio allan o fy nhrowsus. Ac fe wnes i gyrraedd seremoni’r Coroni yn hwyr a gorfod palu drwy mor o dderwyddon glas er mwyn cyrraedd yr ewyn ar lan y llwyfan.

Ond fe wnes i fwynhau pob munud o’r seremonïau ac roedd pawb yn hynod o groesawgar.

Beth bynnag, bore ‘ma ges i ddau lythyr drwy’r post. Un gan gwmni Melin Tregwynt, at Ieuan Jones o 'Yr Hen Sacws' (?!), a'r llall gan Orsedd y Beirdd yn gofyn i mi enwebu Archdderwydd newydd. Dim ond llond llaw o aelodau o’r Orsedd ydw i’n nabod, a dim un ohonyn nhw’n amlwg yn torri’u boliau eisiau’r cyfrifoldeb o ddilyn yn ôl traed y cewri a fu.

Felly os oes gennych chi unrhyw syniadau, gadewch nhw isod!

Comments