Pam ydw i’n cefnogi’r Llewod?



Mae’r adeg yna o’r flwyddyn unwaith eto pan mae Cymry cenedlaetholgar yn cymryd balchder mawr mewn datgan eu gwrthwynebiad i dîm rygbi’r Llewod. Efallai y dylwn i fod yn eu mysg nhw, gan fy mod i hefyd yn wrthwynebus i greu hunaniaeth Brydeinig ar draul hunaniaeth unigryw y Cymry, Saeson, Gwyddelod ac Albanwyr.

Felly pam cefnogi’r Llewod? Dyna’r cwestiwn y gofynnodd Busking Womble i mi ar Twitter, ac fe wnes i addo ysgrifennu blog pum munud i’w ateb. 

Wel, yn gyntaf am nad ydw i’n credu bod y Llewod yn cynrychioli hunaniaeth Brydeinig. Mae gwlad cyfan annibynol arall yn rhan o’r peth, wedi’r cwbwl. Ceisiwch argyhoeddi chwaraewyr Iwerddon eu bod nhw yn chwarae i dim Prydain.

Yn fy nhyb i perygl Prydeindod yw mai diwylliant Lloegr ydyw yn bennaf, nid undeb hafal o hunaniaethau pob gwlad fel sy’n cael ei awgrymu gan sloganau fel ‘Better Together’.  Pe bai tîm y Llewod wedi ei gyfansoddi o chwaraewyr Lloegr yn bennaf gydag ambell i Gymro a Sgotyn wedi eu cynnwys ar yr esgyll fe fyddwn i’n derbyn y feirniadaeth. Ond yn ddiweddar made’r Llewod wedi ymdebygu i gynghrair o chwaraewyr Celtaidd, gydag ambell i Sais yn y pac. 

Mae'r chwaraewyr yn dweud bod cynrychioli'r Llewod yn 'anrhydedd anferth' ond rwy'n credu bod gan hynny fwy i'w wneud efo'r ffaith ei fod yn dim hynod o anodd cael mynediad iddo, yn hytrach nag unrhyw falchder Prydeinig. Os all Ray Gravell gymryd balchder wrth eu cynrychioli mae'n anodd dadlau bod elfen Prydeinig iawn i'r peth.

Yn bersonol rwy'n gweld y tîm fel ryw fath o ‘y gorau o’r Chwe Gwlad heb Ffrainc a Sergio Parisse’. A dweud y gwir fe fyddwn yn ddigon hapus i ymestyn ffiniau’r tîm i ganiatáu i chwaraewyr eraill o Ewrop gymryd rhan, fel y digwyddodd â Cwpan Ryder. Beth sy’n atal hyn rhag digwydd? Y ffaith bod gan y chwaraewyr iaith yn gyffredin? Traddodiad? Pwy a wyr, ond dyna’r fformat. Hoffwn i symud tymor rygbi hemisffer y gogledd i’r haf, ond does gen i ddim rheolaeth dros y peth, felly rhaid derbyn y drefn fel ag y mae.

Efallai na fyddai angen y Llewod pe bai timoedd y Chwe Gwlad yn maeddu Seland Newydd, Awstralia a De Affrica yn aml. Ond y gwirionedd yw cyfuno ein chwaraewyr gorau fel ryw fath o Transformer-dal-wy yw un o’r unig gyfleon i gystadlu ar yr un lefel â nhw. Hyd yn oed wedyn rydyn ni wedi colli saith o’r wyth gêm prawf diwethaf.

Yn ogystal a hynny mae'r ffaith bod y gemau yn tueddu i fod yn rhai o safon uchel iawn. Oherwydd bod y gemau mor brin ac yn golygu cymaint, mae’r chwaraewyr yn gadael popeth ar y cae. Rwy’n siwr i mi glywed rhywun yn dweud unwaith bod y tair gêm prawf i gyd yn gyfystyr â ffeinal Cwpan y Byd, ac mae’n sicr yn teimlo felly. 

Ond efallai mai’r gwirionedd yw fy mod i’n dipyn o sucker am unrhyw fath o heip. Fe alla’i wylio unrhyw gamp dim ond bod y cyfryngau yn gwneud mor a mynydd o’r peth – a hynny er fy mod i’n ddarlithydd mewn adran cyfryngau ac yn ymwybodol o’r holl driciau y maen nhw’n eu defnyddio i greu’r fath gyffro ynddaf yn y lle cynta'.

Comments

  1. Dwi'n meddwl efallai dy fod yn methu'r pwynt. Tydi'r rhan fwyaf o bobl sy'n datgan eu "gwrthwynebiad" i'r Llewod ddim yn ei wrthwynebu ar unrhyw sail genedlaetholgar/gwleidyddol (er bod rhai yn gwneud debyg).

    Y broblem sydd gan nifer ohonom yn ei hanfod ydi bod yna dîm y mae mwy o anrhydedd i chwarae iddo na'r tîm cenedlaethol - dyna'r cyfan ydi o yn blwmp ac yn blaen; mae'n cael ei wneud allan, yn sicr gan y cyfryngau, fod chwarae i'r Llewod yn fraint sydd oruwch y lefel genedlaethol. Ma hynny'n mynd ar fy nerfau.

    ReplyDelete
  2. Dydw i ddim yn meddwl mod i'n methu'r pwynt - o'r bobl sy'n gwrthwynebu'r Llewod yr ydw i wedi siarad efo nhw, yr elfen Brydeinig sy'n mynd ar eu nerfau nhw fwyaf.

    O ran yr elfen ' fraint' - fel y dywedais i yn y blog rwy'n credu mai'r ffaith bod cael mewn i dim y Llewod yn anoddach na chael i mewn i'r tim cenedlaethol sy'n gyfrifol am hynny. Mae'n gadarnhad i'r chwaraewyr maen nhw yw'r gorau o'r gorau - yn enwedig os ydyn nhw'n ennill y gystadleuaeth.

    ReplyDelete

Post a Comment